Alert Section

Hawlen sgip


Crynodeb o’r drwydded

Os ydych chi’n dymuno rhoi sgip ar briffordd wedi’i mabwysiadu (y ffordd ynghyd ag unrhyw ardal glaswellt neu balmant) mae’n ofynnol cael trwydded.  Y cwmni sy’n gosod y rhwystr ar y briffordd sy’n gyfrifol am drefnu hawlen gan Gyngor Sir y Fflint (codir tâl am gyflwyno hawlen). 

Pam bod angen hawlen?

Mae’n ofynnol cael hawlen er mwyn sicrhau bod y sgip yn cael ei leoli fel nad yw’n peryglu diogelwch defnyddwyr y briffordd, blocio mynediad i eiddo neu offer yn y ffordd, lleihau lled y briffordd i raddau annerbyniol neu gyfyngu gwelededd mewn cyffyrdd, mynedfeydd a mannau croesi.  Ni ddylai sgipiau wedi’u gosod ar y briffordd atal nag ymyrryd â draenio’r stryd nac unrhyw offer sy’n eiddo i’r cwmnïau cyfleustodau cyhoeddus. 

Nid oes angen hawlen os ydy’r sgip yn cael ei leoli ar dir preifat. 

Meini prawf cymhwysedd

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

  • Rhaid i weithredydd y sgipiau fod wedi’i gofrestru â’r Awdurdod, a bod yn gludwr gwastraff cofrestredig. Os nad ydych chi wedi cofrestru eisoes ewch i’r dudalen gweithredydd sgipiau trwydded.
  • Dim ond ar ôl cael eich cadarnhau fel gweithredydd sgipiau cofrestredig y cewch chi wneud cais am hawlen sgip. 
  • Mae’n rhaid i chi wneud cais am hawlen ar wahân ar gyfer pob lleoliad.
  • Gellir rhoi caniatâd yn amodol ar yr amodau a ddisgrifir isod. 

Crynodeb o’r rheoliadau – pa amodau a thelerau sy’n berthnasol i hawlenni? 

Os nad yw’n bosibl osgoi defnyddio’r briffordd gyhoeddus, dylid gosod y sgip ar y ffordd yn hytrach nag ar y llwybr troed.  Mae rhwystrau o’r fath ar y ffordd, neu ar y ffordd yn rhannol, yn ddarostyngedig i amodau penodol sy’n sicrhau bod rhaid darparu marciau a goleuadau digonol.  Darperir rhagor o wybodaeth am yr amodau hyn yn y ffurflenni cais isod, a bydd unrhyw amodau ychwanegol wedi’u nodi ar yr hawlen ei hun. 

Gweld crynodeb o’r rheoliadau sy’n berthnasol i’r drwydded hon (ffenestr newydd) (Deddf Priffyrdd 1980) 

Ar ôl cofrestru mae’n rhaid i’r cwmni wneud cais am hawlen unigol ar gyfer pob lleoliad.  Rhaid i bob rhwystr gydymffurfio â’r amodau a thelerau (fel yr esbonir uchod) ac unrhyw amodau ychwanegol wedi’u nodi ar yr hawlen ei hun. 

Proses Gwerthuso Cais

Dim darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

Ar ôl i’r cydlynydd ardal perthnasol dderbyn y cais bydd yn archwilio’r safle ac os yw’n addas cyflwynir hawlen a anfonir i’r cwmni.  

Ystyrir pob achos yn ôl ei rinweddau ei hun, a gellid cynnwys amodau sy’n benodol i’r safle er mwyn sicrhau diogelwch. 

Fe wnawn ni gyflwyno hawlenni i ymgeiswyr sy’n meddu ar yr yswiriant atebolrwydd cyhoeddus o £5,000,000 sy’n ofynnol.  Felly mae’n rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno copi o’u manylion adnewyddu yswiriant o leiaf 5 diwrnod cyn dyddiad darfod y polisi.  Bydd methu â darparu dogfennau i ddangos yswiriant atebolrwydd cyhoeddus dilys yn arwain at beidio â rhoi hawlenni i’r cwmni. 

Rhaid i gwmnïau wneud cais / adnewyddu eu hawlen o leiaf 2 ddiwrnod gwaith (48 awr) cyn dyddiad dechrau’r hawlen. 

Ffioedd a thalu

Bydd trwyddedau yn costio £60 am yr wythnos gyntaf, a £25 arall am wythnosau dilynol.   Bydd trwyddedau yn cael eu cyflwyno am fwyafswm o 3 mis.  

Noder: Os ydy contractwyr yr Awdurdod yn cael eu galw i oleuo’r safle neu wneud y safle yn ddiogel, codir tâl am hynny.  Gallant adfer unrhyw dreuliau rhesymol i dalu am unrhyw ddifrod a achoswyd hefyd. 

Ffurflen gais

Cais i osod sgip ar ffordd neu briffordd gyhoeddus (PDF 27Kb ffenestr newydd)

Cais i ymestyn hawlen sgip (Cysylltu â ni: 01244 550213)

A fydd cydsyniad mud yn berthnasol?

Na fydd.  Er budd y cyhoedd mae’n rhaid i’r awdurdod brosesu eich cais cyn y gellir rhoi trwydded.  Os nad ydych chi wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol ymhen cyfnod rhesymol, cysylltwch â’r adran berthnasol.  Cewch wneud hyn ar-lein os gwnaethoch chi gyflwyno eich cais trwy’r gwasanaeth UK Welcomes (ffenestr newydd) neu defnyddiwch y manylion cyswllt isod. 

Gwneud iawn am gais a fethodd

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Gwneud iawn i’r Deilydd Trwydded

Cysylltwch â’ch Awdurdod Lleol fel man cychwyn.

Cwyn gan ddefnyddiwr

Byddem bob amser yn eich cynghori, os oes gennych chi unrhyw fater rydych chi am gwyno amdano, y dylech chi gysylltu â’r masnachwr yn gyntaf – trwy lythyr (gyda phrawf cyflwyno’r llythyr) yn fwyaf dymunol.  Os nad ydy hynny wedi gweithio, ac os ydych chi yn y Deyrnas Unedig, fe gewch chi gyngor gan Cyngor ar Bopeth (ffenestr newydd). Os ydych chi y tu allan i’r Deyrnas Unedig cysylltwch â’r rhwydwaith Canolfannau Defnyddwyr Ewropeaidd - UK European Consumer Centre (ffenestr newydd).

Gwneud iawn mewn achosion eraill

Beth os ydy sgip wedi’i leoli fel ei fod yn achosi rhwystr, heb hawlen? 

Gall unrhyw un sy’n gweithredu heb hawlen, neu’n groes i amodau’r hawlen, wynebu camau gweithredu gorfodaeth dan Ddeddf Priffyrdd 1980.  Mae gan Gyngor Sir y Fflint yr awdurdod i gael gwared o unrhyw rwystr a osodwyd ar y briffordd heb hawlen ac adfer y costau ynghlwm â hynny.   

Os ydych chi’n credu bod rhywun yn gweithredu heb hawlen, neu’n torri amodau’r hawlen, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. 

Manylion cyswllt

Gwasanaethau Stryd, Depo Alltami, Ffordd yr Wyddgrug, Alltami, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint CH7 6LG

Rhif ffôn: 01352 701234

E-bost: gwasanaethaustryd@siryfflint.gov.uk

Cymdeithasau / Mudiadau’r Diwydiant

Builders Merchants Federation (BMF) (ffenestr newydd)

National Federation of Demolition Contractors (NFDC) (ffenestr newydd)

National Federation of Builders (NFB) (ffenestr newydd

Mewn partneriaeth â EUGO