Alert Section

Cwestiynau am ailgylchu a gwastraff


Gwaredu gwastraff – Coronafeirws

Peidiwch â rhoi hancesi papur na weips/cadachau yn yr ailgylchu.Y cyngor ar gyfer cael gwared â’r gwastraff hwn yw:

  • Dylid rhoi gwastraff personol (fel hancesi papur wedi’u defnyddio), cadachau glanhau untro mewn bagiau sbwriel untro yn ddiogel
  • Dylid eu rhoi mewn ail fag, eu clymu’n ddiogel a’u cadw ar wahân i wastraff arall
  • Dylid ei roi i un ochr am o leiaf 72 awr cyn cael ei roi yn eich bin gwastraff cartref (du) allanol arferol.  

Ble dylwn osod fy miniau er mwyn iddynt gael eu casglu?

Gosodwch eich bin allan ar ochr y ffordd erbyn 7am ar fore eich diwrnod casglu.  Rhaid i bob bin olwynion/cynhwysydd/bag fod o fewn un metr i gwrtil neu ffiniau eich eiddo (h.y. lle mae eich eiddo'n cwrdd â'r palmant/ffordd).  Rhaid i’r criwiau allu eu cyrraedd heb orfod agor giatiau, ac ati.  Lle nad yw hyn yn bosib’, dylech osod y cynwysyddion ar y palmant/ymyl y ffordd y tu allan i'r eiddo, mewn lle sy'n rhwystro cyn lleied â phosib' ar y llwybr i ddefnyddwyr y ffordd.

Y pwynt casglu ar gyfer rhai sydd â ffordd breifat hir at eu cartref fydd y man lle mae’r ffordd breifat yn cysylltu â phriffordd (llwybr cerdded/ffordd) sydd yng ngofal y Cyngor.

Lle bo hynny’n briodol, bydd cerbydau casglu’n teithio ar hyd ffyrdd nad ydynt wedi’u mabwysiadu gan y Cyngor, gan alluogi preswylwyr i gyflwyno eu cynwysyddion gwastraff yn yr un lle ar eu heiddo ag y byddent pe bai hi'n ffordd y mae'r Cyngor wedi'i mabwysiadu.  Nid yw hyn yn golygu y bydd y Cyngor yn cynnal a chadw’r ffordd ac os yw'r ffordd yn cael ei hystyried yn anaddas i'r cerbydau, neu os yw perchennog y ffordd yn gwrthod gadael i'r cerbydau ddefnyddio'r ffordd, bydd angen i’r preswylwyr ddod â'u cynwysyddion at y briffordd agosaf sydd wedi’i mabwysiadu.

Ydych chi’n casglu gwastraff ychwanegol?

Ni fyddwn yn casglu unrhyw wastraff ychwanegol, e.e. sachau du ychwanegol.  Bydd criwiau casglu’n casglu sbwriel sy'n cael ei gyflwyno ar ymyl y palmant mewn bin ar olwynion wedi cau yn unig. 
Gweler: Gorfodaeth Gwastraff Ochr y Ffordd

Gellir gwneud cais am fin du mwy o faint ar gyfer eich ysbwriel os oes 6 deiliad parhaol neu fwy yn byw yn yr eiddo (bydd angen gwneud asesiad).

Beth fydd yn digwydd os ydw i'n rhoi gwastraff ar yr ochr i'w gasglu?

Bydd y Cyngor yn monitro’r casgliadau ac yn rhoi gwybod i drigolion sut y gallant ailgylchu mwy a lleihau faint o wastraff sy’n cael ei gyflwyno i gael gwared ag o.  Os daw hi i’r pen a bod trigolion yn rhoi gormod o wastraff allan yn rheolaidd ac heb wrando ar gyngor am ailgylchu, gall y Cyngor gymryd camau gorfodi.
Gweler: Gorfodaeth Gwastraff Ochr y Ffordd

Pam eich bod chi’n bod yn llym ar wastraff ar yr ochr?

Gall y rhan fwyaf o wastraff sy'n cael ei daflu o’r cartref gael ei roi yn eich casgliad ailgylchu wythnosol. Rydym wedi gwneud cynnydd da iawn yn Sir y Fflint. Gyda’n gilydd, fe gyrhaeddom ni darged Llywodraeth Cymru i ailgylchu 68% o’n gwastraff.

Fodd bynnag, mae gennym ni ddata ar gynnwys y biniau ar olwynion ac ar gyfartaledd, mae llawer o ddeunydd ailgylchadwy'n dal i gael ei daflu fel gwastraff. Mae angen i ni ddargyfeirio’r deunydd ailgylchadwy o'r bin i mewn i'ch casgliadau ailgylchu wythnosol. I helpu i annog hyn, mae’r Cyngor wedi cyflwyno cyfyngiad ar faint o wastraff y gallwch ei gyflwyno i gael ei gasglu.
Gweler: Gorfodaeth Gwastraff Ochr y Ffordd

Sut y gallaf leihau faint o wastraff sydd yn y bin?

Bydd y Cyngor yn monitro’r casgliadau ac yn rhoi gwybod i drigolion sut y gallant ailgylchu mwy a lleihau faint o wastraff sy’n cael ei gyflwyno i gael gwared ag o.

Ewch i https://www.walesrecycles.org.uk/cy/sut-i-ailgylchu/sut-i-leihau-ailddefnyddio-ac-atgyweirio am gyngor ar leihau eich gwastraff

  • Ailddefnyddio rhai eitemau, fel potiau gwydr, poteli a thuniau bisgedi
  • Compostio gartref
  • Trwsio eitemau
  • Lleihau gwastraff drwy brynu nwyddau sydd â llai o ddeunydd pecynnu
  • Defnyddio eich cynllun ailgylchu wythnosol ar ochr y ffordd
  • Defnyddio Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref

A ydych chi’n cynnig unrhyw help i gartrefi sydd â theulu mawr?

Os ydych chi’n teimlo nad yw maint eich bin yn ddigon i anghenion eich teulu, efallai y byddwch yn gymwys i gael bin mwy.  180 litr yw maint bin gwastraff du sylfaenol, ond gall teuluoedd mwy (6 neu fwy yn y cartref) wneud cais am y bin mwy sy’n dal 240 litr, a rhoi eu bod yn ailgylchu cymaint â phosib’. 

Cysylltwch â ni i wneud cais.

Rwy’n symud i dŷ yn Sir y Fflint. Sut allaf archebu biniau/cynwysyddion newydd?

I wneud cais am finiau / cynwysyddion newydd rhaid i’r preswylydd fod wedi cofrestru ar gyfer y dreth gyngor yn yr eiddo newydd a bod yn byw yn yr eiddo.  Mae hyn yn helpu i sicrhau nad yw’r biniau’n cael eu symud o’r eiddo os yw’n wag.  Ar ôl i chi gofrestru defnyddiwch y ffurflen isod i wneud cais am finiau / cynwysyddion.

Dywedwch wrth Dîm y Dreth Gyngor os ydych yn symud tŷ neu os ydych yn dymuno cofrestru ar gyfer y dreth Gyngor yn Sir y Fflint.
Gwnewch gais am finiau a chynwysyddion newydd.
Dewch o hyd i’ch safle tipio lleol a gweld beth allwch ei ailgylchu/waredu yno.
Edrychwch ar restr o’r cynwysyddion a’r deunyddiau a gasglwn ar ochr y pafin.

Rwy’n byw mewn fflat / eiddo sy’n anodd ei gyrraedd – oes trefniadau casglu gwahanol?

Lle mae angen, byddwn yn gwneud trefniadau ar wahân ar gyfer mannau casglu penodol i fflatiau, eiddo â mynedfeydd cul neu eiddo sy’n anodd ei gyrraedd.  Bydd y Tîm Ailgylchu’n hysbysu perchennog yr eiddo o’r rhain. Mae’n bosibl y bydd hynny’n golygu cadw gwasanaeth bag du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu yn hytrach na darparu bin ag olwynion.  Fodd bynnag, byddwn yn darparu bin(iau) cymunedol ag olwynion yn rhad ac am ddim i rai lleoliadau, lle rydym ni wedi nodi mannau casglu, at ddiben storio gwastraff yn barod ar gyfer ei gasglu.

Afyddwch yn casglu gwastraff clinigol?

Rydym ni’n darparu gwasanaeth casglu gwastraff clinigol am ddim o’ch cartref ynghyd â chynhwysydd a bagiau addas i storio a chasglu’r gwastraff.

Gallwn gasglu gorchuddion, rhwymynnau, padiau anymataliaeth, bagiau stoma, cathetrau a deunydd miniog. Ni ddylech roi’r eitemau yma yn eich bin olwynion du. Fe drefnir man casglu, diwrnod casglu, amlder y casgliad ac unrhyw anghenion penodol ynglŷn â’r gwasanaeth yma gyda chi.

Sylwch: am resymau diogelwch, mae’n rhaid cadw nodwyddau mewn cynhwysydd melyn safonol ar gyfer deunydd miniog cyn eu rhoi allan i gael eu casglu. Maent yn cael eu darparu yn rhad ac am ddim o feddygfa eich meddyg teulu, y clinig neu'r ysbyty. Cysylltwch â Gwasanaethau Stryd os byddwch chi angen rhagor o gymorth.

Mae croeso i chi anfon neges e-bost at gwasanaethaustryd@siryfflint.gov.uk neu ffonio llinell gymorth Streetscene ar 01352 701234.

Sut galla’ i gael gwared ar wastraff peryglus neu asbestos?

Gellir cael gwared ar wastraff asbestos o eiddo domestig trwy ei gymryd i Barc Gwastraff ac Ailgylchu Domestig Bwcle.  Nid ydym yn darparu gwasanaeth cael gwared ar asbestos. Am gyngor ar drin a thrafod asbestos, ewch i www.hse.gov.uk 

Gellir mynd ag ychydig bach o wastraff domestig peryglus i barciau gwastraff ac ailgylchu domestig penodol.  Mae hyn yn cynnwys toddyddion sy’n cael eu defnyddio mewn cynnyrch golchi, garddio, cynnal a chadw (teneuwyr, paent), ceir (olew) a thiwbiau fflworoleuol a bylbiau golau (sy’n cynnwys mercwri).

Rhestr o wastraff a dderbynnir yn y domen (canolfan ailgylchu)
Canolfannau Ailgylchu Cartref

Casgliadau Brown Bin

Gan nad oes llawer o breswylwyr yn defnyddio’r gwasanaeth casglu gwastraff yr ardd yn ystod misoedd y gaeaf, ni fydd biniau brown yn cael eu casglu yn ystod misoedd Ionawr a Chwefror yn y dyfodol.

Ble mae'ch ailgylchu yn mynd?

Mae fy Ailgylchu Cymru yn eich galluogi i bori awdurdodau lleol Cymru a gweld beth sy'n digwydd i'ch gwastraff ledled y DU, a hyd yn oed o gwmpas y byd. Dysgu mwy yma

Gofyn cwestiwn i ni

Os nad yw eich cwestiwn chi wedi cael ei ateb gan y wybodaeth sydd ar ein tudalennau gwe, mae croeso i ffonio llinell gymorth Gwasanaethau tryd ar 01352 701234.