Tîm datblygu busnes
Croeso i Ddatblygu Busnes Sir y Fflint
Mae Sir y Fflint yn sir ffyniannus sydd â Pharth Menter pwrpasol ar gyfer Gweithgynhyrchu Uwch a Deunyddiau ac mae ganddi economi leol gref sydd â gwybodaeth a sgiliau cadarn sy’n sylfaen ar gyfer llwyddiant. Mae Sir y Fflint yn sir o arloesedd a rhagoriaeth sy’n cyflawni ei photensial ar gyfer datblygiad economaidd a ffyniant ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.
Rydym yn parhau i ddatblygu economi fodern a chynaliadwy o’r radd flaenaf, yn seiliedig ar fentergarwch busnes a gweithlu llawn cymhelliant a hyfforddedig gyda chymorth technoleg newydd sbon.
Mae gennym enw da yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol am wasanaeth o safon uchel ac arloesol ac am weithio mewn partneriaeth gydweithredol.
I’r perwyl hwn mae Tîm Datblygu Busnes Sir y Fflint yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth i fusnesau. Mae gennym brofiad helaeth a dealltwriaeth o anghenion a gofynion busnesau o bob maint ac o bob sector.
Mae Tîm Busnes Sir y Fflint yn darparu cyngor a chymorth di-duedd am ddim yn y meysydd canlynol:-
- Buddsoddi yn Sir y Fflint
- Parth Menter Glannau Dyfrdwy
- Cymorth Busnes
- Dechrau Busnes a Mentergarwch
- Arloesedd a Chyanliadwyedd
- Cymorth Ariannu
- Tendro a’r Gadwyn Gyflenwi
- Datblygu’r Gweithlu – sgiliau a hyfforddiant
- Menter Gymdeithasol
- Tir ac Eiddo
- Ystadau Diwydiannol Sir y Fflint
- Cyfeirlyfrau Busnes
- Hyrwyddo Digwyddiadau, Busnes a Rhwydweithio
Sut y gallwn helpu eich busnes
Mae ein hystod o wasanaethau’n cynnwys:
- Siop un stop ar gyfer gwasanaethau gwybodaeth a chyngor i fusnesau
- Mynediad i gymorth arbenigol a chymorth ym maes TGCh
- Help gyda phob agwedd ar gynllunio busnes
- Help i adolygu perfformiad presennol eich busnes
- Cyngor rhad ac am ddim a chyfrinachol am ystod eang o bynciau sy’n ymwneud â busnes, gan gynnwys cyllid, gwerthu a marchnata, polisïau cyflogaeth, gweithrediadau
- Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid a chefnogaeth gan asiantaethau eraill megis Llywodraeth y Cynulliad a Chyllid Cymru
- Help gyda cheisiadau am grantiau a benthyciadau
- Cyngor ynghylch cyflwyno tendrau yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat
- Rhestrau o Eiddo Masnachol
- Mewnfuddsoddi
- Datblygu’r gweithlu
Cysylltu â ni
Os hoffech wybod sut y gallwn helpu eich busnes, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:
Ffôn: 01352 703040 neu e-bost: busdev@flintshire.gov.uk