Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd 2023

Published: 01/02/2023

garden-recycling-600-pixels_large.jpgHoffai Cyngor Sir y Fflint atgoffa preswylwyr i adnewyddu eu tanysgrifiad ar gyfer casgliad gwastraff gardd y Cyngor, sy’n ailddechrau o 1 Mawrth 2023 ac yn cael ei gynnal tan 16 Rhagfyr 2023. 

Gall preswylwyr gofrestru ar gyfer y cynllun unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond rydym yn annog pobl i gofrestru'n gynnar er mwyn sicrhau eu bod yn elwa o'r gwasanaeth casglu llawn yn ystod y tymor, yn ogystal â'r pris tanysgrifiad gostyngol sydd ar gael cyn 28 Chwefror 2023. Mae tanysgrifiadau cyn y dyddiad hwn neu ar-lein trwy gydol y tymor yn £32 y bin. Ar ôl 1 Mawrth 2023 bydd y pris sylfaenol yn £35, os nad ydych yn talu ar-lein. 

Os wnaethoch chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth y llynedd (2022) byddwch wedi derbyn ein math newydd o sticer gyda sglodyn RFID wedi’i fewnosod. Golyga hyn na fyddwch chi’n derbyn sticer newydd wrth gofrestru am y gwasanaeth casglu eleni, bydd yr un sydd eisoes wedi’i atodi i’ch bin yn gweithio unwaith eto. 

Rhowch eich bin brown allan i’w gasglu pan fydd y gwasanaeth yn ailddechrau a bydd eich gwastraff gardd yn cael ei gasglu. Os na wnaethoch chi gofrestru am y gwasanaeth yn 2022, anfonir pecyn sticer atoch unwaith y byddwch wedi tanysgrifio i’r gwasanaeth.  

Gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth unrhyw bryd, trwy fynd i wefan y Cyngor, ein ffonio ar 01352 701234 neu ymweld â’ch Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu leol. 

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Dave Hughes:  

“Hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu bin brown.   Wrth i ni edrych ymlaen at dymor 2023, byddem yn annog preswylwyr i gofrestru’n fuan ar gyfer y gwasanaeth poblogaidd iawn hwn fel eu bod yn cael budd o’r gwasanaeth casglu llawn a’r gyfradd ostyngol.  

"Rydym am sicrhau ein bod yn annog mwy o bobl i ailgylchu eu gwastraff gardd. Os oes gennych unrhyw laswellt, dail, tocion gwrychoedd, brigau, rhisgl a changhennau bach, gallwch roi’r rhain i gyd yn eich bin brown. Ni ellir defnyddio’r biniau ar gyfer gwastraff ffrwythau a llysiau, gwastraff bwyd, cardfwrdd, papur, pridd a rwbel na gwasarn anifeiliaid, gwellt anifeiliaid a gwastraff anifeiliaid. 

"Mae’r holl wastraff gardd a gesglir yn cael ei gompostio mewn cyfleuster a weithredir gan y Cyngor ym Maes Glas. Yna gall preswylwyr Sir y Fflint gasglu’r compost a gynhyrchwyd am ddim o un o’n pum Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref.” 

I danysgrifio ar-lein, ac am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan: Gwastraff Gardd.

Am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, cofrestrwch yma i dderbyn diweddariadau rheolaidd dros e-bost.