Alert Section

Boeler ddim yn gweithio?


Rhowch gynnig ar y camau trwsio boeler syml hyn cyn gofyn am gymorth: 

Gwiriwch y pethau sylfaenol.  
Yn gyntaf, os oes gennych fesurydd rhagdaliad, gwiriwch fod gennych ddigon o gredyd.  Nesaf, gwiriwch fod eich offer nwy eraill, fel eich popty yn gweithio’n iawn, neu os yw’r switsys yn y blwch ffiws wedi tripio.

Ydy hi'n dywydd oer rhewllyd y tu allan?
Gall tywydd oer rhewllyd achosi i bibellau sy’n rhedeg y tu allan rewi, sy’n gallu atal y boeler rhag gweithio. Mae’r bibell yn bibell wen blastig sy’n rhedeg i ddraen. Tywalltwch ddŵr cynnes (nid berwedig) dros y bibell i'w ddadmer. Pan mae'n glir efallai y bydd angen i chi gwneud ailosodiad ar y boeler.

Ydych chi wedi cael toriad pŵer yn ddiweddar?
Os do, efallai y bydd angen ailosod yr amserydd ar eich boeler – sy’n golygu y gall ei gael i weithio eto fod mor syml â'i ailraglennu gyda'ch amseroedd.   Edrychwch ar y llawlyfr cyfarwyddyd i’ch atgoffa sut i wneud hyn.  

Gwiriwch gwasgedd y boeler.
Os yw’n dangos darlleniad o un bar neu lai, gallai gwasgedd isel fod y rheswm pam nad yw eich boeler yn gweithio.  Mae cynyddu’r gwasgedd eich hun fel arfer yn ddigon rhwydd – dilynwch y camau yn y llawlyfr boeler. 

Trowch y thermostat ystafell i 21 gradd neu’n uwch
Gall gosod y thermostat ystafell yn is na 21 gradd atal y gwres rhag dod ymlaen, felly trowch y thermostat i fyny i weld os bydd y boeler yn dechrau gweithio.

Ailsodwch y boeler, neu gwiriwch fod y golau peilot ymlaen.
Os cafodd y boeler ei cynhyrchu cyn 2004 mae’n debyg o gynnwys golau peilot yn hytrach na swyddogaeth ailosod, felly gwiriwch fod y golau peilot ymlaen. Os nad ydyw, efallai y gallwch ei oleuo eich hun yn unol â’r llawlyfr.

Os ydych yn Denant Cyngor ac angen cymorth pellach gallwch gysylltu â’r Tîm Atgyweirio Tai.