Cyngor ynghylch paratoi tendrau
Mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gwario dros £4 biliwn bob blwyddyn. Ond ar hyn o bryd, dim ond 35% o hyn a gaiff ei wario gyda busnesau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
Rydym yn cynnig cyngor arbenigol ar bob agwedd sy’n ymwneud â pharatoi tendrau gan gynnwys:
- cyngor un i un ar lunio tendrau
- gweithdai ‘Sut i Baratoi Tendrau’
- cyngor ynghylch sut i fynd at brynwyr yn y sector cyhoeddus
- cymorth i adolygu polisïau busnes er mwyn sicrhau bod unrhyw gais a gyflwynir yn un cystadleuol
- cysylltiadau rhagorol â swyddogion caffael ledled gogledd Cymru
- cymorth i adolygu’ch ceisiadau a chyngor agored a diduedd ynghylch beth i’w wneud nesaf.
Gallwn roi gwybodaeth gyfredol ichi am y farchnad leol a chyngor ymarferol ynghylch ble i chwilio am rybuddion ynghylch tendrau a chyfleoedd tendro sy’n iawn i’ch busnes chi. At hynny, gallwn roi awgrymiadau ynghylch sut y gallwch sicrhau bod eich busnes yn barod i baratoi tendrau.
Caiff y gwasanaeth hwn ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y Cynulliad ac mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Cysylltwch â ni os hoffech gael mwy o wybodaeth:
Ffôn: 01352 703055
E-bost: businessdev@flintshire.gov.uk