Alert Section

Bwrdd Gwasanaethau Lleol


Mae gan Sir y Fflint hanes hir a balch o weithio mewn partneriaeth.  Mae’r cymunedau y mae yn eu gwasanaethu yn disgwyl i bartneriaid statudol a thrydydd sector i weithio gyda’i gilydd i rannu blaenoriaethau drwy gydweithio. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint (BGC) yn greiddiol i'r gwaith o hybu diwylliant cadarnhaol o gydweithio ac mae'n canolbwyntio’r egni, ymdrech ac adnoddau ar ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon i gymunedau lleol.

Corff statudol yw BGC Sir y Fflint a sefydlwyd ar 1 Ebrill 2016 ar ôl cyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae BGC Cyngor Sir y Fflint yn cymryd lle Bwrdd Gwasanaethau Lleol Cyngor Sir y Fflint.

Ymgynghoriad ar Gynllun Lles Drafft 2023-2028:

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (y ‘Ddeddf’) yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus penodol i gydweithio, gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, i wella lles lleol yn eu hardal, a helpu i gyflawni saith nod lles Cymru.

Mae’r Ddeddf hefyd yn dweud bod angen i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus baratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardal o dro i dro. Cyhoeddwyd yr Asesiad diwethaf o Les yn Sir y Fflint ym mis Mai 2022 ac rydym ni rŵan yn defnyddio hwn i ddylanwadu ar y Cynllun Lles nesaf, 2023 i 2028, a fydd yn nodi amcanion i wella lles lleol.

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi drafftio ei ddogfen ymgynghori ar Gynllun Lles 2023 i 2028 ac mae rŵan yn gofyn am sylwadau cyn cyhoeddi’r fersiwn derfynol.

Ymgynghoriad ar Gynllun Lles Drafft Sir y Fflint a Wrecsam Tachwedd 2022

Sut i gymryd rhan

I rannu eich barn, darllenwch ein dogfen ddrafft ac anfonwch eich sylwadau neu awgrymiadau ar y ddogfen ymgynghori ddrafft ar ein Cynllun Lles at Busnescorfforaethol@siryfflint.gov.uk

Cysylltwch â’r tîm cyn 5 Chwefror 2023.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015:

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddarn newydd heriol o ddeddfwriaeth a hyrwyddir gan Lywodraeth Cymru. Diben y ddeddf arloesol hon yw gwella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru nawr ac ar gyfer yr hir dymor.

Yn sail i'r Ddeddf y mae saith nod lles:

  • Cymru ffyniannus
  • Cymru wydn
  • Cymru iachach
  • Cymru fwy cyfartal
  • Cymru â chymunedau cydlynol
  • Cymru gyda diwylliant bywiog ac iaith sy’n ffynnu
  • Cymru fydol ymatebol

Mae angen i bartneriaid sector cyhoeddus weithio gyda’i gilydd er mwyn cyflawni’r amcanion hyn.

Cynllun Lles Sir y Fflint:

Mae’n bleser gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint gyflwyno “Cynllun Lles Sir y Fflint 2017 – 2023”. 

Mae’r Cynllun yn cefnogi’r nodau lles a’r egwyddorion datblygu cynaliadwy a amlinellir uchod a bydd yn dangos sut y maent wedi’u hymgorffori yn ein blaenoriaethau.

Hyderwn bod ein Cynllun yn hysbysu ac yn ysbrydoli. Mae Sir y Fflint yn Sir sy’n perfformio ar lefel uchel ac mae ganddi ddyfodol cadarnhaol. Gyda’n gilydd gallwn barhau i wneud gwahaniaeth positif nawr ac yn y dyfodol.

Cynllun Lles Sir y Fflint, 2017 - 2023

Asesiad Lles Sir y Fflint 2017:

Mae’r asesiad yn rhoi darlun cyfoes o fywyd a lles yn Sir y Fflint. Y themâu a gynhwysir yn yr asesiad yw’r pethau sy'n bwysig i chi. Hoffem i chi ddweud wrthym a yw’n rhoi darlun o'r Sir y Fflint yr ydych chi'n ei adnabod.

Asesiad Lles Sir y Fflint - Grynodeb

Asesiad Lles Sir y Fflint – Lawn

Asesiad Lles Sir y Fflint – Proffiliau Arda

Aelodaeth:

Mae BGC Sir y Fflint yn cynnwys uwch arweinwyr o nifer o sefydliadau cyhoeddus a gwirfoddol.  Mae’r Bwrdd yn cynnwys aelodau statudol (h.y. wedi eu penodi drwy gyfraith) ac aelodau wedi eu gwahodd fel y rhestrir isod. Nodir aelodau statudol gyda *

Gyda’i gilydd mae’r sefydliadau hyn yn gyfrifol am ddatblygu a rheoli’r Cynllun Lles ar gyfer Sir y Fflint.

Aelodaeth
 Cyngor Sir y Fflint*  Heddlu Gogledd Cymru
 Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr*  Coleg Cambria
 Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru*  Prifysgol Glyndŵr
 Cyfoeth Naturiol Cymru*  Iechyd Cyhoeddus Cymru
 Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru  Llywodraeth Cymru
 Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol Cymru  Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint
 Cwmni Ailsefydlu Cymunedol Cymru  

Pwrpas:

Prif bwrpas y Bwrdd yw gwarchod, cynnal a gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir y Fflint drwy gydweithio fel un gwasanaeth cyhoeddus.

Mae gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint bum prif rôl:

  • Cyflawni dyletswyddau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gan gynnwys cynhyrchu a gweithio yn unol â Chynllun Lles Lleol;
  • Nodi a blaenoriaethu'r heriau cyfoes lle gelwir am arweiniad a datrys problemau ar y cyd, a materion cyffredin ar gyfer darparwyr neu wasanaethau ac fel cyflogwyr lle gelwir am gamau gweithredu ar y cyd;
  • Sicrhau llywodraethu a pherfformiad cyson ac effeithiol ar draws y bartneriaeth strategol sy’n cefnogi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
  • Hyrwyddo cydweithio wrth gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus lleol ac i wneud y defnydd economaidd gorau o bartneriaid ac adnoddau lleol wrth gyflawni nodau a blaenoriaethau cyffredin; a
  • Hyrwyddo a chynnal perthnasau partneriaeth effeithiol a llawn ymddiriedaeth ymhlith arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus lleol i gefnogi’r rolau uchod

Mae prif weithgareddau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel a ganlyn:

  • Paratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir y Fflint;
  • Paratoi a chyhoeddi Cynllun Lles Lleol ar gyfer Sir y Fflint, yn nodi amcanion lleol a'r camau y mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bwriadu eu cymryd i’w bodloni;
  • Parhau i reoli perfformiad ffrydiau gwaith blaenoriaeth mabwysiedig y Bwrdd wrth fynd ar drywydd y canlyniadau maent yn anelu atynt;
  • Goruchwylio perfformiad a chyfraniad cyflenwol y partneriaethau strategol lleol; a
  • Pharatoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n nodi cynnydd y Bwrdd o ran bodloni eu nodau a'u hamcanion

Wrth gyflawni ei swyddogaethau a’i weithgareddau, bydd y Bwrdd yn cyfrannu at y saith nod 'Lles' cenedlaethol:

  • Cymru ffyniannus
  • Cymru wydn
  • Cymru iachach
  • Cymru fwy cyfartal
  • Cymru â chymunedau cydlynol
  • Cymru gyda diwylliant bywiog a iaith sy’n ffynnu
  • Cymru fydol ymatebol

Mae datblygu cynaliadwy yn egwyddor sy'n sail i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Mae hyn yn golygu meddwl, cynllunio a gweithredu mewn ffordd lle caiff anghenion y presennol eu diwallu heb beryglu’r dyfodol a chyfyngu’r.

cyfleoedd ar gyfer y cenedlaethau fydd yn dilyn. Wrth wneud penderfyniadau, bydd y Bwrdd yn meddwl, cynllunio a gweithredu ar gyfer yr hirdymor, yn atal problemau rhag codi, drwy integreiddio a chydweithio, a thrwy fod yn gynhwysol.

Blaenoriaethau:

Er bod BGC Sir y Fflint yn sylweddoli bod llawer y gellid ei wneud i ychwanegu gwerth at wasanaeth cyhoeddus ac i gymunedau Sir y Fflint maent wedi nodi ac wedi cytuno ar nifer o flaenoriaethau ar gyfer sy'n cefnogi saith nod “Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)” sef:

  • Diogelwch Cymunedol
  • Economi a Sgiliau
  • Yr Amgylchedd
  • Byw yn Iach ac Annibynnol
  • Cydnerthu Cymunedau

Mae’r blaenoriaethau hyn wedi’u dewis fel y meysydd lle gall y Bwrdd ychwanegu’r gwerth mwyaf a gwneud gwahaniaeth go iawn ynddynt. Amcan BGC Sir y Fflint yw cydweithio i wneud gwahaniaeth o fewn y blaenoriaethau hyn, gan sylweddoli na all yr un sefydliad yn unigol gyflawni ar ei ben ei hun; gall y sefydliadau partner a gynrychiolir ar y BGC gyda'i gilydd wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r bobl sy'n byw, yn ymweld â ac yn gweithio yn Sir y Fflint.

Cyfarfodydd:

Cynhelir Cyfarfodydd BGC Sir y Fflint yn chwarterol fel a ganlyn:

  • Ionawr
  • Ebrill
  • Gorffennaf
  • Hydref