Alert Section

Gwneud cais am ganiatâd cynllunio


Sylwch na allwn brosesu ceisiadau papur, cyflwynwch trwy'r porth neu'r blychau e-bost isod.

Os oes gennych ymholiad ceisiwch ei gyflwyno trwy e-bost yn uniongyrchol i'r swyddog. Os nad ydych yn adnabod cyfeiriad e-bost y swyddog defnyddiwch y cyfeiriad canlynol:

  • Ar gyfer materion cynllunio e-bost planningadmin@flintshire.gov.uk
  • Ar gyfer rheoliadau adeiladu e-bostiwch bcadmin@flintshire.gov.uk 
  • Ar gyfer e-bost datblygu priffyrdd highwaysdc@flintshire.gov.uk 

 Pwy sy'n gallu gwneud y cais?

Gallwch wneud cais eich hun, neu benodi asiant i wneud cais ar eich rhan (fel arfer pensaer, cyfreithiwr neu adeiladwr). Os ydych yn defnyddio asiant, bydd yr holl ohebiaeth yn cael ei hanfon yn uniongyrchol atynt. Nid oes angen i chi fod yn berchen ar y tir neu'r eiddo i wneud cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer. 

A oes angen i mi roi gwybod i'r perchennog (perchnogion)?

Mae rhai ceisiadau yn gofyn i chi gyflwyno hysbysiad i berchennog neu gyd-berchnogion eraill yr eiddo o leiaf 21 diwrnod cyn i chi gyflwyno'r cais i ni. Rhoddir arweiniad a chysylltiadau pellach i'r hysbysiadau yn nhestun cymorth y ffurflen gais; fe'ch cynghorir i ddarllen hwn yn drylwyr. 

Cyn i chi wneud cais

Rydym yn eich cynghori i ddarllen ein Nodiadau Arweiniad ar Gynllunio Lleol sy’n cynnig arweiniad manwl ar ddylunio adeilad ac addasu adeiladau cefn gwlad, safonau parcio, draeniad cynaliadwy a llawer mwy. Ar ben hyn, mae Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint yn darparu sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau cynllunio a bydd swyddogion yn cyfeirio ato er mwyn sicrhau bod eich cais yn unol â’r polisïau a gaiff eu disgrifio ynddo. Trwy sicrhau bod eich gwaith arfaethedig yn cydymffurfio â'r arweiniad yma byddwch yn gwella ansawdd eich cais.

Beth sydd angen i mi ei gyflwyno?

1 – Ffurflen gais

Gwneud cais ar-lein gan ddefnyddio'r Porth Cynllunio cenedlaethol (atodi’r cynlluniau a’r dogfennau, logio mewn/allan a chyflwyno pryd bynnag yr ydych yn barod, a chael arweiniad cam wrth gam), neu

Lawllwytho ffurflenni papur o’r Porth Cynllunio (i’w hargraffu a’u cyflwyno drwy'r post neu’n bersonol)

Ansicr pa ffurflen i'w defnyddio? Gweler Dewis eich cais ar y Porth Cynllunio

Pa bynnag ddull a ddewiswch bydd angen i chi gyflwyno un ffurflen sy'n cwmpasu eich holl anghenion e.e. caniatâd cynllunio perchenog tŷ gyda chaniatâd ardal gadwraeth. Bydd y Porth yn eich tywys at y ffurflen gywir.

I gael help i gyfrifo cyfaint adeiladau nodwch y mesuriadau yn arf cyfrifo cyfaint y Porth Cynllunio.

2 – Cynlluniau, dyluniadau a dogfennau cefnogol

Gofynion Cais Cynllunio – rhestr yw hon o'r dyluniadau a'r dogfenau cefnogol y mae'n rhaid i chi eu cyflwyno gyda'ch cais er mwyn iddo fod yn ddilys. Efallai y bydd angen i chi gyfeirio at sawl rhestr yn dibynnu ar eich math o gais, e.e. rhestr ar gyfer datblygiadau gan berchnogion tai ynghyd â rhestr am ganiatâd mewn ardal gadwraeth.

Os nad oes gennych y dogfennau electronig i’w hatodi i gais ar-lein mae'n dal yn bosibl i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein. Yna gallwch gyflwyno rhai neu'r holl ddogfennau ategol a'r tâl drwy'r post neu yn bersonol i'r cyfeiriad ar frig y ffurflen. Bydd y Porth Cynllunio yn eich tywys drwy'r broses.

Lleoliad Arolwg Ordnans a chynlluniau bloc (gofynnol ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau) – gellir prynu’r rhain oddi wrth ein Gwasanaethau Gwybodaeth Ddaearyddol neu ar-lein gyda’r chais Porth Cynllunio.

Gweld yr arweiniad ar y Datganiad Dylunio a Mynediad (DAS) (nid yw hyn yn ofynnol ar gyfer ceisiadau gan berchnogion tai).

3 – Y tâl

Os ydych yn gwneud cais ar-lein bydd eich tâl yn cael ei gyfrifo fel rhan o'r broses o wneud cais. Nid oes tâl ychwanegol am wneud cais ar-lein a gall arbed arian i chi o ran costau argraffu.

Gallwch gyfrifo cost eich cais gan ddefnyddio offeryn cyfrifo tâl y Porth Cynllunio neu lawrlwytho rhestr lawn o daliadau gwneud cais cynllunio 

Gallwch dalu:

Dylai sieciau gael eu gwneud yn daladwy i 'Cyngor Sir y Fflint'. Ni ellir dychwelyd y tâl os byddwch yn tynnu'r cais yn ôl neu os yw eich cais yn cael ei wrthod (fodd bynnag, byddwn yn ad-dalu eich tâl os cyflwynir cais mewn achos lle nad oes angen caniatâd cynllunio). Mae'r tâl yng Nghymru yn wahanol i'r hyn a godir yn Lloegr. 

Diogelu Data

Er mwyn cydymffurfio â gofynion Diogelu Data rydym yn tynnu eich sylw at y ffaith bod gwybodaeth a ddarperir yn eich cais yn cael ei defnyddio'n unig at ddibenion penderfynu ar y cais, ac fel rhan o'r broses hon, mae'n cael ei wneud ar gael i'r cyhoedd. Caiff ceisiadau eu gwneud ar gael ar ein gwefan ac o fewn y Gofrestr Gyhoeddus yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug. 

Beth arall ddylwn i ei ystyried?

P’un a oes angen caniatâd cynllunio i ddeiliaid tai ai peidio, dylech fod yn ymwybodol o:

Beth sy'n digwydd nesaf?

Sut ydym yn prosesu ceisada

Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn elusen annibynnol sy’n darparu cyngor a chefnogaeth ar holl agweddau cynllunio defnydd tir yng Nghymru. Ewch i www.www.planningaidwales.org.uk neu ffoniwch y gwasanaeth llinell gymorth cynllunio ar 02920 625 000 am fwy o wybodaeth.