Alert Section

Cofrestru safle bwyd


Crynodeb o’r drwydded

Mae’n rhaid i chi gael eich cofrestru â’r awdurdod lleol er mwyn storio, paratoi, dosbarthu neu werthu bwyd o fangre.  Mae’r mangreoedd yn cynnwys bwytai, caffis, gwestai, siopau, ffreuturoedd, stondinau marchnad, faniau arlwyo symudol a faniau danfon bwydydd. 

Mae’n bosibl y bydd rhaid i rai gweithgynhyrchwyr sy’n trin cynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol neu’r Asiantaeth Safonau Bwyd, yn hytrach na chael eu cofrestru.  Os nad ydych chi’n siwr a oes angen i’ch busnes chi gael ei gofrestru neu ei gymeradwyo – holwch eich awdurdod lleol. 

Crynodeb o’r rheoliadau 

Crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd)

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol? 

Bydd.  Mae hyn yn golygu y cewch chi weithredu fel petai eich cais wedi bod yn llwyddiannus os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod prosesu’r cais. 

Ffioedd

Nid oes ffi ar gyfer y cais hwn.

Gwneud cais ar-lein 

Cofrestru sefydliad busnes bwyd (ffenestr newydd)

Cais i newid cofrestriad safle bwyd (ffenestr newydd)

Gwneud iawn am gais a fethodd 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gwneud iawn i’r deilydd trwydded 

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Cwyn gan ddefnyddiwr 

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar Bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Manylion cyswllt

Diogelwch Bwyd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NF

Rhif ffôn: 01352 703386

Cymdeithasau/mudiadau’r diwydiant 

Chilled Food Association (ffenestr newydd)

National Federation of Meat and Food Traders (ffenestr newydd)

Mewn partneriaeth â EUGO