Alert Section

Sut mae Sir y Fflint yn Ymateb i Argyfwng


Caiff argyfwng ei ddiffinio fel digwyddiad neu sefyllfa sy'n bygwth niwed difrifol i les pobl mewn lle yn y Deyrnas Unedig, amgylchedd lle yn y Deyrnas Unedig, neu ryfel neu derfysgaeth sy'n bygwth niwed difrifol i ddiogelwch y Deyrnas Unedig. Er enghraifft, Llifogydd Towyn 1990, Llifogydd Llandudno 1993, Llifogydd Rhuthun/Yr Wyddgrug 2000, Tân Depo Olew Buncefield 2005, Argyfwng Tanwydd 2000, Bomiau yn Llundain mis Gorffennaf 2005, Clwy'r Traed a'r Genau 2001.Pan fydd digwyddiad, mae Sir y Fflint yn cydweithio gydag ymatebwyr fel Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Maent hefyd yn tynnu ar arbenigedd Asiantaethau Gwirfoddol, er enghraifft, Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched a Byddin yr Iachawdwriaeth.  Mae Heddlu Gogledd Cymru yn gyfrifol am gydlynu holl weithgareddau ymatebwyr yn ac o gwmpas y lle yn ystod argyfwng.

Os hoffech wybod mwy am Gynllunio rhag Argyfwng ar gyfer Awdurdodau Lleol yn Sir y Fflint, cysylltwch â:

Gwasanaeth Rhanbarthol i Gynllunio Rhag Argyfwng Cynghorau Gogledd Cymru

Gwasanaethau CorfforaetholCyngor Sir y Fflint

Neuadd y SirYr Wyddgrug

CH7 6NB

Ffôn: 01352 702124 neu 

cyflwyno ymholiad (bydd yn agor e-ffurflen)