Safle hapchwarae trwydded
YMGYNGHORIAD – DATGANIAD POLISI GAMBLO
Mae Cyngor Sir y Fflint yn adolygu eu Polisi Gamblo presennol. Rhaid adolygu’r Polisi bob tair blynedd.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal a fydd yn ceisio barn preswylwyr lleol, busnesau, deiliaid trwydded presennol a’u cynrychiolwyr am y polisi newydd. Yn dilyn yr ymgynghoriad, caiff adroddiad ei gwblhau a chaiff y Polisi ei ystyried i’w gymeradwyo gan Aelodau Cyngor Sir y Fflint.
Rydym yn annog unrhyw adborth adeiladol er mwyn i’r Polisi Drafft gael ei ystyried ac i ddiwygiadau gael eu gwneud lle bo’n briodol.
Yr amcanion allweddol yw:
- Atal gamblo rhag bod yn ffynhonnell o drosedd ac anhrefn
- Galluogi gamblo i gael ei wneud mewn ffordd deg ac agored
- Diogelu plant a phobl ddiamddiffyn eraill rhag gamblo.
Anfonwch unrhyw sylwadau at licensing@flintshire.gov.uk cyn dydd Llun 19 Tachwedd 2018.
Neu gallwch anfon eich sylwadau yn ysgrifenedig at:
Gemma Potter
Arweinydd Tîm – Trwyddedu a Rheoli Plâu
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NR
Deddf Hapchwarae 2005
Ar y 7fed o Ebrill 2005 cafodd Deddf Hapchwarae 2005 Gydsyniad Brenhinol sy’n golygu bod cynigion y Llywodraeth ar gyfer diwygio’r gyfraith ar hapchwarae wedi dod i rym. Crëwyd y Comisiwn Hapchwarae o dan y Ddeddf, a chyflwynwyd cyfundrefn drwyddedu newydd ar gyfer hapchwarae masnachol. Mae rhagor o wybodaeth am Ddeddf Hapchwarae 2005 ar gael ar wefan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (ffenestr newydd).
Y Comisiwn yn gyfrifol am ganiatáu trwyddedau gweithredu a thrwyddedau personol ar gyfer gweithredwyr hapchwarae masnachol a gweithwyr sy’n gweithio yn y diwydiant. Yng Nghymru a Lloegr, bydd awdurdodau lleol hefyd yn gyfrifol am nifer o swyddogaethau rheoleiddio o ran hapchwarae.
Ymhlith y swyddogaethau hyn mae'r canlynol:
- trwyddedu adeiladau ar gyfer gweithgareddau hapchwarae;
- ystyried hysbysiadau a roddwyd i ddefnyddio adeiladau, a hynny dros-dro, ar gyfer hapchwarae;
- rhoi hawlenni ar gyfer hapchwarae a pheiriannau hapchwarae mewn clybiau a sefydliadau lles glowyr;
- rheoleiddio hapchwarae a pheiriannau hapchwarae mewn adeiladau a drwyddedwyd i werthu alcohol;
- caniatáu hawlenni i ganolfannau adloniant teulu ddefnyddio rhai peiriannau hapchwarae graddfa is;
- caniatáu hawlenni ar gyfer hapchwarae i ennill rhodd;
- ystyried hysbysiadau hapchwarae yn achlysurol ar draciau; a
- chofrestru loterïau cymdeithasau bach.
Mae’r Ddeddf yn cynnwys tri o amcanion trwyddedu sy’n sail i’r swyddogaethau y bydd y Comisiwn a’r awdurdodau trwyddedu yn eu cyflawni. Mae’r amcanion hyn yn ganolog i’r gyfundrefn newydd o reoleiddio a grëwyd gan y Ddeddf. Yr amcanion hyn yw:
- atal hapchwarae rhag bod yn ffynhonnell troseddu neu anrhefn, rhag cael ei gysylltu â throseddu ac anrhefn, a rhag cael ei ddefnyddio i gynorthwyo troseddu;
- sicrhau bod hapchwarae’n digwydd mewn modd teg ac agored; a
- diogelu plant ac eraill sy’n agored i niwed rhag cael eu niweidio neu gael eu cam-fanteisio gan hapchwarae.
Datganiad o Bolisi Trwyddedu
Mae’n ofynnol i’r awdurdod trwyddedu baratoi ‘Datganiad o Bolisi Trwyddedu’ bob tair blynedd sydd â’r tri o amcanion trwyddedu yn ganolog iddo.
Deddf Hapchwarae 2005 - Datganiad Polisi Trwyddedu (Ionawr 2010) (PDF 432KB ffenestr newydd)
Gwneud cais
Ffioedd y Ddeddf Hapchwarae 2005 (PDF 14KB ffenestr newydd)
I gael gwybod sut i wneud cais, cysylltwch â:I gael gwybod sut i wneud cais, cysylltwch â:
Yr Adain Drwyddedu, Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd, Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NH
Ffôn: 01352 703030
E-bost: trwyddedu@siryfflint.gov.uk
(Byddai o gymorth i ni pe baech yn cynnwys eich enw, cyfeiriad a'ch rhif ffôn ar unrhyw ohebiaeth.)