Alert Section

Blodau Gwyllt

Beth ydym ni’n ei wneud?

Mae gennym ni bellach dros 100 o safleoedd ar draws ystâd Cyngor Sir y Fflint sy’n cael eu rheoli ar gyfer blodau gwyllt a phryfed peillio. Mae gennym ni ystod o safleoedd, o safleoedd naturiol amrywiol, lle’r ydym ni wedi dechrau rheoli’r safleoedd i warchod y banc hadau gwyllt presennol, safleoedd blodau gwyllt wedi’u hadu, safleoedd tyweirch blodau gwyllt a safleoedd plannu blodau gwyllt plwg. Mae’r rhain i gyd o fudd enfawr i’n peillwyr gan eu bod nhw’n darparu cerrig sarn o gynefinoedd yn y dirwedd.

Efallai eich bod chi wedi gweld ein harwyddion Ardal Natur sy’n cael eu gosod i dynnu sylw at yr ardaloedd sy’n cael eu rheoli ar gyfer natur. Rydym ni wedi buddsoddi arian grant mewn peiriannau newydd a fydd yn casglu’r gwair wedi’i dorri a system rheoli chwyn nad yw’n gemegol, sy’n cael ei defnyddio ar hyn o bryd gan ein ceidwad cefn gwlad a’n tîm gwasanaethau stryd.

Bydd y rhan fwyaf o’n safleoedd blodau gwyllt yn cael eu torri unwaith ar ddiwedd yr haf/dechrau’r hydref ar ôl i’r blodau gwyllt flodeuo a hadu. Bydd yr hyn sydd wedi’i dorri ar y safleoedd yn cael ei gasglu er mwyn sicrhau’r amodau cywir i flodau gwyllt barhau i dyfu.

Mwy o wybodaeth am reoli dolydd

Yr hyn y byddwch chi’n ei weld

Mae llawer o wahanol fathau o flodau yr ydych chi'n debygol o'u gweld mewn dolydd blodau gwyllt. Mae rhai rhywogaethau arbennig yr ydym ni'n gobeithio eu hannog sy'n llai cyffredin. Isod, mae rhestr o’r prif rywogaethau yr ydym ni’n gobeithio eu gweld yn ystod misoedd yr haf.

Mwy o wybodaeth am flodau cyffredin 

Byddwch chi’n gweld llawer o bryfed yn cynnwys gloÿnnod byw a gwenyn yn suo o gwmpas y blodau.

Mwy o wybodaeth am bryfaid

Wildflowers at Buckley Common
Blodau gwyllt Comin Bwcle
Wildflowers at Bryn Road, Mynydd Isa
Blodau gwyllt Bryn Road, Mynydd Isa

Pan fyddwn yn hadu safle blodau gwyllt bydd ar y safle angen cael ei baratoi drwy balu neu grafu i greu tir llwm er mwyn i’r hadau blodau gwyllt egino. Bydd y tir yn edrych yn foel ar y dechrau (fel rheol yn yr hydref neu ar ddechrau’r gwanwyn) ond buan iawn y bydd yn glasu ac yna erbyn canol yr haf mi fyddwch chi’n gweld y lle yn llawn o flodau hyfryd a phryfed, gan wneud eich ardal ychydig yn fwy lliwgar. 

Cyn ac ar ôl

Llun cyn ac ar ôl o lain ymyl ffordd ym Magillt wedi’i hadu.

Symudwch y llithrydd i weld y gwahaniaeth! 

before after

Pam mae dolydd blodau gwyllt yn bwysig?

  • Mae dolydd ac ardaloedd blodau gwyllt yn darparu cynefin pwysig i bryfed, adar a mamaliaid ac yn sefydlu cysylltiadau naturiol trwy ein hardaloedd trefol.
  • Mae blodau gwyllt yn creu lle brafiach ar gyfer cerdded a hamdden. Mae'n edrych yn brafiach a phrofwyd bod treulio amser mewn lle naturiol yn gwneud i bobl deimlo'n ymlaciedig.
  • Gall cynyddu llystyfiant naturiol helpu i leihau llygryddion yn yr aer. Gall llystyfiant naturiol sy'n tyfu mewn lleoliad trefol gynyddu dyddodiad llygryddion o'r aer i arwynebau'r planhigion, gan wneud aer yn lanach i’w anadlu.
  • Gall ardaloedd naturiol helpu i leihau llifogydd dŵr wyneb. Gall glaw trwm gael ei amsugno i'r tir athraidd a chan systemau gwreiddiau planhigion sydd i gyd yn lleihau maint a chyflymder symudiad dŵr.
  • Mae ardaloedd naturiol yn bwysig i helpu i arafu effeithiau newid hinsawdd. Nid coed yn unig sy'n amsugno carbon. Mae llystyfiant sy'n tyfu a'i systemau gwreiddiau yn amsugno carbon o'r atmosffer ac yn ei storio fel biomas.

Colli ein Blodau Gwyllt

  • Mae cynefin dolydd blodau gwyllt wedi lleihau 99%, mae newidiadau mewn rheolaeth, isadeiledd, datblygiadau eraill ac arferion ffermio i gyd yn rhan o’r rhesymau y tu ôl i’r dirywiad.
  • Yn anffodus, mae'r ardaloedd bach o laswelltir sydd gennym ni ar ôl yn aml yn cael eu rheoli mewn ffordd sy'n lleihau amrywiaeth a gwerth i fywyd gwyllt.
  • Mae’r rhan fwyaf o’n safleoedd glaswelltir ni wedi cael eu rheoli’n ddwys dros nifer o flynyddoedd, dan raglen o dorri gwair yn rheolaidd (gan adael glaswellt wedi’i dorri ar y tir) ac mae hyn yn achosi i laswelltiroedd ddod yn gyfoethog o ran maetholion.
  • Mae lefelau uchel o faetholion yn ffafrio tyfiant gweiriau garw sy'n fwy na blodau gwyllt, ac yn raddol mae'r banc hadau blodau gwyllt yn y ddaear yn lleihau.