Alert Section

Coronafeirws (Covid-19): diweddariadmgwasanaethau'r cyngor


Coronafeirws (Covid-19) Amser Diweddaru 17:00 Dyddiad 27/07/20: Cau a chyfyngiadau dros dro ar wasanaethau a chyfleusterau penodol y cyngor

Y wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws (Covid-19), Amser 17:30, Dyddiad 27/03/20: achosion o gau a chyfyngiadau dros dro ar rai o wasanaethau a chyfleusterau’r cyngorLlywodraeth Y DU a’r Llywodraethau cenedlaethol wedi’u datganoli sy’n arwain yr ymateb i’r sefyllfa genedlaethol. Mae Awdurdodau Lleol yn dilyn eu harweiniad a gwneud penderfyniadau rhanbarthol a lleol yn unol â hynny.

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno mesurau caeth newydd ar gyfer teithio hanfodol, cadw pellter cymdeithasol ac ymddygiad y cyhoedd. Mae gwasanaethau a chyfleusterau’r cyngor a fyddai’n annog y cyhoedd i deithio heb fod angen wedi cau bellach nes clywir yn wahanol.

Bydd y Cyngor yn cydymffurfio yn syth a phob cyfarwyddyd cenedlaethol o’r fath. Mae’n bosibl y bydd rhagor o gyfarwyddyd yn dilyn. Byddai methu â chydymffurfio yn torri canllawiau’r Llywodraeth.aiff unrhyw wasanaethau neu gyfleusterau a gaiff eu heffeithio gan gyhoeddiadau o’r fath eu cau neu eu tynnu’n ôl ar unwaith. Mae holl wasanaethau hanfodol eraill y Cyngor yn rhedeg fel arfer ar hyn o bryd, ond mae’r sefyllfa yn datblygu’n gyflym. Byddwn yn gwneud penderfyniadau am flaenoriaethu ein hadnoddau ar gyfer y gwasanaethau mwyaf hanfodol fel bo angen. 

Mae gwasanaethau a chyfleusterau canlynol y Cyngor ar gau ar hyn o bryd neu yn rhedeg ar sail gyfyngedig. Fe gaiff y wybodaeth hon ei diweddaru’n rheolaidd felly ewch i’r wefan hon yn aml. 
==================================================================================

Darpariaeth Gofal Plant yn Sir y Fflint

Paratoi am gynnydd mewn gweithrediadau ysgol 

Yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Addysg y gall ysgolion ddechrau paratoi i gynyddu eu gweithrediadau o 29 Mehefin, rydym yn gweithio’n agos gyda’n hysgolion i sicrhau bod ein disgyblion yn cael y cyfle i ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar gyfer mis Medi.

Yn ystod y cyfnod hwn o ysgolion wedi cau, mae ysgolion hefyd wedi gweithio’n greadigol iawn i gynnal ymgysylltiad â disgyblion i ddysgu drwy amrywiaeth o ffyrdd. Mae’n amlwg y byddant yn gorfod gweithredu mewn ffordd wahanol iawn yn y dyfodol rhagweladwy, gan ddarparu cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb ac o bell – dull dysgu cyfunol. 

Mae’r cynllunio yn y camau cynnar, ond rydym yn gwerthfawrogi y bydd rhieni a gofalwyr ac yn wir, disgyblion a staff ysgol, â phryderon a chwestiynau.  Dyma pam rydym eisiau parhau i roi gwybodaeth i chi wrth i benderfyniadau gael eu gwneud, felly rydym yn gobeithio y byddwch yn gallu teimlo’n dawel eich meddwl ac yn hyderus gyda’r camau rydym yn eu cymryd.  Mae diogelwch a lles ein staff a dysgwyr o’r pwysigrwydd mwyaf yn ein holl gynllunio.

Beth y gallwn ei ddweud hyd yn hyn:

• Oherwydd yr heriau a berir gan ddisgyblion oedran meithrinfa mewn perthynas â chadw pellter cymdeithasol, mae’r Cyngor wedi penderfynu eithrio’r grŵp hwn o ddisgyblion o’r sesiynau ailgydio a dal i fyny cyn y gwyliau haf.  Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau eraill yng Nghymru’n gwneud yr un fath.

• Mae pob ysgol yn wahanol a bydd trefniadau yn eu lle sy’n addas i bob lleoliad ysgol unigol. Gwyddwn y bydd llawer o ddosbarthiadau llawer llai, yn darparu amser ymroddedig a diogel gydag athrawon a chyd-ddisgyblion. Bydd yr amser hwn yn cynnwys profiad ystafell ddosbarth ar-lein a gwneud plant ac athrawon yn barod am brofiad tebyg ym Medi.

• Nid oes unrhyw rwymedigaeth i anfon plant yn ôl i’r ysgol os nad yw’n iawn iddyn nhw neu eu teuluoedd. Felly, yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd rhieni’n cael dirwy os ydynt yn dewis peidio ag anfon eu plentyn i’r ysgol.

• Mae uned cludiant Sir y Fflint yn gweithio’n agos gydag ysgolion i benderfynu ar y galw am gludiant ysgol.  Mae angen i ni gael rhwydwaith trafnidiaeth cadarn ac rydym yn hyderus y gallwn fodloni’r anghenion hynny. Ni fydd ysgolion yn agored i fwy na thraean o ddysgwyr ar unrhyw un adeg, felly rydym yn edrych ar amseroedd casglu a gollwng graddol, ynghyd ag opsiynau eraill.  Os ydych wedi gofyn am gludiant ysgol, bydd yr ysgol yn cysylltu â chi unwaith y bydd hyn wedi’i roi yn ei le.  Sicrhewch fod yr ysgol â’ch manylion cyswllt cyfredol.

• Rydym yn cymryd diogelwch a lles ein disgyblion a staff yn ddifrifol ac yn gweithio gyda’n partner NEWydd i sicrhau y bydd pob ysgol yn cael ei glanhau’n rheolaidd a gyda digon o ddeunyddiau glanhau, sebon a diheintyddion dwylo ar gael.

• Yn Sir y Fflint, rydym wedi gwneud y penderfyniad y bydd disgyblion yn cael arlwyo mewn arlwyo ysgol ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio trwy'r opsiynau.  Fodd bynnag, gan na fydd y ffynhonnau dŵr yn cael eu defnyddio, gall disgyblion ddod â photel ddŵr, cyn belled â’i bod wedi’i henwi’n glir ac nid yn cael ei rhannu ag unrhyw un arall.

• Gellir dod â chyfarpar hanfodol eraill i’r ysgol, er enghraifft, cas pensiliau, ond ni ellir rhannu eitemau gyda phobl eraill.

Gofal plant i weithwyr allweddol a dysgwyr diamddiffyn

Ers 30 Mawrth, mae Cyngor Sir y Fflint wedi darparu gofal plant i weithwyr allweddol a dysgwyr diamddiffyn drwy ganolfannau.  O 22 Mehefin, bydd plant sy’n mynd i’r canolfannau’n symud yn ôl i’w hysgol eu hunain a bydd y model gofal plant mewn argyfwng yn parhau. Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion i reoli’r cyfnod pontio hwn.

Mae’r model gofal plant mewn argyfwng yn gweithredu o 8.00 a.m. 5.30 p.m. dydd Llun i ddydd Gwener. Mae plant yn cael bwyd am ddim – brecwast, cinio a byrbryd ysgafn yn y prynhawn. Bydd y mwyafrif o rieni’n gallu gollwng a chasglu eu plant, ond os nad yw hyn yn bosibl, gall y Cyngor drefnu cludiant ar gais. 

Dim ond i blant y mae eu rhieni’n gritigol i ymateb Covid-19 y dylid cynnig llefydd mewn ysgolion/lleoliadau, lle nad oes unrhyw ddarpariaeth ddiogel, amgen.

Safbwynt Sir y Fflint yw na ddylai plant sydd wedi bod yn defnyddio’r gofal plant mewn argyfwng fod yn newid rhwng y gofal plant mewn argyfwng a’r sesiynau “ailgydio/dal i fyny” – mae hyn yn cynyddu’r risg o drosglwyddo’r feirws rhwng gwahanol gohortau o ddisgyblion.  Yn wir, mae’r disgyblion hyn eisoes wedi cael amser cyswllt gyda staff cyfarwydd i’w galluogi i “ailgydio a dal i fyny”.

Prydau ysgol am ddim 

Mae’r Cyngor bellach wedi newid i fodel Taliadau Uniongyrchol i rieni/gofalwyr sydd â hawl i brydau ysgol am ddim. Os nad ydych wedi cyflenwi manylion banc drwy borthol ar-lein diogel y Cyngor, gallwch gysylltu â chanolfan gyswllt y Cyngor ar 01352 752121.

Gall rhieni/gofalwyr hefyd anfon unrhyw gwestiynau i freeschoolmeals@flintshire.gov.uk a chynnwys yr wybodaeth ganlynol i sicrhau y caiff eu cais ei drin mor gyflym â phosibl:

  • Enw llawn rhiant / gofalwr
  • Cyfeiriad llawn gan gynnwys cod post
  • Enw(au) llawn y plant a dyddiad geni 
  • A oes gan y plentyn alergeddau
  • Manylion cyswllt rhiant/gofalwr – e-bost neu ffôn symudol 

Bydd taliadau uniongyrchol yn parhau drwy gydol gwyliau’r haf nes bydd eich plentyn/plant yn dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi. Byddwch yn derbyn taliadau nes ddiwedd tymor yr haf hefyd, a tra bo’ch plant yn yr ysgol, byddant yn cael pecyn cinio am ddim.

Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu

Canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yn ail-agor yn raddol o 13 Gorffennaf: 

13 Gorffennaf – Cei Connah a’r Wyddgrug

20 Gorffennaf – Y Fflint

27 Gorffennaf – Bwcle a Threffynnon

Cynlluniau Chwarae Haf Sir y Fflint

I gael rhagor o fanylion, ewch i: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-Apps/NewsPortlet.aspx?id=3867

Diogelu ein plant a’n oedolion diamddiffyn

Mae angen i ni i gyd ofalu am ein gilydd yn fwy nag erioed ar yr adeg anodd hon. Mae'n arbennig o bwysig ein bod yn gofalu am blant ac oedolion diamddiffyn nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad at eu cymorth arferol ar hyn o bryd. 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am gydlynu gwasanaethau amddiffyn plant ac oedolion yn y sir. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag ysgolion, Heddlu Gogledd Cymru, asiantaethau iechyd, meddygon, ymwelwyr iechyd, gwasanaethau eiriolaeth ac asiantaethau eraill i sicrhau bod plant, teuluoedd ac unigolion yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.  

Os oes gennych bryderon neu amheuon am blentyn yn Sir y Fflint yn cael ei anafu, am deulu sydd angen cymorth neu am oedolyn mewn perygl, ffoniwch: 

01352 701000 i adrodd am bryderon mewn perthynas â phlant; 

03000 858858 i adrodd am bryderon mewn perthynas ag oedolion; neu 

y tu allan i oriau swyddfa arferol, ffoniwch y Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd ar: 0345 0533116.

Byddwn yn trafod eich pryderon gyda chi ac yn gofyn am gymaint o wybodaeth â phosibl.  Byddwn yn ymchwilio i’ch pryderon ac, os bydd angen, yn gwneud cynllun i amddiffyn y plentyn neu’r oedolyn.  

Gellir anfon atgyfeiriadau neu ymholiadau Amddiffyn Plant mewn e-bost at ChildProtectionReferral@flintshire.gov.uk.

Gellir anfon atgyfeiriadau neu ymholiadau Amddiffyn Oedolion mewn e-bost at SSDuty@flintshire.gov.uk.

Byddwch yn ymwybodol y caiff y mewnflychau eu monitro yn ystod dyddiau'r wythnos ac yn ystod oriau swyddfa yn unig. 

Rydyn ni am roi sicrwydd i chi ein bod ni i gyd yn gweithio'n galed i sicrhau bod ein prosesau amddiffyn plant ac oedolion craidd yn parhau ac rydyn ni'n dibynnu ar weithwyr proffesiynol a'r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw bryderon sydd ganddyn nhw am blant, teuluoedd ac oedolion sydd mewn perygl. 

Gallwch ddod o hyd i ragor o adnoddau, gwybodaeth a chyngor ar wefan y Bwrdd Diogelu Rhanbarthol: bwrdddiogelugogleddcymru.cymru.

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint a Sorted Sir y Fflint

Oherwydd y sefyllfa barhaus, mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Swyddfa Sorted Sir y Fflint ar gau ar hyn o bryd. 

Fodd bynnag, mae swyddogion y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Sorted yn parhau i weithio o leoliadau eraill. Os oes gennych unrhyw apwyntiadau neu gyfarfodydd wedi’u trefnu, bydd aelod o’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid neu Sorted Sir y Fflint yn cysylltu â chi’n uniongyrchol i drafod sut caiff hyn ei wneud. Dylech gymryd yn ganiataol y bydd yn cael ei gynnal fel a drefnwyd nes i chi glywed gan aelod o’r Tîm.

Er bod y swyddfa’n dal i fod ar gau, byddwn yn parhau ein gwaith a bydd Swyddog ar Ddyletswydd yn monitro ein peiriant ateb yn rheolaidd trwy ein horiau gweithio arferol rhwng 9am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, a rhwng 9am a 4.30pm ar ddydd Gwener (ar wahân i Wyliau’r Banc). Os oes angen i chi siarad â rhywun, ffoniwch 01352 701125 a gadewch eich enw a manylion cyswllt a neges fer a bydd rhywun yn cysylltu â chi. 

Fodd bynnag, os yw eich mater yn un brys neu os yw’n ymwneud â phryder o ran diogelu neu amddiffyn plant, gallwch gysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant Sir y Fflint ar 01352 701000 rhwng oriau gwaith arferol. Gallwch gysylltu â’r Tîm Dyletswydd Argyfwng ar 0845 053 3116 hefyd y tu allan i oriau swyddfa.

Os yw eich pryder yn ymwneud â mater heddlu, cysylltwch â 101 ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn rhai brys neu os yw’r mater yn un brys, cysylltwch â 999. 

Gall gweithwyr proffesiynol ddal i gyflwyno atgyfeiriadau i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Sorted Sir y Fflint trwy’r cyfeiriad e-bost arferol. 

Mae Archifdy Sir y Fflint ar gau i ymwelwyr.  I gael rhagor o fanylion, ewch i: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/LeisureAndTourism/Records-and-Archives/Archifdy-Sir-y-Fflint.aspx

Sir y Fflint yn Cysylltu

Bydd pob Canolfan Sir y Fflint yn Cysylltu ar gau o ddiwedd dydd Gwener 20 Mawrth nes clywir yn wahanol

Adeiladau Cyhoeddus a Swyddfeydd y Cyngor

Ni fydd mynediad i adeiladau cyhoeddus a swyddfeydd y cyngor ar wahân i weithwyr ac ymwelwyr awdurdodedig nes clywir yn wahanol.

Help i gael gafael ar wasanaethau lleol

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi datblygu map ar-lein i gynorthwyo trigolion i ddod o hyd i wasanaethau sydd ar gael yn eu hardal leol.

Mae gan y map chwe chategori gwasanaeth sef:

  • fferyllfeydd;
  • banciau bwyd;
  • dosbarthu llaeth;
  • bwyd (dosbarthu, casglu bwyd a bwyd tecawê);
  • cefnogaeth (cefnogaeth iechyd meddwl, cyfeillgarwch dros y ffôn ac ati) a
  • siopa (casglu siopa, presgripsiynau ac ati).

I weld y map, cliciwch yma. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio Google Chrome.

Gallwch gael gafael ar ganllaw defnyddiwr (Saesneg yn unig ar hyn or bryd) ar-lein yma.

Gwasanaethau Strydwedd 

Gaiff holl ffioedd parcio mewn meysydd parcio Talu ac Arddangos ar draws y Sir eu hatal o 25 Mawrth. Mae’r penderfyniad hwn wedi’i wneud er mwyn lleihau cyswllt personol a’r risg o drosglwyddo COVID-19/coronafeirws ar wynebau peiriannau talu ac arddangos, ac i gynorthwyo gweithwyr allweddol a hwyluso siopa hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn. I gael rhagor o wybodaeth ewch i https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Streetscene/COVID-19-%e2%80%93-Important-Changes-to-Highways-Transport-Services.aspx

Glanhau’r Traeth. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd gwaith clirio’r traeth yn cael ei wneud, a chaiff adnoddau eu hadleoli i gynorthwyo â darparu gwasanaethau blaenoriaeth ar draws y Sir. 

Mae’r holl doiledau cyhoeddus a gaiff eu rheoli gan Gyngor Sir y Fflint wedi cau.

Caiff gweithrediadau Glanhau Strydoedd eu lleihau yn yr ardaloedd gwledig o ddydd Llun, 23 Mawrth 2020. 

Gwasanaethau Tai

Mae’r tîm Atgyweirio Tai yn gweithio fel arfer, fodd bynnag mae pob ymweliad nad yw’n un brys wedi’i atal nes clywir yn wahanol a dim ond gwaith atgyweirio brys fydd y tîm yn ei wneud.   

Gwasanaeth Cofrestru Sir y Fflint 

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar 23 Mawrth, 2020, fesurau newydd caeth ar gyfer teithio hanfodol, cadw pellter cymdeithasol ac ymddygiad cyhoeddus, gan gynnwys cyfyngiadau ar ddathlu priodasau a phartneriaethau sifil. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Registration-Service/Covid-19-Flintshire-Registration-Service.aspx

Gwasanaeth Ieuenctid

Bydd pob Clwb Ieuenctid a gaiff eu rhedeg gan Gyngor Sir y Fflint yn cau nes clywir yn wahanol.


Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi  

Mae’r gwasanaeth galw heibio ar gyfer cyngor cynllunio wedi’i dynnu’n ôl nes clywir yn wahanol.  

Mae pob Clwb Swyddi wedi cau nes clywir yn wahanol

Theatr Clwyd 

Mae Theatr Clwyd wedi cau ar gyfer pob digwyddiad, perfformiad, dangosiad ffilm a phrosiectau allgymorth.
I gael rhagor o fanylion, ewch i: https://www.theatrclwyd.com/cy/visit/covid-19-update 

Canolfannau Hamdden a Llyfrgelloedd

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.aura.cymru  

Gwasanaethau Pobl Hŷn: 

Canolfan Ddydd Croes Atti, y Fflint: ar gau nes clywir yn wahanol 

Siediau Dynion, Canolfan Ddydd, Saltney: ar gau nes clywir yn wahanol 

Mae gwasanaethau gofal a seibiant tymor byr ar gyfer Pobl Hŷn wedi’u hatal nes clywir yn wahanol. 
Gwasanaethau Anabledd Dysgu. Mae caffis Rowley’s Pantry, Freshfields a Crefftau Cariad ar gau nes clywir yn wahanol.  

Mae Canolfan Ddydd Hwb Cyfle yn dal i fod ar agor gyda chyfyngiadau i ymweliadau allanol a defnyddio cyfleusterau synhwyraidd. 

Mae Gwasanaethau Gofal a Seibiant Tymor Byr ar gyfer Anableddau Dysgu wedi’u lleihau.  

Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Lles:

Mae’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Lles canlynol ar gau nes clywir yn wahanol:

Grwpiau Cymunedol, Sesiynau Galw Heibio, Cysylltiadau Cymdeithasol, Growing Places, Gweithgareddau Lles, Like-Minded Brochure, Double-Click 

Mae’r Caffis Cof a restrir isod ar gau nes clywir yn wahanol:

Mix & Mingle,
 yr Wyddgrug, Horse & Jockey, Bwcle  Neuadd Eglwys Bistre, Bwcle 
Monday Mix,
Y Fflint, Clocktower, Mostyn 
Sealand a Queensferry 
Saltney 
Cei Connah 
Treffynnon 
Llaneurgain  
Pen-y-ffordd (Brychdyn) 
Caffi Cynhwysol Dementia – Bore Goffi Mancot 
Caffi Cynhwysol Dementia - Coed-Llai 
Caffi Cynhwysol Dementia - Yr Hôb 

Gwasanaethau Plant 

Mae’r gwasanaethau canlynol wedi’u tynnu’n ôl nes clywir yn wahanol: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Gwaith Grŵp Dechrau'n Deg – Rhaglen Rianta Allgymorth, Grwpiau Gofal Maeth, Grwpiau Pobl Ifanc 

Marchnadoedd 

Mae’r Sêl Cist Car yn yr Wyddgrug wedi’i ganslo nes clywir yn wahanol.

Y wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws Newydd (COVID-19):

Y wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws Newydd (COVID-19):Mae’r wybodaeth ddiweddaar wefan Iechraf am Coronafeirws Newydd (COVID-19) ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Coronafeirws (Covid-19), beth sydd angen i chi ei wneud: https://www.gov.uk/coronavirus

GovDelivery Gwasanaeth Bwletin E-Bost - ewch i sdewisiadau tanysgrifwyr

GovDeliveryYn y sefyllfa heriol hon sy’n datblygu’n gyflym, rydym yn eich annog i danysgrifio i’n gwasanaeth bwletin e-bost, GovDelivery – ac annog eraill i gofrestru hefyd – yn enwedig ar gyfer “Newyddion Eich Cyngor” a “Diweddariadau Twitter”.  Bydd hyn yn eich helpu i gael y wybodaeth ddiweddaraf – ewch i dewisiadau tanysgrifwyr

Gellir dod o hyd i newyddion a gwybodaeth hefyd yn ein hadran Archif Newyddion ar y wefan:  https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-Apps/News-Archive.aspx