Alert Section

Canolfannau Busnes Sir Fflint


 Mae Canolfannau Busnes Dyfrdwy a Maes Glas yn cynnwys 140 o swyddfeydd a gweithdai gwarchodol yn amrywio mewn maint o unedau bach i weithfeydd diwydiannol mawr. Mae’r Canolfannau wedi'u cynllunio i annog pobl i ddechrau busnesau newydd, datblygu twf a chynaliadwyedd trwy gefnogaeth hollol addas a chyfrinachol gan y gwasanaethau Datblygu Busnes ar y safle.

Mae Canolfannau Busnes Sir Fflint yn darparu cefnogaeth i’r Sir drwy Siop-Un-Stop sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor ynglŷn â  chefnogaeth arbenigol a TG i fusnesau sy’n bodoli eisoes a mentrau newydd sy’n dechrau. Rydym hefyd yn eu cyfeirio at wasanaethau'r Cyngor a phartneriaid priodol gan gynnwys ffynonellau cymorth ariannol, adrannau Diogelu’r Cyhoedd, Cynllunio, Caffael ac Iechyd yr Amgylchedd.

Mae gwasanaethau a chyfleusterau eraill y Canolfannau Busnes yn cynnwys:

  • Gwasanaeth busnes siop-un-stop
  • Swyddfeydd a gweithdai wedi eu rheoli
  • Telerau cytundeb i mewn-yn-hawdd allan-yn-hawdd
  • Costau a gwasanaeth rhentu cystadleuol
  • Gweithle o ansawdd o £50 y mis gyda chefnogaeth busnes llawn ar y safle
  • Gwasanaethau gweinyddiaeth a derbynfa
  • Amgylcheddau proffesiynol
  • Ystafell gyfarfodydd, hyfforddiant a chynadleddau bwrpasol
  • Cyfleusterau arlwyo ar y safle
  • Lleoliadau canolog
  • Digonedd o leoedd parcio gyda rhwydweithiau trafnidiaeth cyhoeddus yn ymyl
  • Cyfleusterau Swyddfa Pell
  • Cyfleusterau swyddfa rhithwir

Am wybodaeth bellach:

Ffôn: 01352 703055

E-bost: ValuationandEstates@siryfflint.gov.uk