Jiwbilî Platinwm y Frenhines
Ar 6 Chwefror 2022, daeth Ei Mawrhydi’r Frenhines y gyntaf ym Mhrydain i deyrnasu am 70 mlynedd, gan ddathlu Jiwbilî Platinwm.
Bwriedir cynnal nifer o ddigwyddiadau a mentrau drwy gydol y flwyddyn i nodi’r achlysur digynsail hwn.
Bydd penllanw’r dathliadau hyn yn cael eu cynnal ar benwythnos gŵyl y banc estynedig yn dechrau ddydd Iau 2 Mehefin ac yn dod i ben ddydd Sul 5 Mehefin 2022.
Yn ogystal â nifer o ddigwyddiadau sy’n cael eu cynllunio’n genedlaethol, anogir pobl ar hyd a lled y DU i ddod ynghyd a dod â dathliadau’r Jiwbilî i wraidd eu cymunedau eu hunain.
I gael mwy o wybodaeth am ddathliadau’r Jiwbilî Platinwm, ewch i https://www.royal.uk/platinum-jubilee-central-weekend
Cynllunio dathliad cymunedol
Darllenwch y wybodaeth isod os ydych chi’n byw yn Sir y Fflint ac am gynllunio dathliad cymunedol.
Partïon Stryd
Parti stryd yw digwyddiad bach ar gyfer trigolion lleol a'u teuluoedd (am ddim); nad yw'n cael ei hysbysebu i'r gymuned ehangach.
Caiff ei gynnal mewn tŷ neu ardd, mewn man gwyrdd lleol neu ar ffordd breswyl dawel.
Y trigolion lleol fydd yn darparu’r bwyd ac ni chaniateir gwerthu alcohol.
Caniateir chwarae cerddoriaeth heb seinchwyddwr rhwng 8am ac 11pm (oni bai bod Hysbysiad Digwyddiad Dros-dro yn ei le).
Gellir gwerthu tocynnau raffl ar gyfer elusen neu achos da ar y diwrnod am wobrau gwerth llai na £500.
Os yw hyn yn swnio fel eich digwyddiad chi a’ch bod yn bwriadu ei gynnal ar isffordd breswyl, lle na fydd fawr o effaith ar draffig trwodd, bydd angen i chi wneud cais am Orchymyn Traffig Dros Dro (TTRO).
** Mae'r broses ymgeisio ar gyfer TTRO bellach wedi cau. **
Digwyddiadau Cyhoeddus
Mae digwyddiad cyhoeddus yn wahanol i barti stryd.
Gall unrhyw un fynychu a gellir codi tâl mynediad.
Rhoddir cyhoeddusrwydd eang i'r digwyddiad, er enghraifft ar-lein neu gyda phosteri.
Fe'i cynhelir mewn adeilad sy'n agored i'r cyhoedd neu barc.
Gweinir bwyd poeth a diod ar ôl 11pm.
Mae alcohol ar gael i’w brynu.
Caiff cerddoriaeth fyw ei chwarae rhwng 8am ac 11pm.
(Mae’n rhaid rheoli lefelau cerddoriaeth wedi’i fwyhau o ddigwyddiadau wedi’u recordio neu ddigwyddiadau byw fel nad yw’n achosi niwsans sŵn i gymdogion. Yr arfer gorau fyddai dilyn ‘Cynllun Rheoli Sŵn’ fel rhan o’ch asesiad risg.)
Gellir gwerthu tocynnau raffl ar gyfer elusen neu achos da cyn y digwyddiad.
Os yw hyn yn swnio fel eich digwyddiad chi, bydd angen i chi gyflwyno Rhybudd Digwyddiad Dros Dro i'r Cyngor ddim hwyrach na deg diwrnod gwaith cyn y digwyddiad.
I gael mwy o wybodaeth am Rybudd Digwyddiad Dros Dro a sut i’w gyflwyno, ewch i https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Business/Licences-and-permits/Temporary-event-notice.aspx