Mae cronfa argyfwng y gwasanaethau gwirfoddol (dolen gyswllt allanol) yn galluogi'r grwpiau a'r sefydliadau hynny sy'n darparu cymorth hanfodol i grwpiau fel: pobl ar eu pen eu hunain, yr henoed, gofalwyr, pobl sy'n cael trafferth cael gafael ar fwyd ac ati naill ai i barhau neu i wneud y gwaith hanfodol hwnnw ar yr adeg hon o argyfwng.
Nid oes gofyniad am Reg TAW ac mae'r dyfarniadau yn seiliedig ar y gallu i ddangos angen a'r cyllid sy'n gallu diwallu'r angen hwnnw a chreu effaith.
Cronfa cydnerthedd y trydydd sector (dolen gyswllt allanol) yw helpu sefydliadau i aros mewn busnes a darparu cymorth llif arian i helpu sefydliadau drwy'r argyfwng presennol. Nid yw i ddisodli cyllid a gollir ond mae'n helpu sefydliadau a fyddai'n gorfod cau fel arall oherwydd nad oes ganddynt fynediad i gronfeydd eraill (fel cronfeydd wrth gefn) i'w gweld yn ystod y 6 mis nesaf.
Nid oes gofyniad cofrestru TAW na'r angen i ddangos tystiolaeth o ostyngiad canrannol mewn incwm/trosiant ac mae'n seiliedig ar angen i oroesi. Mae'r gronfa hon yn canolbwyntio ar gefnogi'r rheini sydd, yn bennaf, wedi colli incwm o roi/codi arian neu nad ydynt yn gymwys ar gyfer Cronfa Cymru Gydnerth oherwydd rhesymau cymhwysedd.
Mae Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Fflint (dolen gyswllt allanol) yn cydlynu ymateb gwirfoddolwyr i Covid19. Maent yn gweithio'n ddiflino i helpu'r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, ac maent yn gwneud gwaith mor wych.
Cronfeydd mewn Argyfwng – CV-19 – Cefnogaeth Sefydliadau Gweithredu Cymunedol
Mae gan Grwpiau Gweithredu Lleol yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam gronfeydd ar gael i gefnogi mentrau cymunedol, elusennau, grwpiau cymunedol ffurfiol a sefydliadau sector cyhoeddus yn ardaloedd gwledig Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam i'w galluogi i addasu eu cefnogaeth gymunedol rheng flaen yng nghyd-destun sefyllfa bresennol y coronafeirws a’r sefyllfa sy’n newid yn barhaus.
Mae’r cronfeydd hyn ar gael drwy Cadwyn Clwyd.
Gall sefydliadau ymgeisio am hyd at £3000 o gostau cymwys i ddatblygu dulliau newydd o ddarparu cefnogaeth i wasanaethau. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Donna Hughes – 01490 340500 neu
donna.hughes@cadwynclwyd.co.uk
Rheoleiddwyr elusennau yn cyhoeddi canllawiau ar y coronafeirws
Mae canllawiau wedi eu hanelu at ymddiriedolwyr Elusennau (dolen gyswllt allanol) yn ymwneud â gweithredu yn ystod sefyllfa'r coronafeirws ar gael gan y Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae’r canllawiau yn cynnwys cefnogaeth ariannol sydd ar gael, cynnal cyfarfodydd ar-lein neu dros y ffôn, rhoi gwybod am ddigwyddiadau difrifol a chadw pobl yn ddiogel ayb.
Grant argyfwng coronafeirws y Sefydliad Cymorth i Elusennau ar gyfer elusennau bach
Mae’r grant argyfwng £5 miliwn (dolen gyswllt allanol) sydd wedi ei lansio gan y Sefydliad Cymorth i Elusennau ar gyfer elusennau bach sydd wedi eu heffeithio gan sefyllfa’r coronafeirws yn darparu grantiau o hyd at £10,000 ar gyfer elusennau gydag incwm o £1 miliwn neu lai er mwyn ymdrin â chostau craidd, staffio, costau gwirfoddolwyr, cyflenwadau ac offer, cyfathrebu a gweithgareddau elusennol hanfodol eraill.
Estyniad ar ffeilio i elusennau sydd i gyflwyno datganiadau blynyddol
Mae’r Comisiwn Elusennau ar gyfer Cymru a Lloegr (dolen gyswllt allanol) wedi cyhoeddi y gall unrhyw elusen sydd angen estyniad i ddyddiad cau eu datganiad blynyddol gysylltu â’r Comisiwn Elusennau i ofyn am estyniad.
Canllawiau yn ymwneud â’r coronafeirws i gwmnïau buddiannau cymunedol
Mae Swyddfa Rheoleiddiwr y Cwmnïau Buddiannau Cymunedol wedi cyhoeddi canllawiau (dolen gyswllt allanol) ynglŷn â sut y gall Cwmnïau Buddiannau Cymunedol reoli effaith y sefyllfa yn sgil yr achos o'r haint.
£26 miliwn i helpu elusennau bychain yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y gall miloedd o elusennau bychain o fewn y sector manwerthu, hamdden a lletygarwch hawlio grant cymorth busnes o £10,000 i’w helpu i ymateb i’r heriau ariannol sydd ynghlwm â Covid-19.