Alert Section

Gwasanaethau Cyngor Yn Ystod Tywydd Garw


Gwasanaethau Cyngor yn ystod tywydd garw

Yma mae dolenni i dudalennu defnyddiol ar gyfer gwasanaethau amrywiol y Cyngor a allai fod yn berthnasol pan yn ystod cyfnodau o dywydd garw.

Casglu gwastraff ac ailgylchu.
Os bydd yn rhaid newid dyddiadau casglu gwastraff, cewch hyd i wybodaeth am unrhyw newidiadau dros dro yn y trefniadau ar y brif dudalen Biniau, ailgylchu a gwastraff.

Cau ysgolion.
Mae’r ysgolion eu hunain yn diweddaru’r dudalen Cau Ysgolion er mwyn rhoi gwybod os ydynt unigol yn cau neu’n cau’n rhannol. Gallwch hefyd edrych ar wefan /tudalen moodle ysgolion unigol i chwilio am wybodaeth benodol amdanynt.

Graeanu / clirio eira.
Mae’r tudalennau Graeanu a chlirio eira yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol fel y ffyrdd sy’n cael blaenoriaeth pan fyddwn yn graeanu, ein cyfrifoldebau o ran clirio eira a chwestiynau cyffredin eraill.

Coed wedi disgyn.
I roi gwybod inni am goed sydd wedi disgyn ar draws briffordd neu sy’n creu perygl i’r cyhoedd, cysylltwch â’r Gwasanaethau Stryd.

Cynllunio at Argyfwng.
Mae’r tudalennau Cynllunio at Argyfwng yn cynnwys gwybodaeth am helpu i ymdopi ag argyfwng, fel tywydd eithriadol o oer, llifogydd neu dân. 

Os oes gennych ymholiadau am gyflenwadau trydan, ffoniwch SP Energy Networks.
Beth i’w wneud os na fydd gennych gyflenwad trydan.

Bydd unrhyw ddigwyddiad sy’n amharu ar drafnidiaeth gyhoeddus i’w chael ar wefan Traveline Cymru.

Mae gorsafoedd radio lleol hefyd yn cyhoeddi newyddion am unrhyw broblemau lleol neu broblemau traffig.

Mae nifer o gyrff yn cynnig gwybodaeth mewn amser real ar Twitter:

Cyngor Sir y Fflint @flintshireCC
Rhybuddion gan y Swyddfa Dywydd @metofficeWales
Heddlu Gogledd Cymru @NWPolice
Ystafell Rheoli Digwyddiadau Heddlu Gogledd Cymru @NWPControlroom
Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru @NorthWalesFire
Cyfoeth Adnoddau Cymru @NatResWales
SP Energy Networks @SPEnergyNetwork
Traveline Cymru @TravelineCymru
Traffig Gogledd Cymru @TrafficWalesN