Alert Section

Newyddlen Newid Hinsawdd Rhif 3


Sut mae Paneli Solar yn Gweithio?

Mae paneli solar yn gweithio trwy drosi ynni o’r haul mewn i bŵer. Mae golau yn tywynnu drwy haenau o ddeunyddiau lled-ddargludyddion sy’n creu llif o drydan. Gall paneli solar gynhyrchu trydan hyd yn oed ar ddiwrnodau cymylog cyn belled â bod yna rhyw lefel o olau haul. Mae faint o ynni sy’n cael ei gynhyrchu yn dibynnu ar faint o olau haul uniongyrchol mae’n yn ei gael, ansawdd, maint a lleoliad. 

Solar Panels

Pam ydym ni’n buddsoddi mewn safleoedd paneli solar?

Mae yna angen i symud ein darpariaeth ynni i ffwrdd o’i greu trwy losgi tanwydd ffosil.  Mae paneli solar yn adnodd o ynni adnewyddadwy, sy’n golygu eu bod yn ffynonellau naturiol na fydd yn dod i ben mor gyflym ac y cânt eu defnyddio.  Trwy fuddsoddi mewn ffermydd solar, gallwn elwa’n uniongyrchol o’r ynni sy’n cael ei gynhyrchu neu gyfrannu tuag at ddatgarboneiddio'r grid trydan.  Gosododd Llywodraeth Cymru nod i Gymru gwrdd â 100% o’i hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035 ac fe allwch chi ddarllen mwy am hyn yma Bwletin Newid Hinsawdd.

Solar farms

Lle mae ffermydd solar Cyngor Sir y Fflint?

Mae gennym ni 4 safle fferm solar yn Sir y Fflint sydd yn gallu cynhyrchu tua 4MW o drydan. Mae gennym ni ddwy fferm ym Mwcle sydd wedi bod yn weithredol ers 2016, ac mae gennym ni ddwy fferm newydd yn Y Fflint a Chei Connah.  Mae yna Gynlluniau Bioamrywiaeth ar gyfer safleoedd y Fflint a Chei Connah ar gyfer hau dolydd blodau gwyllt a bydd rhywogaethau llai o adar yn dal i allu defnyddio’r tir ar gyfer nythu ar y ddaear a chwilota.

Datblygiadau’r Dyfodol

Rydym ni wrthi'n cynnal astudiaeth ddichonoldeb ar safleoedd ar gyfer pŵer solar, gwynt a hydro yn y dyfodol, a byddwn yn defnyddio dulliau aml-dir pan fo hynny’n bosibl yn cynnwys amaeth-foltaig, tra’n cysylltu gyda’n hymrwymiadau bioamrywiaeth. 

Yn yr wythnosau i ddod!

Beth yw Diwrnod y Ddaear a pham ei fod yn bwysig?

Mae Diwrnod y Ddaear yn ddathliad blynyddol sydd yn anrhydeddu cyflawniadau’r mudiad amaethyddol ac yn codi ymwybyddiaeth am yr angen i amddiffyn y ddaear a’i hadnoddau naturiol.  Eleni, mae’n cael ei gynnal ar 22 Ebrill. 

Thema eleni yw buddsoddi yn ein planed, a thynnu sylw at bwysigrwydd rhoi ein hamser ac egni i frwydro newid hinsawdd. 

Ffyrdd o fuddsoddi yn ein planed:

Os hoffech chi ddysgu am ragor o ffyrdd o fuddsoddi yn ein planed, ewch i’n tudalen newid hinsawdd neu Argymhellion Diwrnod y Ddaear.

Helpu i Gadw Sir y Fflint yn Daclus

Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn rheoli dwy ganolfan casglu sbwriel yn Sir y Fflint sydd wedi’u lleoli ym Mharc Gwepra a Dyffryn Maes Glas. Mae’r canolfannau yma’n storio offer y gallwch chi eu defnyddio i gasglu sbwriel.  Mae yna ffyn casglu sbwriel, siacedi llachar, bagiau sbwriel a chylchyn ar gyfer y bag. Fe allwch chi ymuno â digwyddiad sydd wedi’i drefnu neu ymweld â’r ganolfan i ymwelwyr a chasglu’r offer i gasglu sbwriel ac yna eu dychwelyd i’r ganolfan ar ôl i chi orffen. 

Mae yna 184 o ganolfannau wedi’u lleoli o amgylch Cymru.  Beth am wahodd ffrind i fynd am dro o amgylch eich ardal leol a chasglu sbwriel?

Cynllun Cefnogwr Sbwriel  

Fe allwch chi ddod yn gefnogwr sbwriel drwy wirfoddoli i gasglu sbwriel a lleihau gwastraff.  Fe allwch chi wneud hyn drwy ymweld â’ch canolfan casglu sbwriel lleol neu gysylltu â’ch swyddog prosiect lleol.

Ardaloedd Di-sbwriel

Gall busnesau o bob math a maint fabwysiadu ardaloedd penodol i’w glanhau yn rheolaidd.  Mae hyn yn cynnwys ysgolion sydd yn ffordd dda o annog perthynas gadarnhaol rhwng ein pobl ifanc a sbwriel.

Gwanwyn Glân Prydain -https://www.keepbritaintidy.org/get-involved/support-our-campaigns/great-british-spring-clean

Beth am ddefnyddio’r canolfannau casglu sbwriel yn yr ardal i gymryd rhan yng Ngwanwyn Glân Prydain sy’n cael ei gynnal rhwng 17 Mawrth a 2 Ebrill. 

A wyddoch chi?

I ble mae’r gwastraff yn eich bin brown yn mynd?

Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu’r gwastraff yn eich bin brown o ymyl palmant lle caiff ei gymryd i Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref ym Maes Glas. Caiff 12,000 tunnell o wastraff gwyrdd o aelwydydd, canolfannau ailgylchu, ymylon ffordd, parciau a gerddi eu prosesu mewn i gompost ar y safle. Mae’r fideo byr yma’n egluro’r broses. Mae’r cynnyrch olaf ar gael am ddim i breswylwyr ei gasglu o Ganolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref trwy gydol y flwyddyn.  

Brown bin

Manteision defnyddio cyflyrwr pridd / compost.

Mae cyflyrwr pridd / compost yn gwella lleithder y pridd ac helpu i gadw maeth, tra hefyd yn storio’r maeth yn fwy hawdd.  Mae’r cyflyrwr pridd hefyd yn cynorthwyo â draenio drwy adfer strwythur i’r pridd.  Yn sgil hyn, caiff planhigion mwy iach eu tyfu, gan alluogi iddynt ymladd afiechydon a phla yn well, tra’n tyfu’n fwy ac yn gryfach. Y fantais olaf yw gallu troi’r hyn arferai fod yn wastraff, mewn i gynnyrch sydd yn wych ar gyfer yr amgylchedd. 

Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd 2023

Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff bin brown yn rhedeg rhwng 1 Mawrth 2023 a 16 Rhagfyr 2023. I ddysgu mwy am y tanysgrifiad ar gyfer gwasanaeth casglu gwastraff gardd eleni, ewch i’n adran newyddion diweddaraf.