Alert Section

Nodwyddau a chwistrellau


Mae’r gwasanaeth hwn yn delio â nodwyddau, chwistrellau ac eitemau eraill cysylltiedig â chyffuriau sydd wedi cael eu taflu i ffwrdd. Byddwn yn cael gwared ar eitemau o safleoedd addysgol os yw’r safleoedd wedi’u cau. Ni fyddwn yn cael gwared ar nodwyddau neu gyfarpar miniog sydd wedi’u dympio ar eiddo preifat. Fodd bynnag, mae’n bosibl i ni ddarparu cynhwysydd cyfarpar miniog i chi gael ei ddefnyddio ac mae’n bosibl i ni drefnu i gasglu’r cynhwysydd, er mwyn sicrhau diogelwch y casglwyr

Beth allwch chi ei wneud

  • Peidiwch â chyffwrdd neu geisio cael gwared ar yr eitemau eich hunain, cysylltwch â ni a byddwn yn cael gwared ohonynt yn ddiogel.
  • Os rydych wedi cael eich anafu gan nodwydd yn y stryd, anogwch y cwt i waedu, golchwch â dŵr cynnes a sebon, a ffoniwch Galw Iechyd Cymru ar 0845 4647.
  • Os rydych yn defnyddio cyffuriau heb fod drwy bresgripsiwn, ewch â’ch nodwyddau i Gyfnewidfa Nodwyddau a Chwistrellau (01244 818513) neu at eich meddyg.
  • Osoes angen cael gwared ar gyfarpar miniog halogedig arnoch yn rheolaidd, defnyddiwch gynhwysydd cyfarpar miniog a gwasanaeth gwaredu. Gallwn ni ddarparu gwasanaeth casglu gwastraff clinigol rheolaidd yn rhad ac am ddim i drigolion Sir y Fflint.

Cysyllti A Ni - Gwasanaethau Stryd

Fel arall:

  • Lawrlwytho Ap Sir y Fflint! – rhowch wybod i ni drwy ddefnyddio’ch teclyn symudol. Gallwch ddewis rhoi gwybod am broblemau’n ddi-enw neu gallwch gofrestru. Manteision cofrestru yw y byddwch yn derbyn diweddariadau am gynnydd eich adroddiad, gallwch weld eich holl adroddiadau blaenorol a rhoi adborth.
  • Defnyddiwch rif ffôn y Gwasanaethau Stryd a siaradwch ag ymgynghorydd.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Caiff eich adroddiad ei anfon at ein tîm Gwasanaethau Stryd. Os ydych wedi darparu cyfeiriad e-bost byddwch yn derbyn neges gydnabod gyda’ch cyfeirnod ac yna diweddariad o gynnydd yn nes ymlaen. Os nad ydych wedi darparu cyfeiriad e-bost gallwch gysylltu â gwasanaethaustryd@siryfflint.gov.uk am ddiweddariad.

Fel arfer, byddwn yn cael gwared ar eitemau peryglus o ardaloedd cyhoeddus o fewn 2 awr.