Alert Section

Newyddlen Newid Hinsawdd Rhif 9


Rhaglen Re:fit

Beth yw’r rhaglen Re:fit?

Mae’r rhaglen Re:fit yn fenter ar gyfer cyrff cyhoeddus sy’n dymuno rhoi mesurau ar waith i wella effeithlonrwydd ynni. Mae hyn yn rhan o Strategaeth Sero Net gan Lywodraeth y DU i dargedu gwelliannau effeithlonrwydd ynni mewn eiddo domestig ac annomestig ledled y DU. Mae’r rhaglen yn helpu drwy alluogi cyrff cyhoeddus i roi prosiectau ôl-osod ar waith a chyflawni arbedion ariannol a gwella perfformiad.

Manteision y rhaglen Re:fit

Nod cyffredinol y rhaglen yw helpu i wella effeithlonrwydd ynni mewn adeiladau drwy fesurau gwahanol fel inswleiddio, goleuadau rhad-ar-ynni, uwchraddio systemau gwresogi, a gosod  ffynonellau ynni adnewyddadwy ar adeiladau. Wrth osod y mesurau hyn, gallwn ni leihau costau ynni, gwella perfformiad adeiladau, a hybu buddsoddiad lleol trwy greu swyddi lleol a lleihau allyriadau CO2 cyffredinol y Cyngor.

Re:fit yn Sir y Fflint

Dros y 2 flynedd ariannol nesaf, mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i fuddsoddiad o £1.5 miliwn yn y rhaglen hon a fydd yn rhoi cynlluniau effeithlonrwydd ynni ac ynni adnewyddadwy ar waith ar draws amrywiaeth o’i adeiladau gan gynnwys adeiladau cyhoeddus, ysgolion a chanolfannau ymwelwyr. Rhagwelir y bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei adennill o fewn 7 mlynedd o ganlyniad i’r arbedion a wneir o’r defnydd o ynni a chynnydd mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Byddwn ni’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd y gwaith hwn.

Wyddoch chi?

Dim ond 2% o allyriadau eu hardal leol yw allyriadau uniongyrchol yr awdurdod lleol. Fodd bynnag, mae gan yr awdurdod lleol ddylanwad dros 33% o allyriadau ei ardal leol oherwydd ei ddylanwad fel cyflogwr, landlord cymdeithasol, caffaelwr nwyddau a gwasanaethau, ac ati. Mae ymgysylltu a hysbysu trigolion yn rhan bwysig o hyn. Mae gennym ni dudalen we sydd â'r nod o helpu trigolion i ostwng eu hallyriadau eu hunain drwy wahanol gamau gweithredu yn amrywio o fwyd, ynni, tir, cludiant a gwastraff. Ar waelod y dudalen mae botwm gwneud addewid lle gallwch chi ychwanegu addewid ynghylch sut y byddwch chi’n lleihau eich allyriadau carbon. Mae camau bach yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

                                                  Beth am wneud addewid heddiw?

Ydych chi wedi dilyn ein tudalen Facebook eto? Mae Cyngor Sir y Fflint bellach gyda thudalen Facebook swyddogol i ddiweddaru preswylwyr ar y gwahanol wasanaethau y mae’r cyngor yn ei ddarparu.  Ymysg diweddariadau pwysig eraill bydd y Tîm Newid Hinsawdd yn postio gwybodaeth ar newid hinsawdd, digwyddiadau, a’r gwaith y mae’r cyngor yn ei wneud ar ddatgarboneiddio.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn y dudalen os ydi hyn o ddiddordeb i chi. 

Hyfforddiant Carbon i Weithwyr

Yn ddiweddar, mae'r tîm Newid Hinsawdd wedi bod yn cynnal hyfforddiant llythrennedd carbon mewnol wedi’i achredu ar gyfer Aelodau Etholedig ac Uwch Swyddogion drwy'r Prosiect Llythrennedd Carbon. Mae hyfforddiant llythrennedd carbon yn helpu i roi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd, effeithiau gweithredoedd bob dydd a sut i ddefnyddio'r wybodaeth honno i greu newid cadarnhaol yn y gweithle ac yn y cartref. 

Mae modiwlau e-ddysgu ar gyfer newid hinsawdd a bioamrywiaeth yn cael eu datblygu ar hyn o bryd yn rhan o gomisiynau rhanbarthol, a bydd hyn yn helpu i ymgysylltu â’r staff ehangach ar effeithiau newid hinsawdd a sut y gallan nhw’n bersonol gymryd camau gweithredu yn y gwaith ac yn y cartref.

Tyfu Bwyd yn Sir y Fflint

Sawl rhandir sydd yn Sir y Fflint?

Mae tîm Prisio ac Ystadau Sir y Fflint yn rheoli 6 rhandir yn uniongyrchol sy’n cynnwys 45 o leiniau maint llawn ac 16 hanner llain.  Mae pump yn y Fflint ac un yn Dobshill. Mae’r safleoedd hyn yn y lleoliadau isod:

  • Dobshill - Dolydd 
  • Y Fflint - Swinchiard Walk
  • Y Fflint - Henry Taylor Street
  • Y Fflint – Allt Goch
  • Y Fflint – Maes Afon
  • Y Fflint – Maes Gwyn – Newydd 2024

Mae mwy o safleoedd rhandiroedd wedi’u gwasgaru ledled y sir nad ydynt yn cael eu rheoli’n uniongyrchol gan dîm Prisio ac Ystadau Sir y Fflint ac sy’n cael eu prydlesu. Mae’r rhain wedi’u lleoli yn:

  • Kinnerton Uchaf - Park Avenue
  • Penarlâg - Aston Hall Lane
  • Saltney – Victoria Road

Sut ydw i’n cael rhandir yn Sir y Fflint?

Er mwyn gallu defnyddio safle rhandir, yn gyntaf mae angen i chi fod yn breswylydd yn Sir y Fflint.  Os byddwch chi’n gweld safle yr hoffech chi ei ddefnyddio, gallwch chi fynegi eich diddordeb a byddwch chi’n cael eich ychwanegu at restr aros. Pan fydd llain ar gael, bydd tîm Prisio ac Ystadau Sir y Fflint yn cysylltu â chi. Mae’n rhaid defnyddio'r safle ar gyfer tyfu llysiau, ffrwythau a blodau.

Os yw hyn yn rhywbeth y mae gennych chi ddiddordeb ynddo, mae gan wefan Cyngor Sir y Fflint wybodaeth ychwanegol ynghylch y safleoedd rhandiroedd a ffurflen ar-lein a fydd yn eich rhoi chi ar y rhestr aros.

Cyfleoedd yn y Dyfodol

Mae tîm Prisio ac Ystadau Cyngor Sir y Fflint yn adolygu'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd ac yn edrych i weld ymhle mae’r galw. Ar hyn o bryd, maen nhw yn y broses o gyhoeddi safle newydd ar-lein ym Maes Gwyn, y Fflint, a bydd 5 llain maint llawn ychwanegol ar-lein yn 2024.

Pam mae tyfu eich bwyd eich hun yn bwysig?

Mae manteision personol i dyfu bwyd eich hun, fel:

  • Bwyta ffrwythau a llysiau mwy ffres
  • Cynnydd mewn gweithgaredd corfforol 
  • Lleihau costau
  • Ymdeimlad o lwyddiant wrth dyfu eich cynnyrch eich hun

Mae manteision amgylcheddol hefyd - yn aml mae gan fwyd sy'n cyrraedd silffoedd archfarchnadoedd ôl troed carbon uchel o ganlyniad i gludo'r eitem, pecynnu, storio mewn tymheredd cyson a cyffeithyddion. Drwy dyfu eich bwyd eich hun, mae’n cael gwared ar y camau hynny i gyd a bydd yn  helpu i leihau eich ôl troed carbon.

Y Mis Hwn!

Lansiad Pecyn Gwaith i Ysgolion/Cynghorau Tref a Chymuned

Mae gan Sir y Fflint nifer sylweddol o Ysgolion a Chynghorau Tref a Chymuned yn y sir. O ganlyniad i hyn, mae strategaeth newid hinsawdd y Cyngor yn nodi’r camau gweithredu i “Gefnogi Ysgolion a Chynghorau Tref a Chymuned i leihau allyriadau gweithrediadau ac ymgysylltu â defnyddwyr ein hadeiladau i annog newid ymddygiad cadarnhaol.”

Mae’r tîm Newid Hinsawdd wedi bod yn brysur yn datblygu pecyn gwaith sy’n dod â llawer o elfennau ynghyd sy’n cefnogi Ysgolion a Chynghorau Tref a Chymuned i fesur a deall eu hallyriadau carbon yn ogystal ag ymgysylltu â dysgwyr a chymunedau lleol i gefnogi a gweithredu.

Mae llawer o themâu yn y pecynnau gwaith hyn, fodd bynnag, mae pwyslais penodol ar wella ymddygiad; helpu i wneud gwell penderfyniadau a gwneud y gorau o adeiladau a systemau presennol. Mae’r pecyn gwaith yn helpu i gyfrifo ôl troed carbon, ac yn gosod camau gweithredu i leihau’r ôl troed hwn.

Bwriedir lansio’r pecyn gwaith ar-lein y mis hwn, ac yr ydym ni’n gobeithio y bydd Ysgolion a Chynghorau Tref a Chymuned yn cysylltu â ni er mwyn i ni allu eu helpu. climatechange@siryfflint.gov.uk

Ôl Troed Carbon: Mesur allyriadau carbon unigolyn, sefydliad neu leoliad, a thrwy hynny eu cyfraniad at gynhesu byd-eang.  Mae hyn yn lluosi data o ddefnydd ynni, teithio, gwastraff, a chaffael â ffactor allyriadau perthnasol i gyflwyno ffigur terfynol.

Tymor Plannu Coed 2024

Tyfu gwell yfory: Ein menter plannu coed.

Yn 2018, lansiodd Cyngor Sir y Fflint eu Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol cyntaf.  Roedd y cynllun hwn yn nodi gweledigaeth strategol ar gyfer plannu coed ar hyd a lled y Sir, gan ganolbwyntio’n benodol ar ardaloedd trefol. Roedd y cynllun hefyd yn gosod nod ar gyfer cyflawni gorchudd coed trefol o 18% erbyn 2033.

I gefnogi’r Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol, mae Cyngor Sir y Fflint wedi llwyddo i gael grant gan Lywodraeth Cymru eleni eto, trwy’r gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Mae'r cyllid grant hwn yn cefnogi'r tîm mynediad a'r amgylchedd naturiol i greu cysylltiadau gwyrdd drwy'r Sir, ynghyd â’r weledigaeth o wella mannau gwyrdd ar gyfer pobl a byd natur.

Mae coed yn gynrychioladol o fyd natur oherwydd eu pwysigrwydd wrth liniaru newid hinsawdd, creu cynefinoedd a hybu bioamrywiaeth. I fodau dynol, mae coed yn fuddiol i’n hiechyd meddwl a chorfforol, yn enwedig mewn ardaloedd trefol.

I gyrraedd y targed o gael gorchudd coed dros 18% o’r tir erbyn 2033, bu Cyngor Sir y Fflint wrthi dros y flwyddyn ddiwethaf yn gweithio gyda chynghorau lleol, cymunedau ac ysgolion i nodi a chytuno ar nifer o safleoedd trefol i blannu coed.

Drwy gydol y tymor plannu coed (Rhagfyr 2023 – Mawrth 2024), mae’r tîm mynediad a’r amgylchedd naturiol wedi plannu coed newydd yn ogystal â gweithio’n galed i gynnal ein brigdwf coed presennol trwy blannu coed yn lle’r coed y mae angen cael gwared arnynt. Yn gyffredinol, mae’r tîm mynediad ac amgylchedd naturiol wedi llwyddo i blannu 126 o goed safonol, 130 o goed blwydd a 4,168 o goed chwip ledled y sir. Daw’r ffigurau hyn o 28 o wahanol safleoedd, ac mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i ddatblygu Coedwig Sir y Fflint.

Os oes gan eich tref neu gymuned ddiddordeb mewn plannu coed, cysylltwch â ni i drafod ymhellach: biodiversity@siryfflint.gov.uk. Bydd safleoedd yn cael eu blaenoriaethu yn ôl y budd posibl i’r gymuned a byd natur.

Tree planting