Alert Section

Bathodyn Glas - Rhestr wirio: nam gwybyddol


Mae'n bosibl eich bod yn gymwys i gael bathodyn glas o dan y meini prawf ar gyfer nam gwybyddol.

Mae'r meini prawf hyn yn gymwys i bobl sy'n ei chael yn anodd cynllunio neu ddilyn siwrnai i'r fath raddau y mae angen cadw llygad arnynt o hyd.

Gall hyn gynnwys pobl ag:
  • Awtistiaeth
  • Alzheimer's neu ddementia
  • Wedi cael strôc
  • Anableddau dysgu
  • Salwch meddwl
  • Anafiadau i'r pen/ymennydd

Sylwch nad yw'r rhestr hon yn cynnwys pob dim ac nad yw'r meini prawf hyn wedi'u seilio'n gyfan gwbl ar ddiagnosis o'r cyflyrau; mae angen bodloni'r gofynion diogelwch sydd mewn print trwm uchod hefyd.

Ydych chi'n dioddef o unrhyw un o'r cyflyrau uchod a hefyd yn ei chael yn anodd cynllunio neu ddilyn siwrnai?

Ydw

Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen gais ar sail Nam Gwybyddol a bydd angen dilysu'ch hanes blaenorol gyda'r gwasanaethau cymdeithasol neu iechyd.  Gallwch wneud cais drwy ffonio'r Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01352 701304 neu drwy ymweld â'ch swyddfa Cysylltiadau Sir y Fflint agosaf. Sir y Fflint yn Cysylltu. Dylech ddod â'r dogfennau a ganlyn hefo chi:

Prawf o bwy ydych chi

Bydd angen i chi ddangos un o'r isod:

  • Tystysgrif geni / mabwysiadu
  • Tystysgrif priodas / ysgariad
  • Tystysgrif partneriaeth sifil/diddymu partneraeth sifil
  • Trwydded yrru ddilys
  • Pasbort dilys

Prawf o ble rydych yn byw

Gallwch brofi lle'r ydych yn bwy mewn gwahanol ffyrdd, sef:

  • Bil Treth Gyngor
  • Caniatáu i ni chwilio am gofnodion eich treth gyngor, y gofrestr etholiadol / cofnodion ysgol ar eich rhan

Llun i'w roi ar y Bathodyn Glas

Dylai hwn fod yn debyg i lun pasbort, a rhaid iddo fod yn un diweddar. Dylai ddangos wyneb llawn y person sy'n gwneud y cais, er mwyn medru ei adnabod yn hawdd ac ni ddylai neb arall fod yn y ffotograff. Bydd y ffotograff yn cael ei osod ar gefn y bathodyn ac ni fydd i'w weld pan fydd wedi'i osod ar y cerbyd. Gall un o'n cynghorwyr cwsmeriaid dynnu'r llun yn un o ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu.

Tystiolaeth

Unrhyw un o'r canlynol os ydych dan 64 oed:

      • Cyfradd Uwch Elfen Gofal Lwfans Byw i'r Anabl hefyd llythyr yn rhoi diagnosis o nam gwybyddol.
      • Neu, llythyr yn rhoi diagnosis o nam gwybyddol a/neu lythyr yn gofyn i chi fynd i glinig cof.
      • Neu, Taliad Byw'n Annibynnol (PIP) – 12 pwynt Cynllunio Siwrnai.

Os ydych dros 64 oed, bydd angen llythyr yn rhoi diagnosis o nam gwybyddol gan weithiwr iechyd proffesiynol a/neu llythyr yn gofyn i chi fynd i glinig cof.

Mae'n bosibl defnyddio gwasanaeth Cynghori Annibynnol i benderfynu a ydych yn gymwys i gael Bathodyn Glas ai peidio os na fedrwch ddarparu'r dystiolaeth uchod.

Sut rydw i'n darparu'r dogfennau hyn?

Nac ydw

Oes gennych chi anabledd cerdded dros dro ond sylweddol, sy’n debygol o barhau am y 12 mis nesaf? 

Oes

Mae'n ddrwg gennyf, ond gan nad ydych chi'n bodloni unrhyw un o'r meini prawf, ni fyddai'n briodol bwrw ymlaen â'ch cais gan nad yw'n debygol y byddem yn rhoi bathodyn i chi.  Os bydd eich amgylchiadau'n newid, neu os oes gennych ragor o wybodaeth i gefnogi'ch cais, cysylltwch â ni i drafod y mater.