Alert Section

Derbyniadau Ysgol

Yr hyn sydd angen ei ystyried

Byddwch angen creu Fy Nghyfrif gyda Sir y Fflint – peidiwch â phoeni os nad oes gennych gyfrif eto – cewch eich arwain drwy'r broses.

Fy Nghyfrif - Darganfod mwy

Yr hyn sydd angen ei gael

Byddwch angen rhif ffôn, cyfeiriad e-bost a chyfeiriad a chod post cywir.Ni ddylai’r cais gymryd mwy na 30 munud i’w gwblhau.

Newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd

Os hoffech chi symud eich plentyn o un ysgol i un arall, gallwch wneud cais i newid ysgol. Os nad yw’r newid yn gysylltiedig â symud tŷ, siaradwch gyda phennaeth eich plentyn yn gyntaf.


Ni allwn sicrhau lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol oherwydd y cynigir lleoedd pan fo rhai ar gael yn y grŵp blwyddyn. Ni ddylech dynnu’ch plentyn o’i ysgol bresennol cyn derbyn lle mewn ysgol arall.Os yw’ch cais yn llwyddiannus, bydd eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol newydd ar ddechrau'r tymor neu'r hanner tymor nesaf, pa un bynnag sydd gyntaf.

Gallwch wneud cais i symud ysgol ar-lein - Cliciwch ‘Newid Ysgol’ i wneud cais.

Newid Ysgol

Os ydych chi wedi gwneud cais i newid ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol, byddwn yn prosesu eich cais o fewn 15 diwrnod ysgol.

Nodwch os gwelwch yn dda, bydd yn rhaid i chi greu cyfrif newydd wrth gyflwyno cais trosglwyddo yn ystod y flwyddyn - mae hyn yn wahanol i unrhyw fanylion mewngofnodi eraill yr ydych o bosibl wedi’u defnyddio wrth gyflwyno cais yn y gorffennol.

Ysgol Uwchardd ym Medi 2024

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd ar gyfer plant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2012 a 31 Awst 2013 oedd 6 Tachwedd 2023


Os ydych wedi gwneud cais yn barod, byddwch yn cael gwybod beth yw canlyniad eich cais erbyn 1 Mawrth 2024.

Os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (8 Ionawr 2024) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (1 Mawrth 2024).

Cais Hwyr ar gyfer Blwyddyn 7

Derbyn ym Medi 2024

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn ar gyfer plant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2019 a 31 Awst 2020 oedd 17 Tachwedd 2023.


Os ydych eisoes wedi gwneud cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad ar 16 Ebrill 2024.

Os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (Chwefror 23 2024) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (Ebrill 16 2024).

Cais Hwyr ar gyfer Derbyn

Meithrin ym Medi 2024

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn dosbarth derbyn ar gyfer plant wedi eu geni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021 oedd 16 Chwefror 2024.


Os ydych eisoes wedi gwneud cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi am y canlyniad ar 7 Mai 2024.

Os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (Mawrth 22 2024) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (Mai 7 2024).

Cais Hwyr ar gyfer Meithrin

Nid wyf yn gwbl sicr o’r trefniadau ac mae gennyf ymholiadau pellach – gyda phwy allaf gysylltu am ragor o gyngor?

Gallwch gysylltu â’n tîm derbyniadau drwy anfon e-bost i admissions@siryfflint.gov.uk

Newid ysgol yn ystod y flwyddyn academaidd

Os hoffech chi symud eich plentyn o un ysgol i un arall, gallwch wneud cais i newid ysgol. Os nad yw’r newid yn gysylltiedig â symud tŷ, siaradwch gyda phennaeth eich plentyn yn gyntaf.

Ni allwn sicrhau lle i’ch plentyn yn eich dewis ysgol oherwydd y cynigir lleoedd pan fo rhai ar gael yn y grŵp blwyddyn. Ni ddylech dynnu’ch plentyn o’i ysgol bresennol cyn derbyn lle mewn ysgol arall.

Os yw’ch cais yn llwyddiannus, bydd eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol newydd ar ddechrau'r tymor neu'r hanner tymor nesaf, pa un bynnag sydd gyntaf.

Gallwch wneud cais i symud ysgol ar-lein - Cliciwch ‘Dechrau’ i wneud cais

Os ydych chi wedi gwneud cais i newid ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol, byddwn yn prosesu eich cais o fewn 15 diwrnod ysgol. Os nad ydych yn llwyddo i gael lle, fe wnawn ni ysgrifennu atoch i esbonio pam. Os gallwn ni gynnig y lle, byddwch yn derbyn galwad gan yr ysgol newydd.

Uwchradd ym Medi 2024 - Ceisiadau'n Agor yn Awr

O 4 Medi 2023 gallwch wneud cais am le mewn ysgol uwchradd i'ch plentyn. Mae llefydd ar agor i blant a fydd wedi cael eu pen-blwydd yn 11 oed cyn neu ar 31 Awst 2024.

Cliciwch ‘Dechrau’ i wneud cais

Ceisiadau hwyr

Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir mewn pryd, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau. Er bod modd cyflwyno cais ar-lein ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (8 Ionawr 2024) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (1 Mawrth 2024).

Derbyn ym Medi 2024 - Ceisiadau'n Agor yn Awr

O 25 Medi 2023 gallwch wneud cais am le mewn dosbarth derbyn i'ch plentyn. Mae llefydd ar agor i blant a fydd wedi cael eu pen-blwydd yn bedair oed cyn neu ar 31 Awst 2024.

Cliciwch ‘Dechrau’ i wneud cais

Ceisiadau hwyr

Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir mewn pryd, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau. Er bod modd cyflwyno cais ar-lein ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (23 Chwefror 2024) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (16 Ebrill 2024).

Meithrin ym Medi 2024 - Ceisiadau'n Agor yn Awr

O 25 Medi 2023 gallwch wneud cais am le mewn dosbarth meithrin i'ch plentyn. Mae llefydd ar agor i blant a fydd wedi cael eu pen-blwydd yn dair oed cyn neu ar 31 Awst 2024.

Cliciwch ‘Dechrau’ i wneud cais

Ceisiadau hwyr

Bydd ceisiadau hwyr yn cael sylw ar ôl y rhai a dderbynnir mewn pryd, felly mae’n bwysig eich bod yn anfon eich ceisiadau erbyn y dyddiad cau. Er bod modd cyflwyno cais ar-lein ar ôl y dyddiad cau, os ydych chi’n gwneud cais ar ôl diwedd y cyfnod dyrannu (22 Mawrth 2024) ni fydd eich cais yn cael ei brosesu tan ar ôl y dyddiad cynnig cenedlaethol (7 Mai 2024).

Dechrau

Nid wyf yn gwbl sicr o’r trefniadau ac mae gennyf ymholiadau pellach – gyda phwy allaf gysylltu am ragor o gyngor?

Gallwch gysylltu â’n tîm derbyniadau drwy anfon e-bost i admissions@siryfflint.gov.uk

Ydych chi wedi ystyried ysgol cyfrwng Cymraeg?

Dim ots pa iaith ydych chi’n ei siarad gartref, gall addysg cyfrwng Cymraeg gynnig cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plentyn.

Yn wahanol i’r gred gyffredinol, mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael effaith gadarnhaol ar Saesneg y disgybl a’r nod syml yw galluogi plant i ddod yn gwbl rhugl a hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Addysg Cyfrwng Cymraeg - Darganfod mwy
Welsh Dragon

Derbyniadau Ysgol – Cwestiynau Cyffredin

Beth yw'r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau?

Amserlen ar gyfer derbyniadau i ysgolion

Amserlen ar gyfer derbyniadau i ysgolion
Cyfnod DerbynFfurflenni derbyniadau ar gael i rieni yn yr wythnos sy’n dechrauCyfnod ystyried i’r rhieniDyddiad cau ar gyfer derbyn ffurflenni wedi’u llenwiCyfnod pan fydd yr ALI/awdurdod derbyn yn dyrannu lleoedd:Hysbysu’r rhieni erbyn ("Dyddiad cynnig") 
Uwchradd 04/09/23 04/09/23 - 06/11/23 06/11/23 07/11/23 - 08/01/24 01/03/24
Derbyn 25/09/23 25/09/23 - 17/11/23 17/11/23 17/11/23 - 23/02/24 16/04/2024
Meithrin 25/09/23 08/01/24 - 16/02/24 16/02/24 19/02/24 - 22/03/24 07/05/24

A ddylwn i ddewis mwy nag un ysgol?

Gallwch ddewis cynifer o ysgolion ag y dymunwch. Gall y cais gynnwys ysgolion y tu allan i Sir y Fflint a byddwn yn hysbysu’r Cyngor perthnasol o’ch cais. (Fodd bynnag mae Gorllewin Swydd Caer a Chyngor Caer yn gofyn i chi ddefnyddio eu ffurflenni cais nhw ar gyfer ysgolion yn eu hardal)

Os ydych chi'n cynnwys ysgol enwadol (Eglwys) neu ysgol sefydledig ar eich cais, bydd yn cael ei anfon ymlaen at yr ysgol berthnasol gan nad Sir y Fflint yw'r awdurdod derbyn ar gyfer yr ysgolion hyn.

Ein bwriad bob tro yw dyrannu’ch dewis cyntaf i chi ond os ydym yn derbyn mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael, byddwn yn troi at y meini prawf gordanysgrifio ac os nad ydych yn bodloni'r meini prawf hynny, gallwn ystyried eich ail ddewis ac yn y blaen nes y gallwn gynnig lle i'ch plentyn. Os ydych wedi nodi un ysgol yn unig, dim ond yr ysgol honno allwn ni ei hystyried. Sylwch na fydd rhestru’r un ysgol fwy nag unwaith yn rhoi gwell siawns i chi o gael lle yn yr ysgol honno.

Dim ond os ydych yn byw yn Sir y Fflint neu os yw’ch plentyn yn mynychu ysgol gynradd yn Sir y Fflint y dylech lenwi ffurflen gais Sir y Fflint. Fel arall gwnewch gais i’ch Cyngor eich hun – er enghraifft, os ydych chi’n byw yn Sir Ddinbych, gwnewch gais i Gyngor Sir Ddinbych oni bai bod eich plentyn yn mynychu ysgol yn Sir y Fflint.

Beth sy'n digwydd os na chaf i fy newis cyntaf?

Mae'r holl ddewisiadau yn cael eu prosesu a byddwn yn cynnig lle sydd ar gael yn yr ysgol sydd uchaf ar eich rhestr o ddewisiadau. Felly, os yw eich dewis cyntaf yn aflwyddiannus, caiff eich ail ddewis ei ystyried fel dewis cyntaf yn gyfartal â dewisiadau cyntaf eraill ar gyfer yr ysgol honno ac yn y blaen nes y byddwn yn gallu cynnig lle i'ch plentyn mewn ysgol.

Beth os bydd fy holl ddewisiadau yn aflwyddiannus?

Gallwn roi enw'ch plentyn ar restr aros, gallwch dderbyn lle mewn ysgol arall sydd â lle i'ch plentyn ac mae gennych hawl i apelio.

Pa mor bwysig yw'r dyddiad cau?

Mae’n rhaid i'ch cais ddod i law erbyn y dyddiad cau neu fel arall bydd yn cael ei ystyried ar ôl y rhai a dderbyniwyd ar amser. Mae'r dyddiad a'r amser yn cael ei nodi ar geisiadau ar-lein wrth iddynt gael eu derbyn.

Lle gellir dod o hyd i’r meini prawf lle mae mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael?

Gellir ei ganfod yn ein Canllaw i'r Gwasanaethau Addysg ac maent wedi'u rhestru isod.

Bydd pob disgybl yn cael ei dderbyn os nad yw'r Nifer Derbyn wedi ei gyrraedd. Fodd bynnag, os yw'r Nifer Derbyn wedi ei gyrraedd, bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn erbyn y meini prawf gordanysgrifio, a restrir yn nhrefn blaenoriaeth.

Meini Prawf Gordanysgrifio

Meini prawf i’w defnyddio gan yr Awdurdod Lleol, yn ôl trefn blaenoriaeth, ar gyfer derbyniadau i Ysgolion Meithrin, Cynradd ac Uwchradd:

  • Plant sy'n Derbyn Gofal (plant mewn gofal) a phlant oedd yn arfer derbyn gofal
  • disgyblion lle mai’r ysgol a ffefrir yw'r ysgol briodol agosaf i'w cyfeiriad cartref
  • c) disgyblion fydd â brawd neu chwaer yn mynychu’r ysgol a ffefrir ar y dyddiad derbyn disgwyliedig. Dim ond ar gyfer y cyfnod addysg statudol, h.y. hyd at Flwyddyn 11, y defnyddir y 'rheol brawd a chwaer'
  • disgyblion sydd wedi dewis ysgol wahanol i’r ysgol agosaf i’w cyfeiriad cartref. Ystyrir pellter cartrefi disgyblion o’r ysgol arall honno wrth dderbyn disgyblion, a hynny hyd at y Nifer Derbyn
Gwneud y Penderfyniad

Os oes mwy o ymgeiswyr nag o lefydd yn unrhyw un o’r categorïau uchod, rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n byw agosaf i’r ysgol, gyda’r pellter wedi’i fesur o gyfeiriad cartref y plentyn i brif fynedfa gydnabyddedig yr ysgol.

Os nad yw’r awdurdod yn gallu diwallu dewis(iadau) rhiant, gofynnir i’r rhiant ystyried llefydd sydd ar gael mewn ysgolion eraill.

Lle enwir ysgol mewn Datganiad o Anghenion Addysgol Arbennig, mae ar yr awdurdod lleol ddyletswydd i dderbyn y plentyn i’r ysgol honno.

Pwy sy'n cael ei ystyried i fod yn frawd neu chwaer?

Diffinnir brawd neu chwaer fel brawd neu chwaer gyflawn, hanner brawd neu chwaer, llys frawd neu chwaer, brawd neu chwaer sydd wedi'u maethu neu eu mabwysiadu sy'n byw gyda'i gilydd mewn un aelwyd yn yr un cyfeiriad a lle bo'r brawd neu'r chwaer hŷn o oedran ysgol statudol h.y. Blwyddyn Derbyn i Flwyddyn 11, ac wedi'i gofrestru/chofrestru yn yr ysgol a ddewiswyd pan fydd y plentyn iau yn gymwys i fynychu. Ni fydd brodyr a chwiorydd sy'n mynd i Flwyddyn 12/13 pan fydd y plentyn iau yn dechrau ym Mlwyddyn 7 yn cael eu hystyried o dan y rheol brawd a chwaer.

Oes angen i mi gwblhau fy nghais ar-lein yn gyflym i sicrhau y caf gynnig fy newis cyntaf?

Caiff pob cais ei ystyried ar ôl y dyddiad cau nid yn ôl y dyddiad derbyn. Mae'r amser a roddir i rieni, tua 8 wythnos, wedi'i roi er mwyn iddynt allu ystyried eu dewisiadau yn ofalus.

Pryd fyddaf yn cael gwybod ym mha ysgol y cynigir lle i fy mhlentyn?

YSGOLION CYNRADD: Byddwch yn cael gwybod trwy e-bost ar y dyddiad cynnig sef 17 Ebrill ac ni fydd unrhyw fanylion yn cael eu rhoi cyn y dyddiad hwnnw.

YSGOLION UWCHRADD: Byddwch yn cael gwybod ar y dyddiad cynnig sef 1 Mawrth ac ni fydd unrhyw fanylion yn cael ei roi cyn y dyddiad hwnnw.

YSGOLION CYNRADD: Byddwch yn cael gwybod trwy e-bost ar y dyddiad cynnig sef 4 Mai ac ni fydd unrhyw fanylion yn cael eu rhoi cyn y dyddiad hwnnw.

A fydd fy mhlentyn yn cael cludiant am ddim i fy ysgol ddewisedig?

Mae’r polisi cludiant ar gael yn y Canllaw i'r Gwasanaethau Addysg ar y wefan o dan dderbyniadau ysgol

Beth os byddaf yn symud tŷ ar ôl y dyddiad cau?

Cyn belled â’ch bod yn darparu manylion unrhyw newidiadau i’ch dewisiadau a phrawf o symud tŷ cyn diwedd cyfnod dyrannu (gweler yr amserlen ar gyfer derbyniadau i ysgolion yn y Canllaw i’r Gwasanaethau Addysg) gallwn wneud y newidiadau ar eich rhan..