Alert Section

Help i Ofalwyr


Os ydych yn gofalu am rywun sy’n methu gofalu amdanyn nhw eu hunain oherwydd salwch, anabledd, neu effeithiau heneiddio a’ch bod yn rhoi gofal sylweddol, di-dâl i’r person hwnnw, felly rydych yn Ofalwr.

Gwasanaethau i’ch helpu chi gyda’ch cyfrifoldebau gofalu:

  • Rhoi cyngor a gwybodaeth i chi
  • Eich cyfeirio at gyrff gwirfoddol sy’n gallu rhoi grantiau a chymorth i ofalwyr.
  • Cymorth gyda’r gwaith garddio, glanhau neu i brynu offer
  • Rhoi seibiant i chi.
  • Ailasesu’r cymorth a gaiff y person rydych chi’n gofalu amdano i wneud yn siŵr bod eich anghenion chi’n cael sylw.

Er bod modd trefnu rhai gwasanaethau’n uniongyrchol gyda chorff gwirfoddol, gyda gwasanaethau eraill, mae’n rhaid cynnal asesiad i weld beth yw’ch anghenion a pha wasanaethau sydd ar gael i’ch helpu. 

Canllaw Gofalwyr Hanfodol

Taflen Wybodaeth Taliadau Uniongyrchol i Ofalwyr