Bydd angen i chi gyflwyno manylion eich budd-dal/pensiwn i ni i os ydych yn gymwys i gael gwasanaeth casglu gostyngol.
Ffoniwch 01352 701234 i dalu trwy gerdyn credyd/debyd.
Anfonwch siec trwy'r post yn daladwy i 'Gyngor Sir y Fflint' ynghyd â rhestr o'r eitemau i'w casglu, eich enw, eich cyfeiriad a chopïau o fanylion eich budd-dal/pensiwn at Gwasanaethau Streetscene, Depo Alltami, Ffordd Yr Wyddgrug, Alltami, Sir y Fflint CH7 6LG.
Galwch heibio i swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu: Bwcle / Treffynnon / Y Fflint / Cei Connah / Yr Wyddgrug. Rydym yn derbyn arian parod, cardiau debyd neu gardiau credyd.
Byddwn yn casglu'r eitem(au) o fewn 6 diwrnod.