Mae'r cynllun grantiau hwn yn rhan o thema flaenoriaeth allweddol 'Cymorth Busnes' Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae'r cynllun grantiau hwn yn rhan o thema flaenoriaeth allweddol 'Cymorth Busnes' Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam. Bydd hwn y rhan gyntaf o raglen Parth Buddsoddi Wrecsam a Sir y Fflint i'w lansio yn y ddau le ym mis Ionawr.
Beth yw pwrpas y cynllun grant hwn?
Bydd grantiau ar gael i gefnogi twf busnes busnesau bach a chanolig yn y sector Gweithgynhyrchu Uwch.
Mae'r grantiau yn cyd-fynd ag amcanion craidd Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam: £1 biliwn mewn buddsoddiad yn y sector preifat a chreu 6,000 o swyddi gwerth uchel dros 10 mlynedd yn y sector gweithgynhyrchu uwch ar gyfer y ddau ranbarth.
Faint fydd grantiau yn ei gynnig?
Bydd grantiau'n cynnig i fusnesau cymwys sy'n gwneud cais gyflymu twf gweithgynhyrchu: rhwng £5,000 a £100,000 fesul dyfarniad, gydag o leiaf 30% o arian cyfatebol yn cael ei dalu gan y busnes.
Beth all y grantiau ei gefnogi?
Gall busnesau bach a chanolig wneud cais am un, neu unrhyw gyfuniad, o'r grantiau canlynol (hyd at uchafswm o £100,000 ar gyfer pob elfen isod. Cyfanswm gwerth uchaf £300,000 dros 3 phrosiect):
Offer cyfalaf
Ar gyfer prynu offer i gefnogi neu wella gallu gweithgynhyrchu BBaCh.
Achredu ac ardystio
Ar gyfer prynu neu hyfforddi a/neu gymorth ymgynghori i fusnesau bach a chanolig gyflawni achrediad neu ardystiad er mwyn gwella mynediad at gyfleoedd cadwyn gyflenwi newydd gyda gweithgynhyrchwyr mwy a gwella trosiant a thwf busnes.
Addasu eiddo a datgarboneiddio
Ar gyfer prynu gwasanaethau ac addasiadau i adeiladau er mwyn i BBaCh newid weithrediadau mwy cynaliadwy.
Meini prawf cymhwysedd ymgeisydd
- Dim ond BBaCh (busnesau bach a chanolig) sydd yn gymwys i wneud cais.
Mae gwefan Llywodraeth y DU yn gosod meini prawf craidd BBaCh fel:
- cael llai na 250 o staff
- llai na neu gyfwerth â £44 miliwn mewn trosiant blynyddol neu gyfanswm mantolen sy'n llai na neu'n hafal i £38 miliwn.
- Mae’n rhaid i’r ymgeisydd fod yn fusnes gweithgynhyrchu ynddo’i hun - diffinnir gweithgynhyrchu fel "Proses o droi deunyddiau crai neu rannau yn nwyddau gorffenedig trwy ddefnyddio offer, llafur dynol, peiriannau a phrosesu cemegol".
- Rhaid i bob sefydliad sy'n ymgeisio fod â chyfeiriad busnes yn Sir y Fflint.
- Rhaid i bob buddsoddiad mewn offer a seilwaith, addasiadau eiddo, achrediad a chyngor a chymorth technegol fod yn berthnasol i safle busnes yn Sir y Fflint.
- Mae’n rhaid i bob busnes sy’n ymgeisio fod wedi bod yn masnachu ers o leiaf 12 mis.
- Rhaid i'r cwmni allu sicrhau'r modd (naill ai trwy ei gronfeydd ei hun neu gronfeydd eraill, fel benthyciad) i ariannu 100% o gostau'r prosiect i ddechrau.
Busnesau anghymwys
- Mae'r sectorau sydd wedi'u heithrio yn cynnwys: manwerthu, cadwyn gyflenwi (oni bai ei fod yn fusnes gweithgynhyrchu), logisteg, trafnidiaeth, dosbarthu a warysau.
- Ni ddyfernir grant i unrhyw fusnes sydd wedi bod mewn anghydfod â Chyngor Sir Flintshire (er enghraifft peidio â thalu ardrethi busnes, torri rheolau cynllunio, iechyd yr amgylchedd, rheoliadau iechyd a diogelwch) yn ystod y 5 mlynedd diwethaf.
Cynnyrch craidd allweddol
Bydd angen adrodd ar y canlynol i gael mynediad at gyllid grant:
- Creu swyddi newydd
- Gwerth y buddsoddiad yn y sector preifat
n dibynnu ar y prosiect/grant a ddyfarnwyd, efallai y bydd angen i'ch busnes hefyd adrodd ar:
- Fabwysiadu technolegau newydd
- Lleihau allyriadau carbon
- Gwell manylion gwyrdd
- Mwy o drosiant
- Mwy o gynhyrchiant
- Cynnyrch newydd i'r busnes
- Mynediad i farchnadoedd newydd (domestig neu ryngwladol)
- Gwella gofod masnachol
- Uned wag wedi'i llenwi
- Gwella arwynebedd y gofod buddsoddi (metr sgwâr)
Cyflwyno cais
Y cam cyntaf yw cysylltu ag investmentzone@flintshire.gov.uk i wneud cais am ffurflen Mynegi Diddordeb a’r Nodiadau Canllaw priodol a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cynllun a’r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau.
Ar ôl llenwi a dychwelyd eich ffurflen mynegi diddordeb, cewch eich cyflwyno i Dîm Datblygu Busnes CSyFf. Byddant yn trafod eich prosiect gyda chi, yn cynnig arweiniad llafar am p’un a ydych yn debygol o fod yn gymwys, a darparu’r ffurflen gais lawn.
Sylwer: Ni chaiff eich prosiect ei ariannu os yw wedi cychwyn cyn i’ch cais am grant gael ei gymeradwyo gan y panel grantiau a chyn i chi gael llythyr cadarnhau ffurfiol.
Am ba hyd bydd y cyllid grant ar gael?
Bydd £1 miliwn o gyllid grant ar gael bob blwyddyn 2025/26, 2026/27 a 2027/28 a bydd yn cael ei adolygu fel rhan o raglen 10 mlynedd y Parth Buddsoddi ar ôl y 3 blynedd gyntaf o gyflawni, i fonitro budd busnes a chynnyrch sy'n cyd-fynd ag amcanion craidd y Parth Buddsoddi.
Bydd ffenestri gwneud cais 2026/2027 a 2027/28 yn cael eu nodi yn nes ymlaen.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod eich cynnig, cysylltwch â'r awdurdod / awdurdodau lleol perthnasol.
Tîm Sir y Fflint: e-bost: investmentzone@flintshire.gov.uk