Alert Section

Grantiau & Benthyciadau Tai


 Benthyciad Eiddo Gwag

Mae oddeutu 500 o eiddo gwag hirdymor yn Sir y Fflint; mae'r Grant Eiddo Gwag yn fenthychiad i helpu perchnogion i ailddefnyddio eiddo gwag.

Mae'r grant ar ffurf benthyciad di-log sy'n talu am waith i sicrhau fod yr eiddo yn cyrraedd y Safon Tai Gweddus. Er enghraifft, gwaith i wella eiddo sydd mewn cyflwr difrifol wael, darparu ceginau ac ystafelloedd ymolchi modern, gwella systemau gwresogi ac insiwleiddio, a chael gwared ar unrhyw beryglon difrifol a allai effeithio ar les y meddiannydd, megis lleithder, grisiau peryglus neu wifrau trydanol.

  • Uchafswm: £35,000 i bob uned o adeiladau(uchafswm o £150,000 i bob ymgeisydd).
  • Mae'r Cyngor yn berchen ar gyfran o'r eiddo a ad-delir os caiff yr eiddo ei werthu neu ei drosglwyddo cyn pen 2-5 blynedd.
  • Ar gyfer y rheiny sydd wedi bod yn berchnogion am 6 mis a mwy, sicrhau fod eiddo preswyl gwag yn cyrraedd safonau gosod tai.
Meini Prawf CymhwyseddAmodauSwm
  • Mae gan yr ymgeisydd fuddiant perchennog
  • Rhaid i'r ymgeisydd gael digon o ecwiti yn ei eiddo i gwmpasu swm y benthyciad neu rhaid iddo/iddi gynnig gwahanol eiddo sydd â digon o ecwiti i'w warantu
  • Rhaid i eiddo'r ymgeisydd fod yn eiddo gwag hirdymor (dros 6 mis)
  • Rhaid i denant fod yn yr eiddo nes i'r benthyciad gael ei ryddhau neu nes iddo gael ei werthu
  • Ar ôl cwblhau'r gwaith, rhaid i'r eiddo fod yn breswyliadwy a rhaid iddo gyrraedd y safon gosod tai (dim peryglon categori 1)
  • Rhaid cael yswiriant adeiladau ar yr eiddo nes i'r benthyciad gael ei ad-dalu
  • Uchafswm o £35,000 yn amodol ar brofion cymhwysedd ac asesiadau benthyciadau
  • Mae'r Cyngor yn berchen ar gyfran o werth yr eiddo, am gost y gwaith
  • Caiff y benthyciad ei ad-dalu pan gaiff yr eiddo ei werthu neu ei drosglwyddo (hyd mwyaf y benthyciad yw 2 flynedd ar gyfer gwerthu a 5 blynedd ar gyfer rhentu)
  • Gellir gwneud ad-daliad cynnar gwirfoddol ar unrhyw adeg

Gwneud cais ar-lein

Benthyciad i Berchen-feddiannydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun Benthyciad newydd sydd yn cynnig cymorth ariannol i berchnogion eiddo preifat.
 
Mae’r cyllid, sydd ar gael i Gynghorau Cymru, yn galluogi’r Cyngor i ddarparu benthyciad tymor byr i dymor canolig i berchnogion eiddo is-safonol sydd yn gymwys i’r meini prawf fforddiadwyedd ac sydd yn gyfyngedig i ffynonellau cyllid eraill. 

Dylai ymgeiswyr sydd â diddordeb lenwi Ffurflen Mynegi Diddordeb, gweler ynghlwm.  Sylwch, mae hyn yn golygu eich bod yn bwriadu rheoli'r prosiect eich hun, gan gynnwys ceisio dyfynbrisiau cystadleuol, trefnu arolwg asbestos, rheoli’r gwaith ar y safle a sicrhau bod yr holl waith yn cael ei gwblhau yn foddhaol ac yn bodloni unrhyw ofynion deddfwriaethol sydd ar waith.

Sylwch fod y benthyciad yn ôl disgresiwn a ni ellir sicrhau cynnig o fenthyciad tan fydd yr ymgeisydd wedi cael hysbysiad ffurfiol o gymeradwyaeth.  Bydd yr holl arian yn cael ei dalu i chi ar ôl darparu anfoneb Contractwr (Contractwyr) ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau.
Rheolwr Gwasanaeth - Menter ac Adfywio

Benthyciad i Berchen-feddiannydd

Benthyciad i Berchen-feddiannydd Adfywio Tai