Sut i ymgeisio a’r dyddiadau allweddol
Mae ymgeisio am Grant Gwella Eiddo Canol Trefi yn syml. Mae dau gam i’r broses: Datganiad byr o Ddiddordeb ac wedi hynny Cais Llawn ar gyfer y rhai hynny a gaiff wahoddiad i barhau.
Rydym yn cefnogi pob ymgeisydd drwy gydol y broses — ni fyddwch yn mynd trwy’r broses ar eich pen eich hun. Bydd ein tîm yn darparu arweiniad personol unwaith y byddwch wedi eich gwahodd i ymgeisio.
Yr amserlenni a ddangosir yw’r hyn rydym yn anelu i’w gyflawni. Yn ystod y cyfnodau brig neu pan fo nifer y ceisiadau’n uchel gall rhai camau gymryd ychydig mwy o amser. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw oedi bob amser.
Sut mae’r broses yn gweithio?
Derbyn y wybodaeth ddiweddaraf 2 funud
Cofrestrwch eich manylion cyswllt i gael gwybod pan ddaw’r cyllid ar gael ar gyfer ceisiadau. Nid oes angen unrhyw ymrwymiad ar y cam hwn.
Cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb 15–20 munud
Cwblhewch y ffurflen Datganiad o Ddiddordeb ar-lein gyda manylion eich prosiect. Trosolwg byr, lefel uchel o’ch cynnig yw hwn — nid Cais Llawn.
Adborth Pythefnos*
Bydd eich Datganiad o Ddiddordeb yn cael ei asesu ar gyfer cymhwysedd a sut mae’n cyweddu yn strategol. Byddwn yn cysylltu â chi gyda’r canlyniad. Os yw’n llwyddiannus fe fyddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno Cais Llawn.
* Yn ystod cyfnodau brig (fel arfer o fis Ebrill i fis Mehefin), gall yr amserlenni hyn gael eu hymestyn. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd ac fe fyddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi bob amser.
Cais Llawn 2–4 wythnos
Cyflwynwch eich pecyn Cais Llawn erbyn y dyddiad cau a ddewiswyd ar gyfer y cais. Fe gewch gynnig arweiniad personol gan y Tîm Adfywio drwy gydol y cam hwn.
Y Panel 6–8 wythnos*
Bydd eich Cais Llawn yn cael ei gyflwyno i’r Panel Adfywio ar gyfer asesiad a phenderfyniad. Bydd eich swyddog cefnogi yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn ymwneud â chynnydd a’r amserlen.
* Yn ystod cyfnodau brig (fel arfer o fis Ebrill i fis Mehefin), gall yr amserlenni hyn gael eu hymestyn. Rydym yn gwerthfawrogi eich amynedd ac fe fyddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi bob amser.
Penderfyniad 2 wythnos
Byddwch yn derbyn hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad y Panel. Os yw’n cael ei gymeradwyo, fe fyddwch yn derbyn eich Llythyr Dyfarnu yn nodi’r dyraniad grant a’r amodau a’r telerau.
Dyddiad Cau Ceisiadau 2026
Ymgeisiwch yn gynnar — gall cyllid gael ei ddyrannu cyn y rownd derfynol
Mae gan y cynllun gyllideb gyfyngedig. Unwaith y bydd wedi ei ddyrannu’n llawn bydd y cynllun yn cau i geisiadau newydd waeth faint o ddyddiadau panel sydd ar ôl.
Mae’n rhaid i’r holl brosiectau fod wedi eu cwblhau’n gorfforol a’r holl anfonebau fod wedi eu cyflwyno erbyn 31 Ionawr 2027.
| Rownd | Dyddiad Cau Ceisiadau | Cyfarfod y Panel | Penderfyniad erbyn |
| 1 |
22 Ebrill 2026 |
13 Mai 2026 |
20 Mai 2026 |
| 2 |
2 Mehefin 2026 |
23 Mehefin 2026 |
30 Mehefin 2026 |
| 3 |
14 Gorffennaf 2026 |
4 Awst 2026 |
11 Awst 2026 |
| 4 |
25 Awst 2026 |
14 Medi 2026 |
22 Medi 2026 |
| 5 |
30 Medi 2026 |
20 Hydref 2026 |
28 Hydref 2026 |
Beth sy’n Digwydd ar ôl Cymeradwyaeth
Unwaith mae eich cais wedi ei gymeradwyo byddwch yn derbyn Llythyr Dyfarnu yn cadarnhau eich dyraniad grant gyda’r amodau a’r telerau ynghlwm.
Ni ddylech ddechrau unrhyw waith na gwneud unrhyw archebion cyn derbyn eich Llythyr Dyfarnu. Bydd dechrau ar unrhyw waith cyn cael cymeradwyaeth yn eich gwneud yn anghymwys ar gyfer cyllid.
Wrth gyflawni gwaith gwella byddwch yn gallu cyflwyno hawliadau am grant gyda thystiolaeth o waith wedi ei gwblhau ac anfonebau. Bydd eich swyddog cefnogi yn eich arwain drwy’r cam hwn.