Alert Section

Hysbysiad tŵr oeri


Crynodeb y drwydded  

Os ydych chi’n rheoli safle annomestig mae’n rhaid i chi wneud yn siwr eich bod yn hysbysu’r awdurdod lleol, neu’r cyngor dosbarth/ynys yn yr Alban, am unrhyw dŵr oeri neu gyddwysydd anweddu (dyfeisiau hysbysadwy) ar y safle.  

Rhaid i’r hysbysiad fod yn ysgrifenedig (mae defnyddio dull electronig yn dderbyniol) ar ffurflen wedi’i chymeradwyo gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. 

Mae’n rhaid i chi hysbysu’r awdurdod lleol neu’r cyngor dosbarth/ynys am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth yn yr hysbysiad yn ysgrifenedig cyn pen mis i’r newid ddigwydd.

Os yw’r ddyfais yn peidio â bod yn ddyfais hysbysadwy mae’n rhaid i chi hysbysu’r awdurdod lleol neu’r cyngor dosbarth/ynys yn ysgrifenedig gynted ag y bo modd. 

Crynodeb o’r rheoliadau 

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd) (Rheoliadau Hysbysu am Dyrau Oeri a Chyddwysyddion Anweddu 1992)

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 

Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 

Ffioedd

Nid oes ffi ar gyfer y cais hwn.

Gwneud cais ar-lein 

Hysbysiad am dŵr oeri a/neu gyddwysydd anweddu (ffenestr newydd) 

Cais i newid hysbysiad am dŵr oeri (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gwneud iawn i’r deilydd trwydded 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Manylion cyswllt

Adran Iechyd a Diogelwch, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703381