Alert Section

COVID-19 Cefnogaeth sydd ar gael – gwybodaeth ddefnyddiol a dolenni


Gweler y dolenni isod am gefnogaeth a/neu gyngor yn ymwneud â’r sefyllfa digynsail bresennol. 

Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon os a phan fydd gennym unrhyw wybodaeth bellach.

Byddem hefyd yn eich annog i danysgrifio i’n gwasanaeth bwletin e-bost, GovDelivery – a hefyd annog pobl eraill i gofrestru – yn arbennig ar gyfer "Newyddion am Eich Cyngor" a "Diweddariadau Twitter"  Bydd hyn yn helpu i chi dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf – ewch i dewisiadau tanysgrifiwr (dolen).

Canllaw’r Llywodraeth

www.gov.uk/government/news/chancellor-gives-support-to-millions-of-self-employed-individuals

https://www.gov.uk/government/news/coronavirus-support-for-employees-benefit-claimants-and-businesses

Gwybodaeth cyflogaeth

Mae pob Clwb Swyddi ynghau hyd nes y rhoddir hysbysiad pellach ond gallwch barhau i gysylltu â’r tîm drwy lenwi ein ffurflen atgyfeirio

https://www.flintshire.gov.uk/en/PDFFiles/Jobs-and-Careers/Referral-Form-Flintshire.pdf.

Mentoriaid cyflogaeth

Mae ein mentoriaid cyflogaeth yn parhau ar gael dros y ffôn, testun neu e-bost ac maent yn darparu mentora un i un dwys am ddim i’ch helpu i nodi a chymryd camau ymarferol i oresgyn rhwystrau sy’n eich atal rhag cael gwaith.

Dan Wade a Coran Halfpenny-Williams yw ein mentoriaid ar gyfer pobl ifanc (16-24) – maent yn brofiadol ac yn gwerthfawrogi’r heriau a wynebir gan bobl ifanc yn aml. 

Gallwch gysylltu  â Dan drwy ffonio neu tecsio 07880 082558 neu e-bost

Daniel.Wade@flintshire.gov.uk

Gallwch tecsio neu ffonio Coran ar 07342 700851 neu e-bost at

coran.halfpenny-williams@flintshire.gov.uk.

Mae cefnogaeth debyg ar gael i bobl dros 25 oed.    Mae Jeff Wynne a Rob Edwards yma i’ch cefnogi chi.    Mae gan y ddau brofiad helaeth ac maent yn dymuno cefnogi pobl yn Sir y Fflint. 

Ffoniwch neu anfonwch neges testun at Jeff ar 07387 525770 neu e-bost

Jeff.Wynne@flintshire.gov.uk.

Ffoniwch neu anfonwch neges testun at Rob ar 07880 082544 neu e-bost

robin.edwards@flintshire.gov.uk.

Cyngor ar Bopeth

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am wasanaethau Cyngor ar Bopeth i Gymru drwy ymweld a’u

gwefan.  I siarad gyda rhywun yn Cyngor Ar Bopeth Sir y Fflint gallwch ffonio eu rhif ffôn NEWYDD:

Advicelink: 0300 330 2118

neu drwy ein ffurflen cyswllt gwefan:

flintshirecab.org.uk/contact-us

neu ymweld â gwefan Cyngor ar Bopeth Cymru:
https://www.citizensadvice.org.uk/wales/

Mae holl gyflenwyr ynni yn rhoi tair wythnos o gredyd brys. 

Cysylltwch â Cyngor ar Bopeth am wybodaeth os ydych yn hunan-ynysu ac yn defnyddio mesurydd cerdyn ac allwedd.   

Gwybodaeth refeniw a budd-daliadau

https://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Council-Tax-and-Benefits-and-Grants/Benefits-News.aspx

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor a gwybodaeth ar wasanaethau lleol i deuluoedd a gofalwyr. 

Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint yn defnyddio e-bost (fisf@flintshire.gov.uk) a negeseua drwy eu cyfryngau cymdeithasol a gwefannau fel eu prif bwynt cyswllt.

Mae yna hefyd ddwy wefan genedlaethol ar gael –

www.dewis.cymru sef y LLE i fynd os ydych angen gwybodaeth neu gyngor am wasanaethau sy’n gallu helpu i’ch cefnogi chi gyda’ch iechyd a lles – neu os ydych eisiau gwybod sut y gallwch gefnogi rhywun arall.   

Eu cyfeiriad gwefan yw

www.fis.wales sy’n eich helpu i ddod o hyd i ofal plant cofrestredig addas a chynnig cyngor ar gefnogaeth arall sydd ar gael i ofalu am eich plant.

Sianelau cyfryngau cymdeithasol Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd yw:

https://www.facebook.com/Family-Information-Flintshire-Gwybodaeth-i-Deuluoedd-Sir-y-Fflint-2241477442741878/

https://twitter.com/FISFlintshire

Datrysiadau Tai Sir y Fflint

Y Tîm Datrysiadau Tai yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor a gwybodaeth ar wasanaethau lleol i unrhyw un sydd ag angen o ran tai, gan gynnwys cyngor ar dai cyffredinol, cefnogaeth i reoli eich cartref a hefyd yn cynnwys cyngor a chymorth i bobl sydd efallai’n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref.  I gael mwy o wybodaeth am ein gwasanaethau gallwch ymweld â

Datrysiadau Tai Sir y Fflint .

Cysylltwch â ni ar 01352 703515 neu e-bost

SPReferrals@flintshire.gov.uk 

Mae gwasanaethau a ffynonellau cyngor a gwybodaeth eraill ar gael ac efallai y dymunwch ystyried cael mynediad i’r gwasanaethau hyn yn uniongyrchol.

Shelter Cymru

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am Shelter Cymru drwy ymweld â’u gwefan <https://sheltercymru.org.uk/> Gallwch ffonio Shelter Cymru ar 08000 495495 am Gyngor ar Dai a Chyngor ar Ddyledion gan Arbenigwr.  Mwy o wybodaeth am y gwasanaethau hyn ar gael ar adran Cysylltwch â Ni o’u gwefan.

Gall Cyngor ar Bopeth hefyd gynnig cefnogaeth – gweler o dan gwybodaeth Cyflogaeth am fanylion cyswllt. 

Sgiliau BT ar gyfer yfory

www.bt.com/skillsfortomorrow yn anelu i roi’r sgiliau mae pobl eu hangen i ffynnu yn y byd digidol.  O ganlyniad i ledaeniad y coronafeirws, mae cael y sgiliau hyn yn bwysicach nag erioed. 

Mae gwybodaeth allweddol yn cynnwys:

  • Sut i gael mynediad i wasanaethau meddyg teulu ar-lein
  • Sut i ddefnyddio gwefan y GIG
  • Defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein

Mae’r wybodaeth hon ar gael yn:

https://www.bt.com/skillsfortomorrow/daily-life/accessing-public-services.html