Menter Gymdeithasol
Mae mentrau cymdeithasol yn gweithredu yn yr un ffordd â busnesau masnachol, drwy gystadlu yn y farchnad a chreu elw drwy fasnachu.
Fodd bynnag, mae’r elw a gynhyrchir gan gwmni masnachol yn mynd i’r perchnogion a’r budd-ddeiliaid, ond caiff yr elw a gynhyrchir gan fentrau cymdeithasol ar y llaw arall ei ddefnyddio i fynd i'r afael â materion cymdeithasol.
Bydd gan fenter gymdeithasol synnwyr clir o “bwrpas cymdeithasol,” hynny ydi y gwahaniaeth y mae’r fenter yn ceisio ei wneud, pwy mae’n anelu at eu helpu a sut mae’n bwriadu gwneud hynny.
Prawf Menter Gymdeithasol
Er mwyn bod yn gymwys fel menter gymdeithasol, mae’n rhaid i fusnes:
• Fod ag amcanion cymdeithasol a/neu amgylcheddol clir
• Cynhyrchu’r mwyafrif o’u hincwm drwy fasnachu
• Ail-fuddsoddi'r mwyafrif o'u helw yn ôl i'w hamcanion cymdeithasol
• Bod yn annibynnol ar y wladwriaeth
• Cael ei reoli i gyflawni ei genhadaeth gymdeithasol
• Bod yn atebol ac yn dryloyw
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo’n gadarn i’r angen am economi leol gryf a chadarn ac yn cydnabod cyfraniad Mentrau Cymdeithasol i’r gymuned.
Rydym yn awyddus i gefnogi Mentrau Cymdeithasol a darparu ystod gynhwysfawr o gymorth busnes, gan gynnwys:
Cynllunio Busnes
Rhagolygon ariannol
Nodi, datblygu a mabwysiadu strwythurau llywodraethu addas
Cofrestru Busnes
Paratoi ar gyfer buddsoddi
Cymorth tendro
Mentora tîm ac 1 i 1
Diagnosteg busnes
Ceisiadau am wobrau
Swyddog Arweiniol Datblygu Mentrau Cymdeithasol, Mike Dodd 07799 037683 neu ebost mike.dodd@flintshire.gov.uk
Astudiaethau Achos: