Alert Section

COVID-19 Cymorth i Unigolion Hunangyflogedig


Cymorth i Unigolion Hunangyflogedig

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth ar gyfer pobl Hunangyflogedig sydd yn cael eu heffeithio gan Coronafeirws, gan greu'r un lefel o gymorth sydd ar gael i weithwyr. Mae’r Cynllun Cymorth Incwm newydd i’r Hunangyflogedig yn golygu bydd y rheini sy’n gymwys yn derbyn grant arian parod sydd werth 80% o’u helw masnachu misol cyfartalog dros y dair blynedd diwethaf. Mae hyn yn berthnasol i 95% o bobl sy’n derbyn y rhan fwyaf o’u cyflog drwy hunangyflogaeth.

Bydd unigolion yn gwneud cais uniongyrchol am y grant trethadwy i CThEM gan ddefnyddio ffurflen syml ar-lein a bydd yr arian yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’w cyfrifon banc. Bydd y cynllun yn agored i’r rheini oedd ag elw masnachu llai na £50,000 yn 2018-19, neu’r rheini oedd ag elw masnachu cyfartalog llai na £50,000 o 2016-17, 2017-18 a 2018-19. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i fwy na hanner eu incwm ar gyfer y cyfnod hynny ddod o hunangyflogaeth. Er mwyn lleihau twyll, dim ond y rheini sydd eisoes yn hunangyflogedig ac yn bodloni â’r amodau uchod fydd yn gymwys i wneud cais.

Bydd y CThEM yn canfod y trethdalwyr cymwys ac yn cysylltu’n uniongyrchol â nhw gydag arweiniad ar sut i wneud cais. Bydd y cynllun cymorth incwm, sy’n cael ei lunio o’r newydd gan y CThEM, yn cynnwys y tri mis hyd at fis Mai. Bydd y grantiau’n cael eu talu mewn un rhandaliad mawr i gynnwys y tri mis. Byddant yn dechrau cael eu talu ar ddechrau mis Mehefin. Ni ddylai unigolion gysylltu â CThEM nawr. Bydd CThEM yn defnyddio gwybodaeth sydd eisoes yn bodoli i wirio pwy sy’n gymwys a byddant yn croesawu ceisiadau pan fydd y cynllun ar waith.

Y rheini sy’n talu eu cyflog a’u difidendau

Nid yw’r rheini sy’n talu eu cyflog a’u difidendau drwy eu cwmnïau eu hunain yn gymwys i’r cynllun drwy’r cynllun uchod, ond byddan yn gymwys am eu cyflog drwy’r

Cynllun Cadw Swydd - Coronafeirws os ydynt yn gweithredu cynlluniau Talu wrth Ennill.

Cyn talu’r grantiau, bydd y bobl hunangyflogedig yn gallu cael mynediad at gymorth eraill gan y llywodraeth ar gyfer y rheini sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws, gan gynnwys credyd cynhwysol a benthyciadau parhad busnes hael os oes ganddynt gyfrif banc busnes.

I gael rhagor o wybodaeth am y Cynllun Cymorth Hunangyflogaeth dilynwch y ddolen hon: 

https://www.gov.uk/government/news/coronavirus-support-for-employees-benefit-claimants-and-businesses

Benthyciad Ymyrraeth i Fusnes

Mae’r Cynllun Benthyciad Ymyrraeth i Fusnes – Coronafeirws yn cefnogi ystod eang o gynnyrch ariannol busnes, gan gynnwys benthyciad tymor, gorddrafft, cyfleusterau cyllid asedau a chyllid anfoneb, a gall ddarparu hyd at £5m ar gyfer busnesau bach ar draws y DU sydd yn profi colli neu oedi mewn refeniw, a fydd yn effeithio eu llif arian. Gwefan CBILS yw’r ffynhonnell orau am y wybodaeth ddiweddaraf.

https://www.british-business-bank.co.uk/ourpartners/coronavirus-business-interruption-loan-scheme-cbils/

 

Cymorth CTHEM

Mae CTHEM wedi sefydlu llinell gymorth i gefnogi busnesau a phobl hunangyflogedig sydd yn pryderu ynghylch methu talu eu treth oherwydd y coronafeirws (COVID-19). I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

Cefnogaeth i fusnesau drwy ohirio taliadau TAW

Byddwn yn cefnogi busnesau drwy ohirio taliadau Treth ar Werth (TAW) am 3 mis.

Os ydych yn fusnes cofrestru at ddibenion TAW yn y DU, a gyda thaliad TAW i’w dalu rhwng 20 Mawrth 2020 a 30 Mehefin 2020, mae gennych yr opsiwn i: 

  • gohirio’r taliad tan ddyddiad diweddarach
  • talu’r TAW sy’n ddyledus fel yr arfer

Ewch i

https://www.gov.uk/guidance/deferral-of-vat-payments-due-to-coronavirus-covid-19 i ganfod sut i ohirio eich taliad TAW.

Os ydych mewn trallod ariannol dros dro oherwydd COVID-19, mae mwy o help ar gael gan Gynllun Amser i Dalu CThEM.

Cefnogaeth i fusnesau drwy ohirio taliadau Treth Incwm

Ar gyfer Hunanasesiad Treth Incwm, gellir gohirio taliadau sydd i’w talu ar 31 Gorffennaf 2020 tan 31 Ionawr 2021.

Rydych yn gymwys os ydych yn ddyledus i dalu eich ail daliad hunanasesiad ar eich cyfrif ar 31 Gorffennaf. Nid oes arnoch angen bod yn hunangyflogedig i fod yn gymwys am ohiriad.

Mae’r gohiriad yn ddewisol. Os ydych dal yn gallu talu eich ail daliad ar y cyfrif ar 31 Gorffennaf, dylech wneud hynny.

Sut i gael mynediad at y cynllun: Mae hwn yn gynnig awtomatig a nid oes angen gwneud ceisiadau. Ni fydd unrhyw gosbau na llog am daliadau hwyr yn cael eu rhoi os ydych yn gohirio’r taliad tan fis Ionawr 2021.

https://www.gov.uk/government/news/tax-helpline-to-support-businesses-affected-by-coronavirus-covid-19

Os oes gennych gyllid gan Fanc Datblygu Cymru

Mae Banc Datblygu Cymru yn cynnig gwyliau ad-dalu cyfalaf am dri mis i’w cwsmeriaid i helpu gyda llif arian fel mae’r Coronafeirws yn parhau i ddatblygu.

https://developmentbank.wales/coronavirus-support-welsh-businesses

Budd-dal Tai a Lleihad yn Nhreth y Cyngor

Os na allwch weithio oherwydd y pandemig Coronafeirws a bod eich aelwyd yn cael ei gyfrif yn un sydd ar incwm isel, gallwch hawlio gostyngiad Budd-dal Tai a Threth y Cyngor.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i 

https://www.flintshire.gov.uk/en/Resident/Council-Tax-and-Benefits-and-Grants/Benefits-News.aspx

Credyd Cynhwysol

Hefyd efallai bydd gennych hawl am Gredyd Cynhwysol yn ystod y cyfnod o ansicrwydd.  Mae hyn yn ddibynnol ar incwm eich aelwyd, ond gallwch wirio eich cymhwyster yma

https://www.gov.uk/how-to-claim-universal-credit

Yswiriant Masnachol

Mae'n annhebygol iawn y bydd y mwyafrif o bolisïau yswiriant yn cynnwys pandemigau neu glefydau hysbysadwy amhenodol, megis COVID-19.

Fodd bynnag, mae’r busnesau sydd â pholisi yswiriant sy’n cynnwys cau trefnedig gan y Llywodraeth a phandemigau, neu gau trefnedig y llywodraeth a chlefyd hysbysadwy amhenodol yn gallu gwneud hawliad (yn amodol ar delerau ac amodau eu polisi).

Mae polisïau yswiriant yn gwahaniaethu'n sylweddol, felly anogir busnesau i wirio eu telerau ac amodau eu polisi penodol a chysylltu â’u darparwyr.