Nid yw'r Dreth Gyngor yn berthnasol i bob eiddo. Mae'r mwyafrif o esemptiadau'n berthnasol pan nad oes unrhyw un yn byw mewn eiddo, ond ambell waith mae eiddo lle mae pobl yn byw yn gallu bod yn destun esemptiad hefyd.
Ar y dudalen hon, ceir disgrifiad cryno o'r gwahanol fathau o esemptiadau sydd ar gael.
Esemptiadau gyda therfyn amser
Dosbarth A - Eiddo gwag lle mae gwaith atgyweirio mawr / newidiadau strwythurol yn ofynnol / yn digwydd
Gall yr esemptiad hwn fod yn berthnasol i eiddo gwag lle mae gwaith atgyweirio sylweddol neu newidiadau strwythurol yn ofynnol neu'n digwydd a gellir gosod yr esemptiad am uchafswm o 12 mis. Os yw'r gwaith yn parhau a bod yr eiddo yn dal i fod yn wag ar ôl 12 mis, bydd cost lawn y dreth gyngor yn daladwy. Lawrlwythwch ffurflen gais.
Dosbarth B - eiddo gwag sy'n perthyn i elusen
Mae eiddo gwag sy'n perthyn i elusen ac a ddefnyddiwyd ddiwethaf at ddibenion elusennol yn destun esemptiad 6 mis.
Dosbarth C - Eiddo gwag heb ei ddodrefnu
Mae eiddo gwag heb ei ddodrefnu yn destun esemptiad chwe mis. Mae eiddo sydd newydd ei adeiladu yn destun esemptiad hyd at chwe mis ar ôl iddo gael ei gwblhau cyhyd â bod yr eiddo yn dal yn wag ac heb ei ddodrefnu.
Dosbarth F - Eiddo sy'n wag yn dilyn marwolaeth y deiliad
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol pan gaiff eiddo ei adael yn wag yn dilyn marwolaeth y sawl sy'n gyfrifol am dalu'r dreth gyngor a phan nad oes grant profiant na llythyrau gweinyddu wedi'u dyfarnu. Daw'r esemptiad i ben 6 mis ar ôl i grant profiant neu lythyrau gweinyddu gael eu dyfarnu. Daw'r esemptiad i ben hefyd os daw'r eiddo'n wag; neu os caiff yr eiddo ei werthu neu ei drosglwyddo i fuddiolwr; neu os caiff ei ail-osod fel eiddo rhent.
Eiddo gwag sy'n destun esemptiad cyhyd â'u bod yn wag
Dosbarth D - Eiddo sydd wedi'i adael yn wag gan bobl sydd yn y carchar
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i eiddo gwag lle mae'r perchennog neu'r tenant yn cael ei gadw mewn carchar, ysbyty neu ganolfan gadw arall.
Dosbarth E - Eiddo sydd wedi'i adael yn wag gan rywun sydd wedi mynd i ysbyty neu gartref gofal
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol lle mae rhywun wedi gadael ei eiddo yn wag i dderbyn gofal neu driniaeth mewn ysbyty, cartref gofal preswyl, cartref nyrsio neu hostel. Bydd yr esemptiad yn berthnasol os nad yw'r deiliad yn bwriadu dychwelyd i'r eiddo.
Dosbarth G - Eiddo lle mae daliadaeth yn cael ei gwrthod gan y gyfraith
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol mewn eiddo lle caiff daliadaeth ei gwrthod gan y gyfraith.
Dosbarth H - Eiddo gwag megis ficerdy sy'n cael ei gadw ar gyfer gweinidog crefyddol
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i eiddo sydd wedi'i adael yn wag ar gyfer gweinidog crefyddol a fydd yn perfformio dyletswyddau ei swydd o'r eiddo.
Dosbarth I - Eiddo gwag sydd wedi'i adael yn wag gan fod y sawl sy'n gyfrifol am dalu'r dreth gyngor wedi mynd i fyw i rywle arall i dderbyn gofal personol
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol lle mae rhywun wedi gadael eiddo'n wag i fynd i fyw gyda rhywun arall er mwyn derbyn gofal personol oherwydd henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau nawr neu yn y gorffenol, neu salwch meddwl nawr neu yn y gorffennol. Dosbarth J - Eiddo sydd wedi'i adael oherwydd bod y sawl sy'n gyfrifol am dalu'r dreth gyngor wedi mynd i fyw i rywle arall i ddarparu gofal personol i rywun arall.
Dosbarth J - Eiddo sydd wedi'i adael yn wag gan unigolyn sy'n darparu gofal personol
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol lle mae unigolyn wedi gadael ei eiddo'n wag er mwyn mynd i fyw at rywun i ddarparu gofal personol iddynt oherwydd henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau nawr neu yn y gorffenol, neu salwch meddwl nawr neu yn y gorffennol.
Dosbarth K - Eiddo sydd wedi'i adael yn wag gan fyfyriwr
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol os yw'r eiddo gwag yn perthyn i fyfyriwr neu os mai myfyriwr oedd y deiliad diwethaf i fyw yno.
Dosbarth L - Eiddo gwag sydd wedi'i ailfeddiannu
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i eiddo sydd wedi'i adael yn wag ac wedi'i ailfeddiannu gan ddarparwr morgeisi. Os nad yw'r eiddo'n wag ar ddyddiad yr adfeddiant, daw'r esemptiad i rym ar y dyddiad y daw'n wag.
Dosbarth Q - Eiddo sydd wedi'i adael yn wag gan rywun sy'n fethdalwr
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol lle byddai'r sawl sy'n gyfrifol am dalu'r dreth gyngor am eiddo gwag yn fethdalwr.
Dosbarth R - Llain carafán neu angorfa cwch sydd wedi'u gadael yn wag
Mae llain carafán gwag (heb garafan), neu angorfa wag (heb gwch), yn destun esemptiad.
Dosbarth T - Rhandy gwag wrth eiddo gwag
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i randai sy'n ffurfio rhan o adeiladau sy'n cynnwys eiddo arall a lle na fyddai'r rhandy gwag yn cael ei osod ar wahân heb dorri rheolau cynllunio. Gallai'r esemptiad fod yn berthnasol p'un a yw'r rhandy wedi'i ddodrefnu ai peidio.
Eiddo sy'n destun esemptiad tra bo pobl yn byw yno
Dosbarth M - Neuaddau Preswyl Myfyrwyr
Mae neuaddau preswyl i fyfyrwyr yn destun esemptiad cyn belled â bo'r llety yn perthyn neu'n cael ei reoli gan sefydliad addysgol penodedig; corff a sefydlwyd at ddibenion elusennol yn unig; neu sy'n destun cytundeb sy'n galluogi sefydliad addysgol i enwebu mwyafrif y myfyrwyr preswyl.
Dosbarth N - Eiddo sy'n gartref i fyfyrwyr yn unig
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol lle mae holl breswylwyr yr eiddo yn fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chwrs addysg llawn amser mewn sefydliad addysgol penodedig neu sydd wedi gadael ysgol neu goleg.
Dosbarth O - Lletyau'r lluoedd arfog
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i letyau ar gyfer lluoedd arfog y DU sy'n perthyn i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn p'un a ydynt wag ai peidio. Mae hyn yn cynnwys barics neu letyau eraill mewn canolfannau milwrol, ynghyd â lletyau priod ac anheddau eraill, waeth ble maent wedi'u lleoli, cyn belled â bo'r llety yn cael ei ddefnyddio at ddibenion y lluoedd.
Dosbarth P - Eiddo ar gyfer lluoedd sy'n ymweld neu aelodau o sefydliadau amddiffyn rhyngwladol, neu eu dibynyddion
Mae eiddo'n destun esemptiad os yw'r deiliaid sy'n gyfrifol am dalu'r dreth gyngor yn aelodau (neu'n ddibynyddion i aelodau) o lu sy'n ymweld.
Dosbarth S - Eiddo sy'n gartref i bobl dan 18 oed yn unig
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i eiddo sy'n gartref i ddeiliaid dan 18 oed yn unig.
Dosbarth U - Eiddo sy'n gartref i bobl â salwch meddwl difrifol a fyddai fel arall yn gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor yn unig
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol i eiddo lle mae'r deiliaid yn atebol i dalu'r dreth gyngor ac sydd i gyd yn unigolion sy'n cael eu hystyried i fod â Salwch Meddwl Difrifol.
Dosbarth V - Eiddo sy'n brif breswylfa i unigolion â breintiau neu imiwnedd diplomyddol
Mae'r esemptiad hwn yn berthnasol os yw'r eiddo yn brif breswylfa i o leiaf un unigolyn sydd â breintiau neu imiwnedd diplomyddol yn y DU.
Dosbarth W - Rhandy sy'n gartref i rywun wrth eiddo sy'n gartref i rywun
Mae eiddo yn destun esemptiad os yw'n ffurfio rhan o eiddo sengl sy'n cynnwys o leiaf un annedd arall sy'n gartref i berthynas hen neu anabl y perchennog sy'n byw yn y rhan arall. Eiddo â fflat neu randy ar wahân lle mae un rhan o'r eiddo yn gartref i berthynas hen neu anabl y perchennog, sy'n byw yn y rhan arall.
Dosbarth X – Gall y sawl sy’n gadael gofal gael ei ddiystyru rhag talu Treth y Cyngor nes byddant yn 25 oed
Mae’r “sawl sy’n gadael gofal” yn cael ei ddiffinio fel person ifanc categori 3 o dan yr ystyr a roddir yn adran 104 o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (1).
Mae’r sawl sy’n gadael gofal yn cael ei ddiystyru rhag talu Treth y Cyngor nes byddant yn 25 oed.
Mae eiddo lle mae’r sawl sy’n gadael gofal yn byw eu hunain gyda phobl eraill sy’n gadael gofal, myfyrwyr llawn amser, plant sy’n gadael yr ysgol neu rywun â hawl i fudd-dal plant yn cael eu heithrio.
Os hoffech fwy o wybodaeth am esemptiadau'r Dreth Gyngor, neu os oes angen cyngor arnoch neu os hoffech wneud cais, cysylltwch â ni.