Alert Section

Safon Ansawdd Tai Cymru


Beth yw Safon Ansawdd Tai Cymru?

Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod holl bobl Cymru, gan gynnwys tenantiaid tai cymdeithasol, yn gallu byw mewn cartrefi o ansawdd da, mewn cymunedau saff a diogel. 

Er mwyn sicrhau bod yr holl gartrefi’n cyrraedd lefel dderbyniol, maent wedi llunio Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Safon yw hon ar gyfer ansawdd a chyflwr adeiladau ac mae’n rhestru nifer o dargedau y bydd angen i bob cartref eu cyrraedd. 

Er mwyn i landlordiaid cymdeithasol fodloni’r safon, rhaid i’r cartrefi fod:

  • mewn cyflwr da
  • yn saff a diogel
  • yn fforddiadwy i’w gwresogi a chael yr effaith leiaf bosib’ ar yr amgylchedd
  • yn cynnwys ardal gyfleustodau a chegin fodern
  • yn cynnwys ystafell ymolchi fodern
  • yn gyfforddus ac yn hybu lles
  • â gardd addas; ac
  • â lle deniadol y tu allan.

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl dai cymdeithasol yn cwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru, ac yn parhau i’w bodloni. Mae Cyngor Sir y Fflint yn derbyn Lwfans Atgyweirio Mawr. Grant cyfalaf o tua £5m y flwyddyn yw hwn sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol sydd wedi cadw eu stoc tai cyngor.

Sut mae CSFf yn gwneud?

Mae Cyngor Sir y Fflint yn berchen ar 7,300 o gartrefi cymdeithasol. Bydd angen i bob eiddo fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru, waeth pa mor hen ydyw neu beth bynnag fo’i gyflwr.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwneud rhaglen helaeth o welliannau ar ei dai cymdeithasol

  • Yn 2015/16, buddsoddwyd dros £19 miliwn mewn gwaith gwella.
    Y flwyddyn honno, fe wnaeth y Tîm Gwaith Cyfalaf gyflawni’r canlynol:
    • 1400 o geginau.
    • 1600 o ystafelloedd ymolchi.
    • 200 o systemau gwres canolog a boeleri newydd.
    • 100 o adeiladau wedi cael gwaith toi a gwaith allanol.
  • Yn 2016/17, buddsoddwyd dros £20 miliwn mewn gwaith gwella.
    Y flwyddyn honno, fe wnaeth y Tîm Gwaith Cyfalaf gyflawni’r canlynol:
    • 1200 o geginau.
    • 1700 o ystafelloedd ymolchi.
    • 100 o systemau gwres canolog a boeleri newydd.
    • 300 o adeiladau wedi cael gwaith toi a gwaith allanol.
  • Yn 2017/18, buddsoddwyd dros £19 miliwn mewn gwaith gwella.
    Y flwyddyn honno, fe wnaeth y Tîm Gwaith Cyfalaf gyflawni’r canlynol:
    • 1000 o geginau.
    • 1500 o ystafelloedd ymolchi.
    • 100 o systemau gwres canolog a boeleri newydd.
    • 250 o adeiladau wedi cael gwaith toi a gwaith allanol.
  • Yn 2018/19, buddsoddwyd dros £19 miliwn mewn gwaith gwella.
    Y flwyddyn honno, fe wnaeth y Tîm Gwaith Cyfalaf gyflawni’r canlynol:
    • 200 o geginau.
    • 500 o ystafelloedd ymolchi.
    • 100 o systemau gwres canolog a boeleri newydd.
    • 800 o adeiladau wedi cael gwaith toi a gwaith allanol.
  • Yn 2019/20, buddsoddwyd dros £17 miliwn mewn gwaith gwella. 
    Y flwyddyn honno, fe wnaeth y Tîm Gwaith Cyfalaf gyflawni’r canlynol:
    • 100 o geginau.
    • 100 o ystafelloedd ymolchi.
    • 100 o systemau gwres canolog a boeleri newydd.
    • 1200 o adeiladau wedi cael gwaith toi a gwaith allanol.
  • Yn 2021/22, buddsoddwyd dros £17 miliwn mewn gwaith gwella. 
    Y flwyddyn honno, fe wnaeth y Tîm Gwaith Cyfalaf gyflawni’r canlynol:
    • 100 o geginau.
    • 100 o ystafelloedd ymolchi.
    • 350 o systemau gwres canolog a boeleri newydd.
    • 800 o adeiladau wedi cael gwaith toi a gwaith allanol.
  • Yn 2022/23, buddsoddwyd dros £17 miliwn mewn gwaith gwella. .
    Y flwyddyn honno, fe wnaeth y Tîm Gwaith Cyfalaf gyflawni’r canlynol:
    • 350 o systemau gwres canolog a boeleri newydd.
    • 800 o adeiladau wedi cael gwaith toi a gwaith allanol.
    • 200 o dasgau ffensio ac amgylcheddol.

Gan ein bod bellach wedi cyrraedd SATC 2020, beth nesaf?

Ein cynllun ar hyn o bryd ar gyfer SATC 2023–2033 yn y dyfodol yw buddsoddi dros £180 miliwn yn y rhaglen wella barhaus hon dros gyfnod o 10 mlynedd. Dros y blynyddoedd sydd i ddod yn y rhaglen, rydym ni’n bwriadu buddsoddi yn y canlynol:

  • Tua 3600 o geginau ac ystafelloedd ymolchi.
  • Tua 4900 o systemau gwres canolog a boeleri newydd.
  • Tua 3600 o adeiladau i gael gwaith toi a gwaith allanol.
  • Gwahanol raglenni amgylcheddol gan gynnwys dreifs, gerddi a ffensys. 
  • Gwahanol welliannau datgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni.

Sut mae’r gwaith yn cael ei ariannu?

Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn pennu cyllideb flynyddol ar gyfer gwaith gwella tai. Mae dros £58 miliwn wedi’i fuddsoddi mewn gwaith gwella tai ers 2015.

Ariennir hyn drwy gyfuniad o incwm rhent tai Cyngor, arian wedi’i fenthyca (benthyca darbodus) ac incwm o werthu tir ac eiddo'r Cyngor.

Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd yn cael Lwfans Atgyweirio Mawr. Grant cyfalaf o £5 miliwn y flwyddyn yw hwn sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol sydd wedi cadw eu stoc tai cyngor.

Pa welliannau allwch chi eu disgwyl?

Mae pedwar prif faes gwaith y mae'r rhaglen SATC yn canolbwyntio arnynt:

  • Gwaith Mewnol:
    • Ceginau,
    • Ystafelloedd Ymolchi,
    • Systemau Gwres Canolog.
  • Gwaith Amgylchynol:
    • Toi,
    • Trwsio Simneiau,
    • Gwteri,
    • Landeri,
    • Rendro / Pwyntio,
    • Ffenestri a Drysau,
    • Gosodiadau, ac ati.
  • Gwaith Allanol:
    • Ffensys,
    • Llwybrau cyhoeddus yn ardal yr eiddo.
  • Gwaith Amgylcheddol:
    • Lle parcio,
    • Garejis,
    • Llwybrau cerdded cymunedol.

Os oes angen gwaith ar eich eiddo er mwyn i’r eiddo gyrraedd y safon, byddwch yn cael llythyr mewn da bryd i roi gwybod i chi pan fydd unrhyw ran o'r gwaith yma’n cael ei gynllunio.

Pryd fydd y gwaith yn cael ei wneud yn fy eiddo?

Mae'r Gwasanaeth Tai wedi llunio amserlen sy'n dangos pryd y bydd gwaith yn cael ei wneud ym mhob ward gymunedol. 

Bydd hon ar gael ar wefan Cyngor Sir y Fflint yn fuan fel rhaglen ryngweithiol a fydd yn nodi pa waith sydd i'w gwblhau yn eich cartref.

Pwy sy'n gwneud y gwaith?

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda nifer o gontractwyr sydd ag enw da i sicrhau bod y gwelliannau'n cael eu gwneud i safon uchel.

A fydd y gwaith yn amharu ar fy nghartref ac a oes unrhyw gymorth neu gyngor ar gael?

Mae’n anochel bod gwaith gwella o’r maint yma’n golygu rhywfaint o amharu ar denantiaid ac rydym yn deall bod gwaith mewnol, yn enwedig ailosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi, yn gallu amharu ar fywyd. Ein gobaith ni yw ei bod hi werth dioddef ychydig o amharu arnoch er mwyn gweld y gwaith gorffenedig, ac mae cymorth ar gael.

Mae'r Gwasanaeth Tai wedi cyflogi Swyddogion Cyswllt Tenantiaid a'u gwaith nhw yw cadw mewn cysylltiad â chi tra bod elfennau penodol o'r gwaith yn cael eu gwneud, helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, a bod yn bwynt cyswllt rhyngoch chi a'r Gwasanaeth Tai.

Mae gan ein contractwyr hefyd eu Swyddogion Cyswllt Preswylwyr eu hunain sydd â rôl debyg, felly bydd yna bob amser rywun cyfeillgar i gysylltu â nhw tra bo'r gwaith yn cael ei wneud, pe bai unrhyw broblem yn codi.

Beth os nad ydw i eisiau i’r gwaith gael ei wneud?

Mae eich cytundeb tenantiaeth yn dweud bod rhaid caniatáu i’r Cyngor gynnal a gwella'r eiddo. 

Mae peidio â chaniatáu i'r gwaith gael ei wneud yn mynd yn groes i’ch cytundeb tenantiaeth a, pe bai hi’n mynd i’r pen, gallech gael eich troi allan o'ch eiddo. 

Nid yw hyn yn rhywbeth y byddai'r Cyngor yn dymuno ei wneud ac felly'r peth gorau i chi a'r Cyngor yw cydymffurfio â'r gwaith adnewyddu i'r eiddo. 

Dylid cyfeirio unrhyw bryderon i'r Cyngor cyn dechrau unrhyw waith er mwyn gallu trafod mwy amdanynt.

Beth yw cynlluniau ‘Budd Cymunedol’?

Mae Cyngor Sir y Fflint a'n contractwyr yn ymrwymo i sicrhau bod yr economi leol yn gweld y gwerth mwyaf o bob ceiniog sy’n cael ei gwario ar y gwaith i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru.

Mae cymalau bellach wedi'u cynnwys ym mhob contract mawr, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gontractwyr sy'n gweithio gyda'r Gwasanaeth Tai ymrwymo i 'roi rhywbeth ychwanegol' yn ôl i'r economi leol drwy gynlluniau Budd Cymunedol. 

Gall y cynlluniau gynnwys noddi prosiectau lleol fel gerddi cymunedol a thimau chwaraeon neu adnewyddu ysgolion, neuaddau pentref, canolfannau cymunedol, ac ati.

Gall Buddion Cymunedol hefyd gynnwys cyflogi gweithwyr lleol, sefydlu cynlluniau prentisiaeth a phrynu stoc a chyflenwadau gan fusnesau lleol.

Ble allaf i ddysgu mwy am y gwaith?

Llywodraeth Cymru - Safonau Ansawdd Tai Cymru

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael gwybod mwy am gynllun Gwaith Cyfalaf SATC Sir y Fflint, cysylltwch â ni.

Anfonwch e-bost: capital.works@flintshire.gov.uk

Ffoniwch ni: 01352 701666

Os ydych chi eisiau rhoi gwybod am waith trwsio neu archwiliad, ffoniwch ein canolfan gyswllt ar 01352 701660

Welsh Government Logo


  • Dogfennau perthnasol
  • Tai