Hafan > Preswyl > Gwasanaethau Stryd > Teithio Llesol

Teithio Llesol

Cafodd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ei phasio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 1 Hydref 2013 a chafodd Gydsyniad Brenhinol ar 4 Tachwedd 2013. Ei ddiben yw galluogi mwy o bobl i ymgymryd â theithio llesol ar gyfer teithiau byr yn hytrach na defnyddio cerbydau modur lle mae’n addas iddynt wneud hynny.

Rhaid i lwybr teithio llesol fod o fewn ardal ddynodedig mewn ardal awdurdod lleol. Yn Sir y Fflint mae'r aneddiadau canlynol o fewn ardaloedd dynodedig a bennwyd gan Weinidogion Cymru:

  • Bwcle 
  • Brychdyn
  • Cei Connah
  • Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy
  • Fflint
  • Gorsedd
  • Treffynnon
  • Yr Hôb
  • Coed-llai
  • Yr Wyddgrug
  • Northop Hall
  • Penyffordd
  • Sandycroft
  • Shotton
  • Walwen

Y Dyletswyddau ar Awdurdodau Lleol

Mae'r Ddeddf yn darparu:

  • i awdurdodau lleol gynhyrchu mapiau o lwybrau teithio llesol presennol a chyfleusterau cysylltiedig yn yr ardal awdurdod lleol (y map llwybrau presennol) ac i gyflwyno’r mapiau hyn i Weinidogion Cymru i'w cymeradwyo erbyn 22 Ionawr, 2016;
  • i awdurdodau lleol gynhyrchu mapiau o lwybrau teithio llesol newydd a gwell a’r cyfleusterau cysylltiedig sydd eu hangen i greu rhwydweithiau integredig ar gyfer teithio llesol mewn ardal awdurdod lleol (y map rhwydwaith integredig) ac i gyflwyno’r mapiau hyn i Weinidogion Cymru i'w cymeradwyo erbyn 24 Medi 2017;
  • ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol roi sylw i fapiau rhwydwaith integredig wrth baratoi polisïau cludiant ac i sicrhau bod yna lwybrau teithio llesol newydd a gwell a chyfleusterau cysylltiedig;
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i adrodd ar deithio llesol yng Nghymru;
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol, wrth gyflawni swyddogaethau penodol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, i gymryd camau rhesymol i wella'r ddarpariaeth a wneir ar gyfer cerddwyr a beicwyr ac i roi sylw i anghenion cerddwyr a beicwyr wrth arfer swyddogaethau penodol eraill;
  • ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon fel ei fod yn hyrwyddo teithiau llesol a sicrhau llwybrau teithio llesol newydd a gwell a chyfleusterau cysylltiedig.

Diffiniadau

Mae 'Teithio Llesol' yn golygu cerdded a beicio fel dewis amgen i gludiant â modur i wneud siwrneiau bob dydd.

Mae 'Taith Teithio Llesol' yn daith a wneir i'r gwaith neu fan addysg neu i gael mynediad at wasanaethau iechyd, hamdden neu gyfleusterau eraill.

Gall 'Llwybr Teithio Llesol' fod yn briffordd a ddefnyddir gan gerbydau modur neu gall fod yn fath arall o briffordd fel llwybr troed, llwybr beicio neu lwybr ceffyl. Gall hefyd fod yn llwybr nad yw’n briffordd, lle mae'r tirfeddiannwr yn caniatáu i'r cyhoedd gael mynediad. Fodd bynnag, nid yw ffyrdd preifat lle nad yw'r cyhoedd yn cael mynediad yn gallu bod yn llwybrau teithio llesol.

Mae 'Teithiwr Llesol' a 'Cerddwyr a beicwyr' yn golygu pobl sy'n cerdded, pobl sy'n defnyddio beiciau pedal (yn cynnwys beiciau electronig/e-feiciau, ond heb gynnwys beiciau modur) a phobl sy'n defnyddio cymhorthion symudedd (gan gynnwys cadeiriau olwyn modur a sgwteri symudedd).

 Mae 'Cyfleusterau Cysylltiedig' i bwrpas 'Teithiau Teithio Llesol' yn cynnwys llochesau a mannau storio ar gyfer beiciau a thoiledau a chyfleusterau ymolchi, cyn belled â'u bod ar gael i'w defnyddio gan gerddwyr a beicwyr.

Nid yw micro-sgwteri, llafnau rholio, sglefrfyrddau a dulliau tebyg eraill o deithio yn cael eu cynnwys yn y diffiniad statudol o deithio llesol. Fodd bynnag, mae’r dulliau hyn o deithio yn boblogaidd ymysg grwpiau penodol. Er enghraifft, mae micro-sgwteri yn boblogaidd gan blant iau ar gyfer teithio i'r ysgol. Ni chaiff defnyddwyr eu hannog i beidio eu defnyddio neu eu rhwystro rhag eu defnyddio pan fyddant yn darparu dull deniadol o deithio.

Mae marchogyddiaeth gan mwyaf at ddibenion hamdden yn hytrach nag fel dull o deithio. Nid yw ffurfiau o deithio â cheffyl (marchogaeth, gyrru cerbydau, merlen a thrap ac ati) yn cael eu hystyried fel ffurfiau o deithio llesol. Fodd bynnag, wrth gyflwyno darpariaethau'r Ddeddf, dylai awdurdodau lleol fod yn ymwybodol bod marchogion yn ddefnyddwyr ffordd diamddiffyn ac ni ddylid cyfyngu mynediad marchogion i lwybrau maent yn eu defnyddio ar hyn o bryd. Gall marchogion, cerddwyr a beicwyr ddefnyddio Llwybrau Ceffyl ac felly gallant fod yn rhan o lwybr teithio llesol, ond ni ddylai gwelliannau i lwybrau ceffylau rwystro defnydd marchogion neu eu gorfodi i ddefnyddio llwybr llai diogel yn lle hynny. Mewn rhai achosion, gall fod yn fwy priodol ar gyfer pob defnyddiwr os gwneir darpariaeth ar wahân ar gyfer cerddwyr a beicwyr.

Mae'r Ddeddf angen i ddau fap gael ei gynhyrchu, y map llwybrau presennol a'r map rhwydwaith integredig. Bwriad y mapiau llwybrau presennol yn bennaf yw rhoi gwybod i'r cyhoedd am y llwybrau diogel ac addas ar gyfer teithio llesol a rhaid eu cyflwyno i Weinidogion erbyn 22 Ionawr, 2016. 

Dylai'r mapiau rhwydwaith integredig nodi cynlluniau'r awdurdod lleol ar gyfer y 15 mlynedd nesaf a rhaid eu cyflwyno erbyn 25 Medi 2017. Mae yna hefyd ofyniad i ail-gyflwyno'r map llwybrau presennol a'r map rhwydwaith integredig erbyn 25 Medi 2020.

Bydd disgwyl i'r Cyngor fonitro effeithiau'r Ddeddf a'r cynlluniau penodol a fydd yn cael eu cyflwyno o ganlyniad i’r Ddeddf. Mae’r Ddeddf yn mynnu bod awdurdodau lleol yn adrodd ar:

  • Lefel y newid defnydd o lwybrau teithio llesol bob tro y byddant yn cyflwyno eu map llwybr presennol i'w cymeradwyo;
  • Y costau a ddaeth i'w rhan wrth greu a gwella isadeiledd teithio llesol;
  • Sut y maent wedi cyflawni eu swyddogaethau mewn ffordd sy'n hyrwyddo teithio llesol.

Mae'r Canllawiau Cyflawni yn un o ddwy ddogfen gyfarwyddyd a gyhoeddwyd o dan y Ddeddf: Y ddogfen gyfarwyddyd arall yw'r Canllaw Dylunio, sy'n ymdrin â safonau technegol ar gyfer llwybrau a chyfleusterau teithio llesol. Bydd y Canllaw Dylunio yn hanfodol i benderfyniadau awdurdodau lleol ynghylch a yw llwybr yn addas ar gyfer teithio llesol, a pha gamau y dylid eu cymryd i wella eu llwybrau. 

Mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol roi sylw i'r Canllawiau Cyflwyno wrth arfer y swyddogaethau y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud â nhw. Mae'r dyletswyddau o dan y Ddeddf yn cael eu rhoi ar yr awdurdod lleol yn gyffredinol, yn hytrach nag adran benodol o’r awdurdod lleol. Mae'r canllawiau, felly, ar gyfer pob adran o'r awdurdod lleol, nid dim ond ar gyfer yr awdurdod priffyrdd lleol. 

Rhaid i Awdurdodau Lleol gynnal ymgynghoriad 12 wythnos ar gyfer y map llwybrau presennol a'r map integredig.  Bydd gweithgareddau i ddatblygu mapiau, ac i greu llwybrau a chyfleusterau teithio llesol newydd neu well, yn effeithio ar rai grwpiau yn wahanol nag eraill. I gwrdd â'r dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae'n rhaid i awdurdodau lleol roi ystyriaeth i’r effeithiau gwahanol hyn ac a oes modd eu lleihau neu eu dileu.  Bydd angen i'r mapiau a gyhoeddir ddangos unrhyw rwystrau ar hyd y llwybrau yn glir er mwyn sicrhau y gall unigolion wneud dewis gwybodus am y llwybr mwyaf priodol iddyn nhw.

Amserlen

Mae'r amserlen a sefydlwyd gan y Ddeddf Teithio Llesol fel a ganlyn:

  • 22 Ionawr 2016 Cyflwyno'r map llwybrau presennol i Lywodraeth Cymru.
  • 3 Tachwedd 2017 Cyflwyno'r map rhwydwaith integredig ac ailgyflwyno'r map llwybr presennol i Lywodraeth Cymru.
  • 24 Medi 2020 Ailgyflwyno'r map llwybrau presennol a’r map rhwydwaith integredig i Lywodraeth Cymru.

I weld y 'Ddeddf' yn llawn a chanllawiau statudol, dilynwch y dolenni cyswllt isod:

http://www.legislation.gov.uk/anaw/2013/7/contents

http://gov.wales/docs/det/policy/141105guidanceen.pdf