Alert Section

Ysgolion ar gau


Bydd darpariaeth gofal plant sydd wedi bod yn gweithredu ers dydd Llun, 30 Mawrth, yn parhau yn ystod gwyliau ysgol y Pasg - gan gynnwys Gwyliau’r Banc - ar gyfer gofal plant i weithwyr allweddol a dysgwyr diamddiffyn.

Bydd y Cyngor yn parhau i weithredu'r system “canolfan” o ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig sydd wedi'u lleoli'n strategol, yn agos at brif lwybrau traffig mewn ardaloedd trefol a gwledig.

Bydd cludiant ysgol a phrydau ysgol am ddim yn parhau i weithredu fel y gwnaethant yn ystod yr wythnos a oedd yn dechrau 30 Mawrth. Bydd hyn yn parhau nes bydd rhybudd pellach ac yn cynnwys Gwyliau’r Banc.

Dylai ysgolion barhau i ddarparu gofal i nifer mor fach o blant ag sy’n bosibl - plant sy'n agored i niwed a phlant y mae eu rhieni yn hanfodol ar gyfer yr ymateb i Covid-19 ac nad oes modd gofalu amdanynt yn ddiogel gartref.

Yn y cartref y dylid gofalu am bob plentyn os oes modd gwneud hynny’n ddiogel, a dim ond lle nad oes dewis diogel arall y dylid gwneud darpariaeth mewn ysgolion neu leoliadau eraill. Os ydych wedi’ch pennu’n weithiwr hanfodol ond bod modd i chi wneud rhannau hanfodol eich swydd wrth weithio o’ch cartref, yna dylech wneud hynny. Os yw un rhiant yn weithiwr hanfodol ond nad yw’r llall, yna dylai’r rhiant nad yw’n weithiwr hanfodol ddarparu trefniadau diogel eraill yn y cartref lle bo’n bosibl.

Dim ond i blant y mae eu rhieni yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymateb i Covid-19 y dylid cynnig lleoedd mewn ysgolion/lleoliadau pan nad oes darpariaeth amgen ddiogel. Caiff lleoedd eu blaenoriaethu ar gyfer rhieni sengl sy’n weithwyr allweddol neu pan fo’r ddau riant yn weithwyr allweddol.

Mae penaethiaid wedi cael awdurdod i ofyn i rieni ddangos llythyrau gan eu cyflogwr i gadarnhau bod eu rôl wedi’i gyfrif fel rôl hanfodol.

 

Ysgol
  Hub area  Hub sites 
 1  Bwcle

Ysgol Uwchradd Elfed

Mountain Lane CP 

 2  Yr Wyddgrug

Ysgol Uwchradd Alun

Ysgol Maes Garmon

Ysgol Bryn Coch

 3 Y Fflint

 St Richard Gwyn

Ysgol Gwynedd

 4  Treffynnon

 Ysgol Treffynnon

Ysgol Maes y Felin

 5  Cei Connah

Ysgol Uwchradd Cei Connah

Ysgol Bryn Deva

 6  Yr Hôb

Ysgol Uwchradd Castell Alun

Ysgol Estyn

 7  Penarlâg

Ysgol Uwchradd Penarlâg

Ysgol Gynradd Sandycroft

 8  Saltney / Brychdyn

Ysgol Uwchradd Dewi Sant

Ysgol Brychdyn

 9  Gwledig  Ysgol Gronant
 10  Gwledig  Ysgol Esgob, Caerwys
 11  Shotton  Ysgol Ty Ffynnon
 12  Queensferry Campws Queensferry (yr ysgol gynradda a Troi Rwnd)

Ar hyn o bryd mae 0 ysgol ar gau

Achosion brys o gau ysgolion:

Mewn achosion brys o gau colegau, ewch i wefan pob coleg unigol.

Penderfyniad y cyrff llywodraethu perthnasol a'u pennaeth yw cau ysgol neu beidio. Mae penderfyniadau'n cael eu gwneud yn dilyn asesiad risg unigol mewn perthynas ag amodau'r safle ac mewn rhai achosion, argaeledd cludiant i'r ysgol. Os nad yw'r ysgol wedi ei rhestru isod, nid oes penderfyniad wedi'i wneud hyd yma.

Efallai bod rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan eich ysgol.

Cludiant i'r ysgol yn ystod tywydd gwael:

Os yw eich plentyn / plant yn gymwys i dderbyn Cludiant Am Ddim i'r Ysgol, ewch i dudalen we Cludiant i'r Ysgol am wybodaeth o ran amodau tywydd gwael. Ewch i www.flintshire.gov.uk/schooltransport neu ffoniwch Tîm Cludiant i'r Ysgol Sir y Fflint ar 01352 701234. Ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, dylai teithwyr wirio gyda darparwyr trafnidiaeth cyn teithio neu gysylltu â Thîm Trafnidiaeth Sir y Fflint ar 01352 701234 neu Traveline Cymru ar 0800 4640000.


Yn ôl | Hafan