RHAGLEN CYFLEUSTERAU CYMUNEDOL
Dyma gronfa grant cyfalaf sy'n anelu at ddatblygu a gwella cyfleusterau ar gyfer cymunedau er mwyn trechu tlodi a’i effeithiau.
Nodau
Bydd y Rhaglen yn agored i brosiectau ledled Cymru. Bydd angen i geisiadau ddangos y canlynol am y cyfleuster sydd i'w wella:
- ei fod yn angenrheidiol ac yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned ac yn cynnig gwasanaethau nad ydynt yn cael eu dyblygu yn yr ardal o gwmpas
- ei fod yn darparu gwasanaethau sy'n atal neu'n lliniaru tlodi a'i effeithiau
- yn ail-gyflwyno neu'n atal colli gwasanaethau cymunedol
- yn cael ei gefnogi gan y gymuned leol a'i ddatblygu ar y cyd â hi
- yn strategol ac yn gallu profi hyn drwy ddangos tystiolaeth fod ganddo gefnogaeth yr awdurdod lleol, y Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol, Bwrdd Iechyd Lleol neu bartner tebyg
- yn gynaliadwy dros y tymor canolig i hir..
Cymhwysedd
Mae'r Rhaglen yn un gymunedol, ac mae yn agored i fudiadau'r sector gwirfoddol a chymunedol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol. Rydym yn cydnabod, er mwyn gwneud hyn fod yn rhaid i ni wella iechyd a lles; cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes; a rhagolygon economaidd aelodau unigol ein cymunedau mwyaf bregus.
Rydym am gael ceisiadau sy'n cael eu harwain gan y gymuned ac yn cael eu datblygu mewn partneriaeth â'r gymuned, a phartneriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat. Anogir cyd-leoli sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau megis mynediad at undeb credyd, gwasanaethau iechyd lleol, gwasanaethau swyddfa'r post, gwasanaethau ieuenctid, cyfleusterau chwaraeon, cyfleusterau llyfrgell ayb..
Y meini prawf cyllido
Bydd grantiau cyfalaf ar gael hyd at uchafswm o £500,000. Gellid mynd y tu hwnt i'r uchafswm hwn ar gyfer prosiectau eithriadol sydd yn dangos hefyd eu bod wedi cael trafferth denu cyllid o ffynonellau eraill.
Mae grantiau ar gael ar gyfer gwaith cyfalaf i ddarparu neu wella cyfleusterau cymunedol sy'n atal neu'n mynd i'r afael â thlodi drwy gynnig un neu fwy o'r gwasanaethau canlynol:
- Darparu, diogelu neu ail-gyflwyno gwasanaeth cymunedol gwerthfawr megis mynediad at undeb credyd, swyddfa'r post, llyfrgell, y siop/man gwerthu olaf yn yr ardal.
- Cynnal hyfforddiant seiliedig ar sgiliau neu hyfforddiant achrededig arall i wella rhagolygon buddiolwyr unigol o ran canfod swyddi.
- Cynnal gwasanaethau iechyd lleol, gweithgareddau ymarfer neu fyw yn iach.
- Darparu mynediad cymunedol i TG, mynediad at fand eang a/neu hyfforddiant TG i gynorthwyo cynhwysiant digidol.
- Cynnal banc bwyd, menter fwyd gydweithredol, mynediad at wasanaethau cynghori neu weithgaredd arall sy'n atal neu'n lliniaru effeithiau tlodi.
- Cynnal gweithgareddau a gyflwynir drwy raglen mynd i'r afael â thlodi Llywodraeth Cymru megis Cymunedau yn Gyntaf neu Teuluoedd yn Gyntaf.
- Annog cyd-leoli grwpiau lleol a darparwyr gwasanaethau i wella cynaliadwyedd cyffredinol y cyfleuster.
- Gwneud y gorau o'r cyllid sydd ar gael drwy osgoi dyblygu gwasanaethau a gweithio gyda phartneriaid lleol eraill yn y gymuned, y sectorau cyhoeddus a phreifat i wella cyfleoedd bywyd pobl leol.
Sut i wneud cais am gyllid
Gwahoddir ceisiadau i'r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol gan brosiectau a arweinir gan y gymuned hyd at uchafswm o £500,000.
Mae'n rhaglen grant dreigl sy'n golygu y gellir cyflwyno ceisiadau ar unrhyw adeg; nid oes unrhyw rowndiau cyllido ffurfiol.
Rhaid i geisiadau allu dangos fod y cyfleuster yn gynaliadwy ac felly rhaid cyflwyno hefyd gynllun busnes a ategir gan gyfrifon blynyddol lle byddant ar gael.
Bydd y broses ymgeisio mewn dau gam. Bydd Cam 1 yn gais byr a ddefnyddir i asesu cymhwysedd a chydymffurfiaeth â meini prawf y cynllun, er enghraifft, trechu tlodi. Bydd ymgeiswyr yn derbyn ymateb i gam un o fewn 30 diwrnod gwaith.
Mae cam dau yn gofyn am gyflwyno cynllun busnes. Mae proses dau gam yn helpu i sicrhau nad yw prosiectau nad ydynt yn cyfateb yn dda i'r meini prawf cyllido yn gwastraffu adnoddau ar ddatblygu cais nad oes ganddo fawr o siawns o lwyddo.
Bydd disgwyl i ymgeiswyr posibl weithio gyda awdurdodau lleol a Chynghorau Gwirfoddol Cymunedol yn ogystal â'r gymuned leol er mwyn datblygu ceisiadau.
Anfonwch eich datganiadau o ddiddordeb wedi'u cwblhau mewn e-bost at:
communityfacilitiesproghelp@wales.gsi.gov.uk
Manylion cyswllt
De Ddwyrain Cymru: Mike O'Shea ar 0300 062 8612
Gogledd a Chanolbarth Cymru: Nesta Doughty ar 0300 062 5627
Gorllewin Cymru: Helen Brown ar 0300 062 8265
Os na fydd yr uchod ar gael: Lisa Clarridge ar 0300 062 830
Ffurflen mynegi diddordeb
Canllawiau i rai sy'n ymgeisio am grant