Gallwch anfon llungopi, wedi'i ardystio, o'ch dogfennau (rydym yn awgrymu'ch bodyn eu hanfon drwy'r post cofrestredig), ynghyd â llun, wedi'i ardystio. Os dyma'r dull y byddwch yn ei ddewis, rhaid i chi ganiatáu digon o amser iddynt gyrraedd.
Llungopi wedi'i ardystio yw llungopi o ddogfen y mae person 18+ oed, sy'n eich adnabod ers o leiaf dwy flynedd, nad yw'n bartner nac yn perthyn i chi, wedi cadarnhau ei bod yn wir.
Rhaid i'r rhai sy'n dilysu'r dogfennau gynnwys y geiriau " Mae hwn yn gopi cywir o'r gwreiddiol" wrth ymyl eu llofnod. Dylent hefyd brintio'u henw, eu manylion cysylltu a'u galwedigaeth gyda'r wybodaeth. Mae'n bosibl y bydd yr awdurdod lleol yn cysylltu â nhw i gadarnhau pwy ydynt.
Dyma enghreifftiau o'r math o berson a allai lofnodi'r dogfennau.
|
Cyfrifydd |
Ynad Heddwch |
Swyddog heddlu |
Swyddog banc / cymdeithas adeiladu |
Daliwr trwydded tafarn |
Gweithiwr cymdeithasol |
Bargyfreithiwr |
Swyddog llywodraeth leol |
Cyfreithiwr |
Cynghorydd (lleol neu sir) |
Nyrs (RGN ac RMN) |
Syrfewr |
Gwas Sifil |
Swyddog yn y lluoedd arfog |
Athro, darlithydd |
Deintydd |
Optegydd |
Swyddog Undeb Llafur |
Swyddog yn y GWasanaeth Tân |
Fferyllydd |
|