Alert Section

Trwydded safle garafánau a gwersylla


Crynodeb o’r drwydded 

Mae angen trwydded gan yr awdurdod lleol arnoch chi i weithredu safle carafánau a gwersylla. 

Gellir rhoi amodau ar y drwydded yn ymwneud ag unrhyw un o’r isod:

  • Cyfyngu pryd y gall carafánau fod ar y safle i bobl breswylio ynddyn nhw neu gyfyngu ar nifer y carafánau a all fod ar y safle ar unrhyw un adeg 
  • Rheoli’r mathau o garafánau ar y safle  
  • Rheoli lle y lleolir y carafánau neu reoli’r defnydd o strwythurau eraill a cherbydau, yn cynnwys pebyll 
  • Sicrhau cyflwyno camau i wella golwg y tir, yn cynnwys plannu/ailblannu coed a llwyni 
  • Mesurau diogelwch tân ac ymladd tân  
  • Sicrhau bod cyfleusterau toiledau a chyfleusterau, gwasanaethau ac offer eraill yn cael eu darparu a’u cynnal a’u cadw. 

Meini prawf cymhwysedd 

Rhaid i’r ymgeisydd fod â’r hawl i ddefnyddio’r tir fel maes carafánau. 

Ni roir trwydded i ymgeiswyr y cafodd trwydded safle carafánau o’r fath ei diddymu oddi arnynt o fewn tair blynedd i’r cais cyfredol. 

Crynodeb o’r rheoliadau 

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd)

Proses gwerthuso cais 

Cyflwynir cais am drwydded safle i’r awdurdod lleol lle saif y tir. 

Rhaid i geisiadau fod yn ysgrifenedig, a dylai nodi’r darn tir mae’r cais yn berthnasol iddo ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod lleol.  

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 

Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 

Ffioedd

Nid oes ffi ar gyfer y cais hwn.

Gwneud cais ar-lein

Cais am safle garafánau a gwersylla (ffenestr newydd)

Cais i newid trwydded safle garafánau a gwersylla (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Fe’ch cynghorir i drafod unrhyw broblem â’r awdurdod lleol yn gyntaf. 

Os gwrthodir cais deilydd trwydded i newid amod yna gall gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol.  Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o dderbyn hysbysiad ysgrifenedig o wrthod y cais a rhaid cyflwyno hysbysiad o’r apêl i’r awdurdod lleol. 

Gwneud iawn i’r deilydd trwydded 

Fe’ch cynghorir i drafod unrhyw broblem â’r awdurdod lleol yn gyntaf. 

Os ydy deilydd trwydded yn dymuno apelio yn erbyn amod ynghlwm â thrwydded caiff gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol.  Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o gyflwyno’r drwydded. 

Gall yr awdurdod lleol addasu’r amodau ar unrhyw adeg, ond rhaid rhoi cyfle i ddeilydd y drwydded gyflwyno sylwadau am y newidiadau arfaethedig.  Os ydy deilydd trwydded yn anghytuno â’r newidiadau yna caiff gyflwyno apêl i’r llys ynadon lleol.  Rhaid cyflwyno’r apêl cyn pen 28 diwrnod o dderbyn hysbysiad ysgrifenedig am y newid, a rhaid cyflwyno hysbysiad o’r apêl i’r awdurdod lleol. 

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Manylion cyswllt

Rheoli Amgylcheddol, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703440

Cymdeithasau/mudiadau’r diwydiant 

Association of Caravan and Camping Exempted Organisations (ACCEO) (ffenestr newydd)

British Holiday & Home Parks Association (BH&HPA) (ffenestr newydd)

Federation of Tour Operators (FTO) (ffenestr newydd)

Hotel Marketing Association (ffenestr newydd)

National Caravan Council (NCC) (ffenestr newydd)

Mewn partneriaeth â EUGO