Cyfyngiadau Oddi ar y Stryd
Wrth barcio mewn Maes Parcio Talu ac Arddangos rhaid i'r gyrrwr barcio mewn bae a thalu’r ffi berthnasol a dylai’r beiciwr ddal ei afael ar y tocyn Talu ac Arddangos os nad oes modd arddangos y tocyn Talu ac Arddangos ar y beic modur.
Disgwylir bod y beiciwr yn cydymffurfio â'r holl amodau fel y cawsant eu nodi ar y peiriant Talu ac Arddangos a sicrhau bod y cerbyd wedi ei barcio’n gyfan gwbl o fewn bae swyddogol wedi ei farcio, gan y byddai methu â chadw at y rheoliadau hyn yn arwain at gyhoeddi Rhybudd Talu Cosb.
Nid oes parcio diogel ar gyfer beiciau modur, fodd bynnag, mae gennym ddau fae wedi eu marcio’n benodol i ddarparu ar gyfer beiciau modur yn unig (mae'r rhain wedi eu lleoli ym Maes Parcio Stryd Newydd, Yr Wyddgrug). Er bod camerâu cylch caeedig i’w cael yn rhai o'n meysydd parcio nid ydynt yn cael eu neilltuo ar gyfer rhannau penodol a bydd y camerâu’n cael ei symud o bell yn ôl disgresiwn y swyddfa
Cyfyngiadau Ar y Stryd
Disgwylir hefyd bod y beiciwr yn cadw at y terfynau amser a osodwyd mewn baeau aros cyfyngedig.
Rhaid sicrhau fod pob beic modur yn cael eu parcio yn unol â'r cyfyngiadau sydd mewn grym, ac nad ydynt yn cael eu parcio ar y palmentydd gan achosi rhwystr.
Nid oes caniatâd i barcio beiciau modur mewn parth cerddwyr yn ystod yr oriau rhagnodedig, rhaid i bob beiciwr gadw at y Gorchmynion Rheoli Traffig fel y’u marciwyd ac fel y’u harwyddwyd yn briodol lle bo angen ar y safle.