Alert Section

Ysgol Llanfynydd


Cynnig i gau Ysgol Llanfynydd, o 31 Awst 2016 gyda disgyblion yn trosglwyddo i ysgolion eraill yn yr ardal leol yn amodol ar ddewis y rhieni.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn dymuno ceisio barn partïon â diddordeb ynghylch y cynnig i gau Ysgol Llanfynydd o 31 Awst 2016 gyda disgyblion presennol yn trosglwyddo i ysgolion eraill yn yr ardal leol, yn amodol ar ddewis y rhieni.

Mae'r dogfennau ymgynghori yn nodi gwybodaeth y gallai ymgyngoreion eu hystyried i gymryd rhan lawn yn y broses ymgynghori. Mae'r broses yn dilyn canllawiau rheoleiddio fel y nodir yng Nghod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru 2013.

Dechreuodd y cyfnod ymgynghori ffurfiol ar ddydd Mercher 21 Hydref, 2015 a daeth i ben ar ddydd Mercher 2 Rhagfyr 2015.

Mae'r adroddiad ymgynghori sy’n crynhoi'r materion a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ochr yn ochr ag ymateb y Cyngor ar gael yn y dolenni cyswllt isod.

Cyhoeddwyd hysbysiad statudol i gau Ysgol Llanfynydd, bu’r cyfnod rhybudd statudol o ddydd Gwener 28 Ionawr, 2016 i ddydd Gwener 26 Chwefror, 2016, pryd y gallai unrhyw berson wrthwynebu'r cynnig.

Mae’r adroddiad Gwrthwynebiad yn crynhoi'r materion a godwyd yn ystod y cyfnod gwrthwynebu hefyd ar gael yn y ddolen gyswllt isod.

Ddydd Mawrth, 19 Ebrill 2016, penderfynodd Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar y cynnig i gau Ysgol Llanfynydd o 31 Awst, 2016 gyda’r disgyblion presennol yn trosglwyddo i ysgolion eraill yn yr ardal leol yn amodol ar ddewis y rhieni.  Ystyriodd y Cabinet y cynnig, y gwrthwynebiadau statudol a gafwyd, ac ymateb yr awdurdod lleol yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion 2013. Penderfynodd y Cabinet gymeradwyo'r cynnig.

Fodd bynnag, cafodd y penderfyniad a wnaed gan y Cabinet wedyn ei alw i mewn ar ddydd Iau 28 Ebrill, 2016, cafodd y penderfyniad ei ystyried, trafod a’i ddadlau’n gadarn gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid. Ar ôl ystyried y penderfyniad, roedd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid yn fodlon â'r sylwadau a gyflwynwyd a phenderfynwyd gweithredu’r penderfyniad ar 28 Ebrill 2016. 

Mae llythyr y penderfyniad a’r adroddiad gwrthwynebiad ar gael drwy ddilyn y dolenni cyswllt isod.

Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad

Hysbysu Penderfyniadau

Adroddiad Gwrthwynebu

Hysbysiad Statudol

Adroddiad ymgynghori

Ysgol Llanfynydd Adborth Ymgynghoriad Plant a Phobl Ifanc

Dogfen Ymgynghori

Dogfen Ymgynghori - Plant a Phobl Ifanc

Ffurflen Ymateb i'r Ymgynghoriad

Asesiad Effaith Cydraddoldeb a’r Iaith Gymraeg - Fersiwn 2

Asesiad Effaith yr Iaith Gymraeg a Chydraddoldeb

Asesiad Effaith Cymunedol

Asesiad Effaith Cludiant