Alert Section

Llywodraethwyr


Uned Datblygu Llywodraethwyr

Mae'r Adran Datblygu Llywodraethwyr yn rhoi cyngor, cymorth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol. Mae Sir y Fflint yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Ddinbych a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar y ddarpariaeth ddatblygu llywodraethwyr. 

Mae Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgol Sir y Fflint yn parhau i gwrdd yn dymhorol.

e.ddysgu I Lywodraethwyr Ysgol

Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob llywodraethwr newydd a phob cadeirydd a chlerc newydd gael hyfforddiant statudol.

Yn ogystal â’r sesiynau wyneb yn wyneb a gynigir gan awdurdodau lleol, gall llywodraethwyr ysgol hefyd ddewis cwblhau’r  hyfforddiant statudol ar-lein.

Gofynnwch i glerc y llywodraethwyr am y manylion mewngofnodi angenrheidiol.

e-ddysgu lywodraethwyr yng nghymru

Gwasanaethau a ddarperir i lywodraethwyr

  • Rhoi cyngor am rolau a chyfrifoldebau llywodraethwyr ysgol
  • Trefnu rhaglen o ddigwyddiadau hyfforddi llywodraethwyr
  • Cysylltu ag aelodau lleol ynghylch enwebu llywodraethwyr AALl i ysgolion
  • Tanysgrifio i Gymdeithasau Llywodraethwyr i hysbysu llywodraethwyr o fentrau newydd a chynadleddau cenedlaethol

Gweithdrefnau Cwyno Cyrff Llywodraethu Ysgolion