Alert Section

Gardd Goffa


Yn y Mynwentydd ym Mhenarlâg a Kelsterton, Cei Connah, mae Cyngor Sir y Fflint wedi adeiladu eu Gerddi Coffa cyntaf.

Mae’r Gerddi yn nodwedd ddeniadol lle gall ymwelwyr i’r ddwy fynwent fynd i dreulio ychydig o amser mewn ardal dawel, heddychlon ac ymlaciol i fod yn agos at eu hanwyliaid neu i gofio amdanynt.

Mae’r ddau ddyluniad sythweledol yn golygu fod gan ymwelwyr rywfaint o breifatrwydd ac unigedd.  Gall teuluoedd hefyd brynu placiau coffa marmor o’r Swyddfa Gwasanaethau Profedigaeth i'w gosod ar y waliau yma. 

Mae ardaloedd yng nghanol yr ardd ac o amgylch ei berimedr sydd â llwyni a choed brodorol sydd wedi’u plannu a phlanhigion tymhorol i’w plannu allan i roi ychydig o liw drwy gydol o flwyddyn.   

Gellir prynu’r placiau coffa marmor  a’u gosod ar y wal neu fe ellir archebu gofod ar y wal i osod plac yn y dyfodol.  Gellir gosod placiau ar y wal er cof am unrhyw un, nid y rhai sydd wedi’u claddu yn y fynwent yn unig.  

Ffurflen Gais am blac coffa