Alert Section

Natur yn Sir y Fflint


Fe ddangosir dosbarthiad eang cynefinoedd yn Sir y Fflint ar y map isod.

Wwelsh map of distribution of habitats in Flintshire

Cyfoeth Naturiol Cymru - https://cdn.cyfoethnaturiol.cymru/media/691503/area-statement-broad-habitatsne-a4cym.pdf

Mae Sir y Fflint yn sir o gyferbyniadau. Wedi ei lleoli rhwng y siroedd gwledig i’r gorllewin ac ardaloedd mwy datblygedig Sir Caer a Glannau Mersi, mae defnydd tir yn amrywio o ddatblygiad diwydiannol dwys ar hyd aber Afon Dyfrdwy i ardaloedd gwyllt a phellennig ym Mryniau Clwyd. Mae’r gweundir, yr arfordir a choetiroedd yn bwysig i bawb sy’n byw, gweithio ac yn ymweld â’r Sir. 

Mae Bryniau Clwyd, sy’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig, yng ngorllewin Sir y Fflint. Yma mae fforestydd coniff eraidd yn amlwg ac er bod ardaloedd yn cael eu rheoli ar gyfer amaeth, mae rhan helaeth yn parhau i fod wedi ei gorchuddio gan weundir, grug ac eithin.

Mae ein hunig ardaloedd o fawn dwfn yn y sir ym Mryniau Clwyd. Gall cynefinoedd mawnog chwarae rôl bwysig o ran rheoli dŵr, gan arafu dŵr llifogydd a lleihau risg llifogydd yn naturiol i lawr yr afon. Drwy ryddhau dŵr yn araf yn ystod cyfnodau sych, mae tir mawnog yn helpu i leihau effaith sychder ar gyflenwadau dŵr ac ar lif afonydd a nentydd. 

Mae natur yn cael ei golli ar draws Cymru gyfan ac nid yw Sir y Fflint yn eithriad. Dros y degawdau, mae Sir y Fflint wedi wynebu trawsnewidiad sylweddol. Mae’r effeithiau yn amlwg o ran poblogaeth y pathew lle mae cofnodion arolwg cadarnhaol ar gyfartaledd ar draws ein safleoedd wedi gostwng o 94% sy’n dangos poblogaeth sydd wedi gostwng. Mamal bach arall yw llygoden y dŵr a dyma’r mamal sy’n gostwng gyflymaf yn y DU ac yn Sir y Fflint dim ond mewn pocedi penodol o gynefinoedd addas y gellir dod o hyd iddi. 

Mae’r colli eang o gynefinoedd naturiol drwy ddatblygu, amaeth, tai, isadeiledd, diwydiant ac echdynnu mwynau yn allweddol ac mae yna fygythiadau newydd gan gynnwys pla ac afiechydon fel Clefyd y Coed Ynn sy’n debygol o effeithio’n fawr ar y coed Ynn ar draws y Sir. Er gwaethaf hyn mae Sir y Fflint yn parhau i fod â nifer o leoedd sydd o bwysigrwydd i fywyd gwyllt mewn ardaloedd trefol a gwledig a nawr mae mwy o dystiolaeth nac erioed fod y lleoedd naturiol hyn hefyd yn hynod o bwysig ar gyfer lles dynol.

Isod ceir rhai enghreifftiau:


Ardaloedd pwysig yn Sir y Fflint

Glaswelltir a Thiroedd Comin

Mae llawer o’r tiroedd comin yn Sir y Fflint yn bwysig i fywyd gwyllt. Fe ffurfiwyd Ardal Cadwraeth Arbennig Comin Helygain (ACA) dros waddodion rhewlifol a chalchfaen 350 miliwn o flynyddoedd oed, gan greu cynefin unigryw a’r ffynhonnell fwyaf o laswelltir metelaidd yng Nghymru. Mae rhywogaethau sy’n anghyffredin yn genedlaethol fel tywodlys y gwanwyn sy’n oddefgar i blwm yn doreithiog o ganlyniad i’r hanes hir o gloddio metelau yn yr ardal.

Mae’r tiroedd comin yn yr ardaloedd mwy trefol hefyd yn darparu cynefinoedd amrywiol pwysig. Mae’r rhwydwaith o byllau, gwlyptiroedd ac ardaloedd o brysgwydd ar Dir Comin Isaf, Bwcle yn hynod o bwysig fel safleoedd magu ar gyfer llyffantod a madfallod ac maent yn ffurfio rhan o Safleoedd Madfallod Glannau Dyfrdwy a Bwcle (ACA). Mae Sir y Fflint yn un o’r siroedd allweddol yng Nghymru ar gyfer y fadfall ddŵr gribog. Byddant yn aml yn ffafrio pyllau ffermydd gwledig, hen chwareli a thir diffaith mewn lleoliadau trefol.

Coetiroedd a Choed

Mae coetiroedd yn gorchuddio 8.8% o’r sir, sy’n llawer is na chyfartaledd Cymru, sef 14%. Caiff ei nodweddu gan flociau bach o goetir fferm a rhai ystadau gwledig, yn ogystal â blociau fforest mwy, fel Nercwys a Moel Famau yn ne’r sir. Mae coetir yn ffurfio elfen bwysig o ran cynefin yn yr ardal wledig ehangach ac o fewn safleoedd gwarchodedig. Er enghraifft mae ACA Coedwigoedd Dyffryn Alun sy’n dilyn yr afon Alun o Loggerheads i Rydymwyn wedi ei ddynodi am ei goetir llydanddail ar galchfaen a choetir gwern gwlyb. Mae rhan helaeth ACA safleoedd madfall Glannau Dyfrdwy a Bwcle yn goetir sy’n gynefin daearol pwysig i fadfallod ac mae Coed Gwepra yng Nghei Connah wedi ei ddynodi gan fod coed derw digoes yn bresennol.

Yn 2018 fe aethom ati i lansio ein Cynllun Coed a Choetiroedd Trefol. Mae’r cynllun yn gosod targed o fod â gorchudd coed ar dros 18% o dir trefol erbyn 2033, sy’n gynnydd o’r 14.5% presennol, y seithfed isaf yng Nghymru. Mae’n gynllun 15 mlynedd sy’n amlinellu ymagwedd integredig o ran plannu ar bob math o dir cyngor. 

Fe fydd plannu coed ac aildyfiant naturiol (lle bo’n briodol) yn rhan bwysig o greu rhwydweithiau ecolegol gwydn. Mae’n hanfodol fod polisi “Y goeden iawn yn y lle iawn” yn cael ei ddilyn wrth gynllunio plannu coed. Bydd hyn yn atal unrhyw golli cynefinoedd pwysig eraill (fel gwlyptir neu laswelltir) a bydd yn sicrhau fod y coed yn darparu’r budd mwyaf posibl i’r dyfodol.

Isadeiledd Gwyrdd Gwledig a Threfol

Mae yna nifer o safleoedd nad ydynt wedi eu dynodi a rhannau gwasgaredig o gynefinoedd sydd â gwerth o ran gwarchod natur a sy’n hanfodol ar gyfer natur. Mae hyn yn ffurfio ein hisadeiledd gwyrdd. Mae’n cynnwys nentydd a phocedi bach o goetiroedd gwlyb, hen wrychoedd, sy’n gweithredu fel coridorau ar gyfer bwyd gwyllt mewn caeau sydd fel arall yn wael o ran rhywogaethau, coetiroedd hynafol sy’n gartref i gannoedd o rywogaethau gan gynnwys clychau’r gog. Gyda’i gilydd mae’r cynefinoedd hyn yn darparu ar gyfer ein rhywogaethau mwy cyffredin a phrin fel Madfallod y Twyni, llyffantod Cefnfelyn, Ystlumod, Pathewod, Dyfrgwn, Madfallod Dŵr Cribog a miloedd o adar hirgoes ar aber Afon Dyfrdwy.

Mae’r rhan fwyaf o ardaloedd trefol o fewn y Sir yn ymgorffori ‘mannau gwyrdd’ anffurfiol sy’n bwysig i fywyd gwyllt a hamdden. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn waddol hen safleoedd diwydiannol neu waith mwynau sydd wedi datblygu fflora naturiol a sy’n gartref i rywogaethau niferus o drychfilod. Mae Dyffryn Maes Glas, Treffynnon a Pharc Gwepra, Cei Connah yn ‘fannau gwyllt’ hynod o werthfawr. Mae’r map isod yn dangos y gwahanol fathau o isadeiledd gwyrdd trefol ar draws Sir y Fflint.

Safleoedd gwarchodedig

Mae Sir y Fflint yn cynnwys nifer uchel o ddynodiadau gwarchod natur rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. Mae cynefinoedd morfa heli, twyni tywod a gwastadeddau llaid Aber Afon Dyfrdwy nid yn unig yn bwysig ynddynt eu hunain, ond maent yn gartref i boblogaethau o adar hela ac adar hirgoes sy’n bwysig yn rhyngwladol ac mae wedi ei ddynodi’n rhyngwladol fel Ardal Gwarchodaeth Arbennig, Ardal Cadwraeth Arbennig a safle gwlyptir RAMSAR o bwysigrwydd rhyngwladol.

Mae safleoedd eraill sydd wedi eu dynodi yn rhyngwladol yn cynnwys ACA Coedwigoedd Dyffryn Alun, ACA Safleoedd Madfall Glannau Dyfrdwy a Bwcle a ACA Mynydd Helygain. Mae gan y sir gyfanswm o dros 23 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a dros 300 o safleoedd bywyd gwyllt a ddynodwyd yn lleol. Mae’r rhain yn cynnwys cynefinoedd sensitif gan gynnwys;

  • Cors bori arfordirol ac ar orlifdir (5% o adnodd Cymru)
  • Glaswelltir calchaidd iseldir (17% o adnodd Cymru
  • Morfa Heli (12% o adnodd Cymru
  • Rhostir
  • Corsleoedd
  • Glaswelltir metelaidd,
  • Pyllau a thwyni tywod arfordirol.

Y Bartneriaeth Natur Leol

Mae Cyngor Sir y Fflint yn cydlynu’r Bartneriaeth Natur leol (Rhwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru). Ffurfiwyd Rhwydwaith Bioamrywiaeth Gogledd Ddwyrain Cymru ym mis Hydref 2009.  Mae’n dod a phartneriaethau bioamrywiaeth lleol oedd yn bodoli yn siroedd Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam ynghyd. 

Mae’n cynnwys nifer o sefydliadau megis awdurdodau lleol Conwy, Sir Ddinbych, Wrecsam, a Sir y Fflint, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, RSPB, Cadwraeth Amffibiaid ac Ymlusgiaid, Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru, Cymdeithas Brydeinig saethu a chadwraeth, Cadwraeth Gloÿnnod Byw, Sw Gaer, Grŵp Moch Daear Clwyd, Cadwch Gymru'n Daclus, Tir Gwyllt, busnesau Cofnod (Canolfan Gofnodion Amgylcheddol Gogledd Cymru) a chofnodwyr ac ymgynghorwyr annibynnol. 

Nod eang y rhwydwaith yw cadw, diogelu ac gwella bioamrywiaeth ar gyfer cenedlaethau heddiw a’r dyfodol. Mae cydweithio yn bwysig i’r bartneriaeth ynghyd ag amcanion eraill sy’n cynnwys codi ymwybyddiaeth ac annog bioamrywiaeth, a nodi blaenoriaethau lleol i fodloni targedau natur lleol.

Dilynwch ni ar gyfer y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf ar draws gogledd ddwyrain Cymru.

Gwefan: https://www.bionetwales.co.uk/cy/adref/

Facebook: NEWBioNet  
Twitter:@newbionet  
Instagram:  @bionetlnp


Dogfennau canllaw a defnyddiol

Canllawiau ar Rywogaethau Estron Goresgynnol

 Rhywogaethau Estron Goresgynnol 

Mae yna nifer o rywogaethau estron yn ein hamgylchedd. Fe allant fod wedi cyrraedd drwy brosesau naturiol neu ar ôl cael eu rhyddhau yn fwriadol neu’n anfwriadol gan bobl. Dyw'r rhan fwyaf o’r rhywogaethau hyn ddim yn achosi unrhyw broblemau, ond mae rhai yn achosi problem. Rydym yn galw’r rhain yn Rhywogaethau Estron Goresgynnol. Mae disgwyl i newid hinsawdd gynyddu’r risg gan nifer o Rywogaethau Estron Goresgynnol sy’n methu â sefydlu yma ar hyn o bryd.  Mae’r Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn fygythiad amgylcheddol ac economaidd sylweddol gan y gallant:

• Aflonyddu ar rywogaethau cynhenid;
• Llwyddo i drechu rhywogaeth gynhenid yn y frwydr am fwyd a lloches;
• Lledaenu afiechyd;
• Ymyrryd gydag uniondeb genetig (DNA) rhywogaethau cynhenid.

Mae Rhywogaethau Estron Goresgynnol Cyffredin yn cynnwys y canlynol ond nid yw’r rhestr yn gynhwysfawr: 
• Clymog Japan (Fallopia japonica)
• Efwr Enfawr (Heracleum mantegazzianum)
• Ffromlys Chwarennog (Impatiens glandulifera)
• Gorchwyn Seland Newydd (Crassula helmsii)


Mae gan Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Llywodraeth Cymru dargedau sefydledig i leihau niferoedd y Rhywogaethau Estron Goresgynnol o 50% yn ôl i lefelau 2000, gyda’r nod o gyflawni hyn drwy wella technegau monitro a chynyddu cyfradd yr archwiliadau.  Mae’r Confensiwn ar Amrywiaeth Biolegol wedi nodi ymagwedd 3 haen hierarchaidd i reoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol: 
• Atal
• Ymyrraeth
• Cyfyngu / rheolaeth hirdymor 

Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau ar Rywogaethau Estron Goresgynnol cyffredin, deddfwriaeth o ran eu rheolaeth, a phwy y dylid cysylltu â nhw i drafod unrhyw bryderon.  

Pwy sy’n gyfrifol? 

Bob blwyddyn, mae’n costio oddeutu £125 miliwn i fynd i’r afael â Rhywogaethau Estron Goresgynnol yng Nghymru, ac amcangyfrifir fod y ffigwr oddeutu £1.84 biliwn yn y DU.  Amcangyfrifir bod Clymog Japan yn costio oddeutu £247 miliwn i economi Prydain bob blwyddyn.  Caiff rhywogaethau estron goresgynnol eu rhestru yn Atodlen 9 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 Rhan 1 (Anifeiliaid) Rhan 2 (Planhigion)1.  Deiliad y tir y mae’r rhywogaethau estron goresgynnol yn tyfu arno sy’n gyfrifol am atal ymlediad y rhywogaethau hyn.  

Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yw’r brif ddeddfwriaeth sy’n ymdrin â rhywogaethau estron. 

Mae Adran 14 y ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i: 

• Ryddhau neu ganiatáu unrhyw anifail i ddianc i'r gwyllt nad yw yn preswylio fel arfer ym Mhrydain ac nad yw'n ymwelydd rheolaidd â Phrydain yn y cyflwr gwyllt, neu sydd wedi ei restru yn Atodlen 9 y Ddeddf. 
• Plannu neu achosi i unrhyw blanhigyn a restrir yn Atodlen 9 y Ddeddf i dyfu yn y gwyllt. 

Gall y troseddau hyn arwain at uchafswm cosb o ddirwy o £5,000 a/neu garchar am 6 mis. Mae’r canllawiau ar Adran 14 y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad yn rhoi mwy o wybodaeth. Yma hefyd gallwch ganfod rhestr o rywogaethau yn Atodlen 9 y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad ar gyfer Cymru a Lloegr.

Mae Adran 23 o’r Ddeddf Isadeiledd (2015) yn caniatáu:  i Weinidogion Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru gyflwyno ‘Cytundebau Rheoli Rhywogaeth’ a ‘Gorchmynion’ ar berchnogion tir sy’n caniatáu i Rywogaethau Estron Goresgynnol sefydlu ar eu tir heb reolaeth.  Bydd gorchmynion yn cael eu cyflwyno pan na ellir llunio cytundeb gyda’r perchnogion tir.  

Beth allwch chi ei wneud?

Ffordd sydyn o roi gwybod am rywogaethau Planhigion Estron Goresgynnol yw defnyddio ap INNS Mapper / Mapiwr INNS y mae modd ei lawrlwytho ar eich ffôn sy’n ceisio darparu adnodd effeithiol i gydlynu ymdrechion ar gyfer rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol.  Mae’r ap yn eich galluogi i roi gwybod am Rywogaethau Estron Goresgynnol, eu lleoliad a chamau rheoli ar gyfer sawl Rhywogaeth o Blanhigion Estron Goresgynnol, sydd oll wedi’u rhestru yn yr adroddiad canllaw hwn.  Mae’r ap ar gael ar yr Apple App Store a Google Play. Mae modd mynd ar wefan Mapiwr Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn: https://innsmapper.org/home.

Beth allwn ni ei wneud?

Pan fydd Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn tyfu ar dir Cyngor Sir y Fflint, mae modd rhoi gwybod i’r Cyngor yn uniongyrchol ar  customerservices@flintshire.gov.uk/01352703020. Bydd Sir y Fflint yn ymdrechu i fynd i'r afael â mesurau rheoli priodol; a bydd y ffactorau canlynol yn cael eu hystyried:

• Y rhywogaethau
• Llwyddiant tebygol unrhyw weithrediadau
• Y tebygrwydd y byddant yn ymledu eto
• Unrhyw raglenni difa sydd eisoes yn bodoli
• Cost y camau gweithredu, gan gynnwys unrhyw gostau posibl yn y dyfodol sydd ynghlwm â pharhau i reoli.

Os yw Rhywogaethau Estron Goresgynnol yn tyfu ar dir preifat, y cam cyntaf yw rhoi gwybod i berchennog y tir.  Os nad yw perchennog y tir yn cydymffurfio, bydd Cyngor Sir y Fflint yn ceisio sicrhau rheolaeth.  Wrth benderfynu p’run ai i gymryd y camau hyn bydd Cyngor Sir y Fflint yn ystyried y ffactorau canlynol:

• Y rhywogaethau
• Llwyddiant tebygol unrhyw weithrediadau
• Y tebygrwydd y byddant yn ymledu eto
• Unrhyw raglenni difa sydd eisoes yn bodoli
• Cost y camau gweithredu, gan gynnwys unrhyw gostau posibl yn y dyfodol sydd ynghlwm â pharhau i reoli
• A yw’r camau gweithredu yn ddefnydd effeithiol o adnoddau.

Gwybodaeth Ddefnyddiol

Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain 2023- 2030: Strategaeth Rhywogaethau Estron Goresgynnol Prydain Fawr 2023 i 2030 (nonnativespecies.org) 

Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru: Rhwydwaith Ecolegol Gadarn Cymru:  Pecyn Gwaith rhywogaethau goresgynnol i gefnogi pobl i adnabod Rhywogaethau Estron Goresgynnol, bioddiogelwch ac ymwybyddiaeth gyffredinol: Wales Resilient Ecological Network (WaREN) | North Wales Wildlife Trust

Cymerwch ran

  • Cyfle i greu lloches ar gyfer bywyd gwyllt gyda'n pecyn garddio Bywyd Gwyllt.
  • Plannu ar gyfer peillwyr: Dywedwch wrthym am ardal leol yr hoffech gael ei hystyried i blannu ar gyfer peillwyr drwy anfon neges e-bost at biodiversity@flintshire.gov.uk  Rhowch ‘peillwyr’ fel testun i’r neges.
  • Cymerwch ran yn y drafodaeth am ddraenogod gydag Ymddiriedolaeth y Bobl ar gyfer Rhywogaethau mewn Perygl a ‘hedgehog street’
  • Darganfyddwch fwy am Dylluanod Gwynion a llenwch y ffurflen os hoffech gael eich ystyried am focs yn ein prosiect i osod bocsys ar draws y rhanbarth.
  • Cofnodi’r natur rydych yn ei weld ar draws Gogledd Cymru gyda 'Cofnod’, canolfan cofnodi natur gogledd Cymru.
  • Bydd ein llyfryn cyflwyniad i reoli perllannau yn rhoi’r hanfodion i gyd i chi er mwyn plannu a gofalu am eich perllan eich hun
  • Cofrestru i wirfoddoli ar brosiectau cadwraeth gyda ni drwy anfon neges e-bost at biodiversity@flintshire.gov.uk. Rhowch ‘gwirfoddoli’ fel testun i'r neges. 
  • Dysgwch fwy am fioamrywiaeth yng Nghymru ar wefan Bioamrywiaeth Cymru.

Cysylltu â ni

Ffôn: 01352 703263
E-bost: bioamrywiaeth@siryfflint.gov.uk