Gwybodaeth am Waith Priffyrdd
Rhaglen o Waith Priffyrdd
Mae’r wybodaeth ganlynol yn nodi’r rhaglen arfaethedig o waith gwella priffyrdd a fydd yn cael ei wneud yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24 gan Wasanaethau Stryd a Thrafnidiaeth Cyngor Sir y Fflint.
Mae’r rhaglenni wedi’u dylunio i gefnogi amcanion strategol y Cyngor Sir i wella ffyrdd a chludiant.
Mae'r rhaglenni gwella a gaiff eu hariannu gan refeniw a chyfalaf yn ymwneud â thrin wynebau a strwythur ffyrdd cerbydau a throedffyrdd yn cael eu blaenoriaethu o ddata arolwg cyflwr ac archwiliadau gweledol i wella isadeiledd priffyrdd yng Nghyngor Sir y Fflint.
Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd
Wrth sylweddoli mai’r unig ffordd o leihau’r ôl-groniad presennol o waith cynnal a chadw strwythurol ar ffyrdd cerbydau a throedffyrdd yw drwy fabwysiadu dull strategol hirdymor o wella isadeiledd priffyrdd, mae Cyngor Sir y Fflint ar y cyd â Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi mabwysiadu dull Cymru gyfan o ymdrin â Chynllun Rheoli Asedau Priffyrdd. Mae’r fethodoleg ganlynol yn egluro’r egwyddorion sy’n deillio o flaenoriaethu rhaglenni gwaith cynnal a chadw wedi’u cynllunio:
- Asesiad mecanyddol a gweledol o isadeiledd y ffordd gerbydau yn flynyddol. Y wybodaeth sy’n cael ei dehongli gan System gyfrifiadurol Rheoli Palmentydd y Deyrnas Unedig (UKPMS) i roi syniad o lefel dirywiad ffyrdd unigol.
- Asesiad gweledol o isadeiledd y droedffordd yn flynyddol. Y wybodaeth sy'n cael ei mewnbynnu i system rheoli data i roi syniad o lefel dirywiad llwybrau troed unigol.
- Mae'r allbwn o UKPMS a ffynonellau data eraill wedyn yn ddarostyngedig i ddadansoddiad peirianyddol i ddarparu’r strategaethau hirdymor ar gyfer gwella sy’n ystyried cynlluniau corfforaethol ar gyfer datblygu economaidd a phreswyl, cynllunio cludiant rhanbarthol, anghenion cymunedol ac ystadegau damweiniau lleol.
- Mae rhaglenni gwella yn cael eu paratoi ar sail blaenoriaeth a’r egwyddor “y gwaethaf yn gyntaf” yw’r rheol gyffredinol.
Mae dull prisio oes gyfan yn cael ei ddefnyddio i bennu rhaglenni ar gyfer gwahanol fathau o brosesau gwella h.y.
- Gwelliant strwythurol ar ffurf ailadeiladu pan fo lefel dibrisiad yr ased yn fawr. Mae’r costau sy’n gysylltiedig â’r math hwn o welliant yn uchel ac mae’n arferiad costio oes gyfan i gyflwyno rhaglenni trin wynebau ffyrdd yn ystod camau cynnar dirywiad i ymestyn oes ased i leihau lefel y gwaith ailadeiladu sy’n rhoi pwysau mawr ar gyllid sydd ar gael.
- Disodli neu gryfhau wyneb ffordd.
- Trin wyneb ffordd i ailsefydlu gwead yr arwyneb neu ymestyn oes arwyneb drwy warchod haenau’r arwyneb sy’n dangos arwyddion buan o ddirywiad drwy golli agregad / glynwr.
- Ailsefydlu gwead wyneb ffordd gerbydau sy’n strwythurol gadarn ond sy’n colli ei allu i wrthsefyll llithro drwy bolisio’r agregad yn haenau’r arwyneb.
- Er mwyn gwneud y mwyaf o gost a budd yr adnoddau ariannol mae'n rhaid ystyried y budd i gymunedau trwy gydnabod meysydd economaidd a chymdeithasol lleol o weithgarwch y mae ffyrdd â lefel debyg o ddirywiad yn cael eu hystyried ac nad oes llawer o adnoddau. Er enghraifft, bydd troedffordd sy’n agos at ardal siopa fawr neu ysgol yn cael blaenoriaeth dros droedffordd debyg mewn ardal wledig sydd â niferoedd isel o bobl yn cerdded.
Mae’r categorïau canlynol wedi’u cynnwys yn y rhestr o gynlluniau wedi’u rhaglennu i nodi’r ffactorau sy’n cefnogi eu cynnwys nhw yn y rhaglen (Rheswm dros weithio mewn tablau isod):
- Nodwyd trwy broses arolwg cyflwr
- Nodwyd trwy ymchwiliadau i ddamweiniau yn safle clwstwr damweiniau neu’n ddarostyngedig i Beiriant Ymchwilio Arferol Cyfernod Grym Tua’r Ochr (SCRIM).
- Yn ddarostyngedig i waith adfer cynnal a chadw uchel.
Sylwer
Er y gwnaed pob ymdrech i gyflawni rhaglen ddiffiniol a fydd yn darparu rheolaeth effeithiol o’r asedau priffyrdd, gallai newid o ran cynnwys a manylion drwy’r flwyddyn. Mae newidiadau o’r fath yn gallu codi o’r angen i fynd i’r afael â’r galw cynnal a chadw nad oes modd eu rhagweld sy’n codi yn ystod y flwyddyn h.y. gwaith cyfleustodau cyhoeddus brys ac addasiadau i’r gyllideb.
Rhaglen o Waith Priffyrdd - Cynlluniau Rhoi Wyneb Newydd ar Ffyrdd Gerbydau - 2023/24
Mae’r cynlluniau sydd wedi’u rhestru yn y rhaglenni canlynol wedi’u trefnu i gael eu cwblhau yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24. Er y gwneir pob ymdrech i gyflawni’r cynigion hyn, gall amgylchiadau annisgwyl arwain at amrywiadau i’r rhaglen a arddangosir. Gallai’r rhaglen hon newid hefyd os bydd angen gwneud addasiadau o ganlyniad i weithgarwch Defnydd Cyhoeddus.
Rhaglen o Waith Priffyrdd - Cynlluniau Rhoi Wyneb Newydd ar Ffyrdd Gerbydau - 2023/24
Rhif y Ffordd | Lleoliad | Ward | Rheswm dros y Gwaith |
A5119 |
FFORDD ABER, Y FFLINT |
Y FFLINT COLESHILL A THRELAWNYD |
A |
A549 |
FFORDD CAER, BWCLE (O GARTREF GOFAL WILLOWDALE I DEPO CYFOETH NATURIOL CYMRU) |
BWCLE - DWYRAIN BISTRE |
A |
C56 |
FFORDD LLANASA, GRONANT (O BEN UCHAF GRONANT HILL I PENTRE LANE) |
LLANASA A THRELAWNYD |
A |
Di-ddosbarth |
STRYD Y NANT, YR WYDDGRUG |
YR WYDDGRUG - BRONCOED |
A |
C96 |
DRURY LANE (O’R HORSE AND JOCKEY PH I FFORDD MOUNT PLEASANT) |
BWCLE - PENTREROBIN |
A |
C103 |
MANOR LANE, PENARLÂG (O LITTLE ROODEE I GYLCHFAN B5125) |
GOGLEDD DDWYRAIN BRYCHDYN |
A |
A548 |
A548 Y FFLINT (O A5119 CYFFORDD FFORDD ABER I GYFFORDD YSTÂD DDIWYDIANNOL MANOR) - TUA’R GORLLEWIN |
Y FFLINT COLESHILL A THRELAWNYD |
A |
C97 |
FFORDD Y PENTRE, NERCWYS (O FFORDD PLAS UCHA I BONT TERRIG) |
GWERNAFFIELD A GWERNYMYNYDD / TREUDDYN |
A |
Di-ddosbarth |
HENFFORDD, NERCWYS (RHAN OHONI) |
GWERNAFFIELD A GWERNYMYNYDD |
A |
C129 |
FFORDD LAS, CYMAU |
LLANFYNYDD |
A |
Rhaglen o Waith Priffyrdd – Trin Wyneb Ffordd Gerbydau - 2023/24
Mae’r cynlluniau sydd wedi’u rhestru yn y rhaglenni canlynol wedi’u trefnu i gael eu cwblhau yn ystod blwyddyn ariannol 2023/24. Er y gwneir pob ymdrech i gyflawni’r cynigion hyn, gall amgylchiadau annisgwyl arwain at amrywiadau i’r rhaglen a arddangosir. Gallai’r rhaglen hon newid hefyd os bydd angen gwneud addasiadau o ganlyniad i weithgarwch Defnydd Cyhoeddus.
Rhaglen o Waith Priffyrdd – Trin Wyneb Ffordd Gerbydau - 2023/24
Rhif y Ffordd | Lleoliad | Ward | Rheswm dros y Gwaith |
C77 |
FFORDD CHWITFFORDD, CHWITFFORDD |
CHWITFFORDD |
A |
A5151 |
TRELAWNYD |
LLANASA A THRELAWNYD |
A |
A5118 |
LLONG |
ARGOED A NEW BRIGHTON |
A |
Di-ddosbarth |
ROSE LANE, MYNYDD ISA (RHAN OHONI) |
ARGOED A NEW BRIGHTON |
A |
C98 |
KINNERTON ROAD, HIGHER KINNERTON |
YR HÔB / HIGHER KINNERTON |
A |