Alert Section

Credyd i ddefnyddwyr trwydded


O dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974 mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o fusnesau sy’n cynnig credyd neu’n benthyca arian i ddefnyddwyr, neu sy’n caniatáu amser i ddefnyddwyr dalu am nwyddau a gwasanaethau, fod â thrwydded Swyddfa Drwyddedu Credyd Defnyddwyr y Swyddfa Masnach Deg.

Rhaid i’r mathau canlynol o fusnesau fod â thrwydded Swyddfa Masnach Deg:

  • Credyd i ddefnyddwyr
  • Hurio i ddefnyddwyr
  • Addasu debyd a chynghori ar ddebyd
  • Casglu dyledion
  • Asiantaethau cyfeirio credyd
  • Canfasio credyd o adeiladau masnach.

Am fwy o wybodaeth am drwyddedau credyd, i ddarganfod p'un a oes angen trwydded ar eich busnesu neu i wneud cais am drwydded credyd neu i adnewyddu un, ewch i Financial Conduct Authority

Bydd Gwasanaeth Safonau Masnachu Sir y Fflint yn cynghori unrhyw fusnesau yn Sir y Fflint am bob agwedd ar y Ddeddf Credyd Defnyddwyr a'r rheoliadau hysbysebu credyd.  Os oes angen cyngor arnoch chi a'ch busnes am gredyd, cysylltwch â ni.

Cysylltwch â ni:

Cyngor ar bopeth (ffenestr newydd)

Ffôn: 01352 703181 (Ymholiadau busnes a materion eraill)

Ffacs: 01352 703192

E-bost: safonau.masnach@siryfflint.gov.uk

Ysgrifennwch at: Gwasanaeth Safonau Masnach, Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF

Ewch i: Fynedfa 3, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug

Oriau agor ein swyddfa yw 8.30am - 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener