Alert Section

Uned Fenthyca Arian Anghyfreithlon Cymru


Curwch y siarcod...ymladdwch yn ol!

Os ydych wedi dioddef oherwydd benthycwyr didrwydded, neu'n tybio bod benthycwyr didrwydded yn gweithredu yn eich ardal, ffoniwch Linell Gymorth 24 awr Uned Fenthyca Arian Anghyfreithlon Cymru:

0300 123 3311

Mae pob galwad yn gwbl gyfrinachol.

Bydd Swyddogion Arbenigol wrth law i roi cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr, gan gynnig cyngor ynghylch dyledion a phroblemau eraill.

Mae'n bwysig gwybod nad yw benthyca gan fenthyciwr didrwydded yn anghyfreithlon. Y benthyciwr sy'n torri'r gyfraith.Ni fydd WIMLU yn cymryd camau yn erbyn unrhyw unigolyn sydd wedi benthyca arian, ond yn ceisio rhoi cyngor i chi ar gyfer y dyfodol.

Cofiwch fod benthycwyr didrwydded yn codi cyfraddau llog gormodol a all fod yn ganrannau o filoedd. Mae hyn yn creu sefyllfa lle na all yr unigolyn sy'n benthyca dalu'r benthyciad yn ôl. Mae'n rhaid i rai pobl sy'n benthyca droi at ddwyn neu ddelio cyffuriau er mwyn gallu ad-dalu'r benthyciad. Mae rhai dioddefwyr benywaidd wedi gorfod perfformio cymwynasau rhywiol am fethu taliadau.

Os yw dioddefwyr yn cydymffurfio nid ydynt yn cael eu hesgusodi o'u dyled, ac mae'r benthyciwr didrwydded yn arswydo ac yn dychryn dioddefwyr.

Ein gobaith yw y bydd Cymru'n parhau i dynnu ynghyd i Oresgyn y Benthycwyr Didrwydded a thalu'r pwyth yn ôl!

Ffynonellau eraill o gyngor

Gov.uk (ffenestr newydd) nifer o dudalennau gwe defnyddiol a chysylltiadau i sefydliad arall sy'n rhoi cyngor ar sut i ddelio â dyled a ydych yn unigolyn neu'n fusnes.

Llinell Ddyled Genedlaethol (ffenestr newydd) am ddim yn cynnig, ac yn annibynnol cymorth cyfrinachol dros y ffôn i bobl yn Lloegr, yr Alban a Chymru.Gallwch alw eu llinell gymorth a hefyd lawrlwytho gyhoeddiadau oddi ar eu gwefan. 0808 808 4000

Mae'r Llinell Gymorth Dyledion Tai Cymru (ffenestr newydd) yn cynnig cefnogaeth i unigolion atheuluoedd sy'n ei chael yn anodd talu eu morgais neu daliadau rhent. 0800 107 1340


Cysylltwch â ni

Rhif ffôn Cyngor i ddefnyddwyr: Cymraeg 0808 223 1144, Saesneg 0808 223 1133

Rhif ffôn Cyngor i fusnesau: 01352 703181 (Dim ond am faterion sy’n codi rhwng busnesau a defnyddwyr y byddwn yn rhoi cyngor busnes; nid ydym yn rhoi cyngor am faterion sy’n codi rhwng busnesau)

E-bost: trading.standards@flintshire.gov.uk

Ysgrifennwch at:
Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir y Fflint,
Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug,
Sir y Fflint,
CH7 6NF

Ewch i:
Ty Dewi Sant,
St. David’s Park,
Ewlo,
Sir Y Fflint

Oriau agor ein Swyddfa yw rhwng 08:30 a 17:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener