Hysbysiad Cyhoeddus O Ran Cyflwyno Cynllun Trwyddedu Ychwanegol Ar Gyfer Tai Amlfeddiannaeth Yn Sir Y Fflint
Cyhoeddir y dynodiad hwn yn unol ag Adrannau 56 i 60 o Ddeddf Tai 2004 a Rheoliad 9 o Reoliadau Trwyddedu a Rheoli Tai Amlfeddiannaeth a Thai Eraill (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2006 (“y Rheoliadau”).
Rhoddir rhybudd drwy hyn bod Cyngor Sir y Fflint, ar 14 Hydref 2025, wedi dynodi cynllun Trwyddedu Ychwanegol o ran Tai Amlfeddiannaeth, sy’n gweithredu’n unol â’r Rheoliadau ac sy’n berthnasol i’r Sir gyfan.
Gelwir y dynodiad yn “Gynllun Trwyddedu Ychwanegol Cyngor Sir y Fflint (Tai Amlfeddiannaeth) 2026” (“Y Cynllun”).
Mae gan y cynllun Gymeradwyaeth Gyffredinol Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Tai 2004 (Cynllun Trwyddedu Ychwanegol Tai Amlfeddiannaeth) (Cymru) - Cymeradwyaeth Gyffredinol 2007, a ddaeth i rym ar 13 Mawrth 2007. Felly, yn rhinwedd isadrannau (1)(b) a (7) Adran 58, nid oes angen cadarnhau’r dynodiad a bydd yn dod i rym ar ddyddiad a nodir yn y Dynodiad.
Bydd y Cynllun yn cyd-fynd â Chynllun Trwyddedu Gorfodol Tai Amlfeddiannaeth yr Awdurdod Lleol a ddaeth i rym ar 30 Mehefin 2006. Bydd y Cynllun yn dod i rym o 1 Ebrill 2026 ac os na chaiff ei ddirymu neu ei ymestyn cyn hynny, bydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2031.
Mae’r Cynllun yn berthnasol i bob Tŷ Amlfeddiannaeth yn Sir y Fflint, ac eithrio’r rhai sydd wedi’u heithrio dan adrannau perthnasol Deddf Tai 2004 a’r rhai sydd eisoes wedi’u trwyddedu dan y Cynllun Trwyddedu Gorfodol Tai Amlfeddiannaeth.
Mae’r Cynllun yn cynnwys eiddo sy’n bodloni’r holl feini prawf, yn unrhyw un o’r ddau gategori canlynol:
- Unrhyw fath o Dŷ Amlfeddiannaeth fel y’i diffinnir gan Adran 254 Deddf Tai 2004 nad yw’n dod o fewn y cynllun trwyddedu gorfodol, sydd â thri neu fwy o bobl yn byw ynddo sy’n ffurfio dwy aelwyd neu fwy.
- Tai Amlfeddiannaeth a ddiffinnir dan Adran 257 Deddf Tai 2004; Tai Amlfeddiannaeth a grëwyd drwy drosi adeiladau yn fflatiau, ond nad ydynt yn bodloni Rheoliadau Adeiladu 1991, ac felly heb eu gwella i fodloni’r safonau perthnasol.
Bydd yn rhaid i bob landlord sy’n berchen ar eiddo sy’n dod o dan unrhyw un o’r meini prawf uchod wneud cais am drwydded a dylent gael cyngor gan yr Awdurdod Lleol am Drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth. Bydd Ffioedd ac Amodau’n berthnasol dan y Cynllun.
Mae methu â gwneud cais am drwydded pan fo angen un yn drosedd dan Adran 72 Deddf Tai 2004. Mae rhywun sy’n troseddu yn destun ar gollfarn ddiannod i ddirwy ddiderfyn (oedd cyn hyn hyd at £20,000). Hefyd, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i’r unigolyn hwnnw ad-dalu hyd at 12 mis o rent a gasglwyd yn ystod yr amser y bu’r eiddo heb drwydded.
Er mwyn i gais gael ei ystyried, rhaid darparu manylion rhagnodedig a rhaid cynnwys y ffi drwyddedu, fydd yn cael ei chyhoeddi’n briodol.
Gellir gofyn am Ffurflenni Cais gan:
Y Gwasanaeth Diogelu Busnes a’r Gymuned,
(Safonau Tai),
Lle a Thwf,
Cyngor Sir y Fflint,
Tŷ Dewi Sant,
Parc Dewi Sant, Ewlo,
Sir y Fflint,
CH5 3FF
Rhif Ffôn: 01352 703440
E-bost ppadmin@flintshire.gov.uk