Noddi Cylchfannau
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cyflwyno cynllun noddi cylchfannau. Bwriad y cynllun hwn yw:
- gwella ansawdd yr amgylchedd trwy wella gwedd cylchfannau;
- gwella delwedd y Sir fel lleoliad bywiog, o safon ar gyfer busnes; a
- hyrwyddo’r ystod o fusnesau o safon sydd eisoes wedi’u lleoli yma.
Bydd cwmnïau’n gallu noddi cylchfan yn y Sir a gweld eu cwmni’n cael ei hyrwyddo yn y lleoliadau hynod weledol hyn o ganlyniad.
Byddant yn gallu hyrwyddo enw, logo a gwefan eu cwmni a thynnu sylw at eu gwasanaeth neu eu cynnyrch penodol ar un o’n cylchfannau. Mae nifer o leoliadau ar draws Sir y Fflint i gwmnïau ddewis o’u plith. Bydd arian nawdd yn mynd tuag at gynnal a chadw a datblygu cylchfannau a gwaith adfywio ehangach a fydd yn cael effaith sylweddol ar yr ardal.
Pa gylchfannau sy’n gallu cael eu noddi?
Nid oes modd noddi pob cylchfan yn Sir y Fflint. Mae rhesymau technegol yn atal nifer bach rhag cael eu cynnwys yn y cynllun. Mae’r cylchfannau sydd ar gael i’w gweld ar y map ategol.
Mae cylchfannau ar gael ar draws y Sir ac mae nifer ohonynt wedi’u lleoli ar rai o’r ffyrdd prysuraf a mwyaf amlwg.
Beth sydd ynghlwm â noddi?
Mae Cyngor Sir y Fflint yn ceisio cael y canlyniadau gorau i’r Sir o ran gwella’r amgylchedd a’i delwedd. Mae rhai cylchfannau’n fach, gyda chanol glaswellt yn unig. Fflint eisiau gweithio gyda’r gymuned fusnes i ddod â chymaint o gylchfannau â phosib’ i’r cynllun noddi, gan wella eu gwedd lle bo modd.
Wrth noddi, bydd cwmnïau’n cyfrannu at wella a chynnal a chadw cylchfannau yn y Sir. Bydd arwyddion yn cael eu gosod ar gylchfannau wedi’u noddi i gydnabod cyfraniad y cwmni ac er mwyn i’r cwmni allu gwella eu proffil yn lleol.
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn hyrwyddo’r cynllun noddi cylchfannau yn y wasg leol er mwyn tynnu sylw at y cwmnïau ymhellach.
Sut mae cwmnïau’n cymryd rhan?
Mae Cyngor Sir y Fflint yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb gan gwmnïau a fyddai â diddordeb mewn noddi cylchfan. Mae ffurflen syml ar gael y gall cwmnïau ei dychwelyd i Gyngor Sir y Fflint os hoffent noddi cylchfannau penodol. Nid yw’r ffurflen hon yn rhwymo’r cwmni i ddim ar y cam hwn.
Cytunir ar noddwyr i gylchfannau ar sail y cyntaf i’r felin.
Costau noddi
Mae’r gwahanol gylchfannau yn Sir y Fflint wedi’u rhoi mewn dau grŵp (A a B) i gyd-fynd â’u lleoliad a llif y traffig. Mae costau pecyn noddi sylfaenol ar gyfer pob band i’w gweld isod:
- Band A - £2958.43 y flwyddyn
- Band B - £2958.43 y flwyddyn
Mae’r pecyn sylfaenol hwn yn cynnwys costau dylunio a gosod arwyddion ar y gylchfan i gydnabod y cwmni sy’n darparu’r nawdd ac mae’n cynnwys costau cynnal a chadw’r arwyddion hynny.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cadw’r hawl i dynnu’r arwyddion a’r nodweddion tirlunio os bydd hynny’n angenrheidiol at ddibenion gweithredol.
Gwybodaeth bellach
Os hoffech chi fwy o wybodaeth am y cynllun noddi cylchfannau, cysylltwch â Peter Hayes ar 07919 166279.
Dewis cwmnïau
- Wedi’i atodi mae map i ddangos lleoliadau cylchfannau. Mae’r cylchfannau sydd ar gael i’w noddi wedi’u lliwio’n las ac wedi’u nodi â rhif.
- Bwriad Cyngor Sir y Fflint yw i un yn unig noddi cylchfan ar un adeg.
- Bydd cylchfannau’n cael eu noddi gan y cyntaf i’r felin.
- Os bydd cwmni’n aflwyddiannus wrth gael eu dewis i noddi cylchfan, bydd eu manylion yn cael eu cadw rhag ofn y bydd cylchfan benodol ar gael yn y dyfodol.
- Mae Cyngor Sir y Fflint yn cadw’r hawl i gadw’r cylchfannau rhag cael eu noddi os na ellir dod i gytundeb gyda chwmni sydd â diddordeb.
- Mae Cyngor Sir y Fflint hefyd yn cadw’r hawl i dynnu cylchfannau o’r cynllun os bydd hynny’n angenrheidiol yn nes ymlaen. Bydd cwmnïau’n gallu noddi cylchfan yn y Sir a gweld eu cwmni’n cael ei hyrwyddo yn y lleoliadau hynod weledol hyn o ganlyniad.
Ni fydd y cytundeb noddi’n rhwymo unrhyw ochr nes bod y ddwy ochr wedi cytuno ar gontract a’i lofnodi.
Bydd noddwyr cylchfannau’n cael eu cydnabod yn neunydd cyhoeddusrwydd Cyngor Sir y Fflint am y cynllun ac ar wefan y Cyngor.
Yn rhan o’r cynllun noddi, bydd arwyddion yn cael eu gosod ar y cylchfannau gan y Cyngor Sir i gydnabod cyfraniad y cwmni. Bydd yr arwyddion hyn yn cael eu dylunio’n debyg i fanyleb arwyddion yr Adran Briffyrdd a bydd modd rhoi logo ac enw’r cwmni ac ychydig eiriau arnynt. Bydd angen cymeradwyaeth gan Gyngor Sir y Fflint i ddelweddau a geiriau ar arwyddion.
Bydd set lawn o amodau a thelerau ar gyfer y cynllun noddi cylchfannau yn rhan o’r contract rhwng y noddwr a’r Cyngor. Mae’r prif delerau allweddol yn cynnwys:
- Bydd yr holl waith ar gylchfannau sy’n cael eu noddi’n dibynnu ar gael Caniatâd Cynllunio gan y Cyngor ymlaen llaw.
- Pe ceir bod unrhyw arwydd ar gylchfan neu nodwedd tirlunio wedi cyfrannu at wrthdrawiad ar y ffordd, gallai’r nodweddion gael eu tynnu a’r contract noddi ddod i ben ar gyfer y gylchfan honno.
- Er mwyn rhoi cyfle teg i fusnesau, mae Cyngor Sir y Fflint yn cadw’r hawl i gyfyngu ar nifer y cylchfannau y gall un cwmni eu noddi.