Alert Section

Canolfannau Ailgylchu Cartref


O ddydd Llun, 6 Mai, bydd dyddiau agor ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn newid 

Rydym ni’n gwneud llawer o newidiadau i ddiwrnodau agor y pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn Sir y Fflint.

Ein diwrnodau agor newydd fydd:

Yr Wyddgrug, Oakenholt a Sandycroft

  • Dydd Llun Agor
  • Dydd Mawrth Agor
  • Dydd Mercher Ar gau
  • Dydd Iau Ar gau
  • Dydd Gwener Agor
  • Dydd Sadwrn Agor
  • Dydd Sul Agor

Maes Glas a Bwcle

  • Dydd Llun Agor
  • Dydd Mawrth Ar gau
  • Dydd Mercher Ar gau
  • Dydd Iau Agor
  • Dydd Gwener Agor
  • Dydd Sadwrn Agor
  • Dydd Sul Agor

Newidiadau i ddyddiau agor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref - Cwestiynau Cyffredin 

Pam eich bod yn cau’r safleoedd am ddau ddiwrnod yr wythnos?  

Yn sgil yr heriau cyllidebol y mae Sir y Fflint wedi’u hwynebu eleni ac yn disgwyl eu hwynebu yn 2025/26, bu’n rhaid i ni roi mesurau sylweddol ar waith er mwyn lleihau costau a chadw swyddi.  Rydym wedi ystyried amryw o ffactorau yn ofalus wrth ddiwygio’r dyddiau a’r oriau agor.   Mae’r rhain yn cynnwys patrymau defnyddio, effeithlonrwydd gweithredol, a’r angen i ddarparu gwasanaethau Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref o fewn y gyllideb ostyngedig a gytunwyd. 

A fyddwch yn gwneud unrhyw ddiswyddiadau?  

 Na fyddwn, cyflwynwyd y cynnig hwn er mwyn lleihau costau a chadw swyddi.  

Beth ddylwn i ei wneud os yw’r safle yr wyf yn arfer ei ddefnyddio ar gau pan fydd arnaf ei angen?  

Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar ba safle y gallwch ei ddefnyddio, os bydd eich safle agosaf wedi cau, defnyddiwch y safle nesaf sydd ar gael.  Os bydd pob safle wedi cau (dydd Mercher) dylech storio eich gwastraff yn ddiogel yn eich cartref nes bydd modd i chi eu gwaredu’n briodol yn un o’r safleoedd.  Nodwch os gwelwch yn dda, nid yw hyn yn berthnasol i bobl â thrwydded cerbyd neu drelar.

Ble mae’r Safleoedd Ailgylchu Gwastraff y Cartref eraill?  

  • Bwcle, Globe Way, CH7 3LY
  • Maes Glas, Rhif 2 Parc Busnes Maes Glas, Maes Glas CH8 7GJ
  • Yr Wyddgrug, Ffordd Nercwys, Nercwys, Yr Wyddgrug CH7 4ED
  • Sandycroft, Prince William Avenue, Glannau Dyfrdwy, CH5 2QZ
  • Oakenholt, Chester Road Oakenholt CH6 5SF

A oes modd i mi adael fy eitemau wrth y giât os yw’r safle ar gau?  

Nag oes, bydd yn rhaid i chi fynd â’ch gwastraff i safle arall neu eu storio’n ddiogel yn eich cartref nes byddwch yn gallu eu gwaredu’n briodol.  Ystyrir unrhyw wastraff a gaiff eu gadael y tu allan i giatiau’r Safle Ailgylchu Gwastraff y Cartref fel tipio anghyfreithlon ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y troseddwr.  Er mwyn monitro hyn, mae camerâu teledu cylch caeëdig ym mhob un o fynedfeydd Safleoedd Ailgylchu Gwastraff y Cartref. 

Mae gennyf drwydded cerbyd ar gyfer safle penodol, a oes modd i mi ddefnyddio safle arall os yw fy safle dynodedig ar gau?

Nag oes, bydd yn rhaid i chi storio eich gwastraff yn ddiogel yn eich cartref nes bydd modd i chi waredu eich eitemau yn briodol yn y safle sydd wedi’i nodi ar eich trwydded cerbyd.  

Mae'r safle sydd wedi'i nodi ar fy nhrwydded ar gau ar ddydd Mawrth, sef yr unig ddiwrnod y gallaf ymweld â’r safle, a oes modd i mi ddefnyddio safle arall? 

Nag oes, bydd yn rhaid i chi storio eich gwastraff yn ddiogel yn eich cartref nes bydd modd i chi waredu eich eitemau yn briodol yn y safle sydd wedi’i nodi ar eich trwydded cerbyd.  Os nad ydych chi ar gael ar ddyddiau agor eich safle dynodedig, gallwch wneud cais i newid y safle ar eich trwydded cerbyd neu drelar yn barhaol lle bo angen drwy gysylltu â streetsceneadmin@siryfflint.gov.uk

A fydd unrhyw effaith ar ein perfformiad ailgylchu?

Nid ydym yn rhagweld unrhyw effaith ar berfformiad ailgylchu Sir y Fflint.


System Drefnu ar gyfer Teiars, Matresi ac Asbestos

Darganfod mwy


Trwyddedau Cerbydau a Threlars

Darganfod mwy


Cofiwch ddod â phrawf o’ch man preswylio efo chi pan fyddwch chi’n ymweld â Chanolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref. 

Bydd yn rhaid i chi ddangos trwydded yrru neu fil Treth y Cyngor dilys gan Gyngor Sir y Fflint.  

Ni dderbynnir trwyddedau o du allan i’r DU heb fil Treth y Cyngor dilys gan Gyngor Sir y Fflint.  

Gallwch gwneud cais am gopi o’ch Bil Treth y Cyngor ar https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-Tax/Council-Tax.aspx 


MESURAU DIOGELWCH Y SAFLE - GWYBODAETH PWYSIG

  • Pan fyddwch chi’n cyrraedd, gofynnir i chi ddangos prawf eich bod yn byw yn Sir y Fflint – bydd hen fil Dreth y Cyngor sy’n llai na 12 mis yn ddigon.
  • Bydd angen i chi aros wrth fynedfa’r safle tan y cewch ganiatâd gan y tîm. Byddwn yn gweithredu system lle caiff unigolyn ei adael i mewn wedi i un arall ddod allan. Mae’n RHAID i chi aros yn eich car tra byddwch chi’n ciwio.
  • Lle bo hynny’n bosibl, dim ond y gyrrwr ddylai ymweld â’r safle ei ph/ben ei hun.  Dim ond un person a ganiateir allan o’r cerbyd, oni bai eich bod angen cymorth i godi eitem trwm, bryd hynny, gall y teithiwr arall adael y cerbyd i’ch helpu i godi YN UNIG, yna rhaid iddynt ddychwelyd i’r cerbyd.
  • Fe fydd y safleoedd yn brysur iawn ac fe ddylech ddisgwyl ciwio i gael mynediad i’r safle.
  • Gofynnir i chi wahanu eich gwastraff cyn dod i’r safle i sicrhau fod eich ymweliad yn un cyflymach.
  • Dim ond gwastraff na ellir ei ailgylchu y dylid eu rhoi mewn bagiau gwastraff du.  Rydym ni’n casglu gwastraff gwyrdd, bwyd, caniau, deunydd plastig, papur, cerdyn a gwydr ymyl palmant, felly dylai preswylwyr ddefnyddio’r casgliadau yma ar gyfer y deunyddiau hyn.  Ni fyddwn yn derbyn bagiau du sy'n cynnwys bwyd a/neu ddeunyddiau sy’n ailgylchu.
  • Dylech drin ein timau, a chyd-gwsmeriaid gyda pharch ac ystyriaeth. Ni fyddwn yn goddef unrhyw gamdriniaeth, ac ni fyddwn yn goddef unrhyw un sy’n gwrthod dilyn y mesurau diogelwch yma.

Rydym ni’n darparu rhwydwaith o 5 o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref sy’n galluogi trigolion i ailgylchu gwastraff o’u cartrefi.    

Lleoliadau ac Amseroedd Aros

Amseroedd Agor

09:00hrs tan 17:00hrs* yn ddyddiol.

*Mae’r safleoedd yn cau am 17:00 ond derbynnir y cerbyd olaf am 16:50 er mwyn caniatáu i ddadlwytho’r cerbyd.

Y math o wastraff rydym ni’n ei dderbyn

Rhestr o wastraff a dderbynnir yn y domen (canolfan ailgylchu) 

Rhaid bod y gwastraff wedi dod o eiddo domestig.

Ni fyddwn yn derbyn gwastraff masnachol neu fusnes.

Calor & Biwtan i'w cymryd i'r ddeliwr agosaf.


Cwestiynau Cyffredin


Compost

Yn sgil cyfyngiadau o ran gofod a galw uchel, mae’r cyflenwad compost ar safleoedd ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref yn brin.  Rydym yn ailgyflenwi lefelau stoc yn y safleoedd hyn yn rheolaidd; fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y cyflenwadau yn brin neu ddim ar gael ar adegau. Bydd argaeledd deunydd compost ar sail y cyntaf i’r felin.

Bydd y mesurau diogelwch canlynol yn parhau i fod mewn ym mhob canolfan:

  • systemau rheoli traffig a chiwio gyda nifer cyfyngedig o gerbydau fydd yn cael dod i mewn ar yr un pryd.

Pam fod rhaid i mi giwio i ddefnyddio’r canolfannau ailgylchu?

Mae gweithwyr ar y safle wrth law i sicrhau bod llif y traffig yn symud a byddant yn gadael i chi wybod pryd gewch chi fynd i mewn ac allan o’r safle. Dilynwch eu cyfarwyddiadau drwy’r amser.  

Alla i ddod a bagiau dillad ar gyfer y banc dillad?

Cewch, mae ein canolfannau ailgylchu yn derbyn tecstilau a dillad.  

Alla i ddod â gwastraff gardd a DIY?

Cewch, rydym ni’n derbyn gwastraff gardd a DIY. 

Dylech wahanu eich gwastraff cyn dod i’r safle er mwyn cyflymu eich ymweliad drwy’r safle.

Sut ydw i’n cael gwared ar eitemau gwastraff swmpus fel dodrefn?

Os oes gennych eitemau swmpus i gael gwared arnynt, naill ai arhoswch hyd nes ein bod yn cael derbyn y rhain, neu fel arall gallwch drefnu casgliad gwastraff swmpus drwy ein Canolfan Gyswllt 01352 701234.

Amodau

  • Peidiwch â gadael eich gwastraff tu allan i’r canolfannau ailgylchu neu fanciau ailgylchu. Gellir eich erlyn am dipio anghyfreithlon.
  • Rhaid eich bod yn byw yn Sir y Fflint i ddefnyddio’r canolfannau ailgylchu. Yn yr un modd, ni fydd awdurdodau cyfagos yn derbyn gwastraff gan drigolion Sir y Fflint.
  • Ni dderbynnir gwastraff masnachol.

Lleihewch wastraff  – rhowch i elusen!

Mae’r elusennau lleol Refurbs Flintshire (01352 734111) yn gallu casglu dodrefn ac eitemau trydanol y gellir eu hailddefnyddio yn rhad ac am ddim o garreg eich drws. Fel arall, hysbysebwch nhw ar wefan Freecycle / Freegle.