Alert Section

At ba ddibenion alla i gael cyllid?

Enghreifftiau o waith cymwys

Mae’r Grant Gwella Eiddo Canol y Dref yn talu am amrywiaeth helaeth o welliannau mewn eiddo masnachol ynghanol trefi Sir y Fflint.

Mae grantiau rhwng £5,000 a £50,000 ar gael i dalu hyd at 70% o gyfanswm costau eich prosiect. Bydd arnoch angen cyfrannu o leiaf 30% eich hun.

Porwch drwy’r adrannau isod i weld pa fath o waith sy’n gymwys. Os nad ydych yn siŵr a yw eich prosiect yn gymwys, defnyddiwch ein Gwiriwr Cymhwysedd neu holwch y Tîm Adfywio.

Cynllun ar gyfer gwaith allanol yn bennaf yw’r Grant Gwella Eiddo Canol y Dref. Mae modd ariannu gwaith felly fel prosiectau hunangynhwysol – nid oes angen ichi fod yn gwneud gwaith mewnol i fod yn gymwys.

Blaenau Siopau ac Adeiladau

  • Blaenau siopau newydd
  • Gwella ffenestri arddangos
  • Adfer blaenau siopau traddodiadol
  • Gwella hygyrchedd mynedfeydd

Tu Allan i Adeiladau

  • Trwsio toeau a gosod rhai newydd
  • Gosod ffenestri a drysau newydd
  • Rendro a chladin allanol
  • Ail-bwyntio a glanhau gwaith cerrig
  • Atgyweirio strwythurol

Arwyddion

  • Gosod arwyddion newydd neu’u hadnewyddu
  • Arwyddion wedi’u goleuo
  • Adnewyddu byrddau ffasgia

Goleuadau Allanol

  • Golau diogelwch
  • Golau addurniadol allanol
  • Gosod bylbiau LED mewn goleuadau allanol

Nwyddau Dŵr Glaw

  • Landeri newydd
  • Peipiau dwr newydd
  • Gwaith draenio cysylltiedig
Pwysig – amod ar waith mewnol Nid yw gwaith mewnol yn gymwys ond os yw’n rhan o becyn ehangach o waith sy’n cynnwys gwelliannau allanol. Ni roddir ystyriaeth i ariannu prosiectau mewnol yn unig.

Os ydych chi’n gwneud gwaith allanol sy’n gymwys, gallwch hefyd gynnwys gwelliannau mewnol yn eich prosiect.

Waliau, Nenfydau a Lloriau

  • Waliau mewnol a pharwydydd
  • Nenfydau a soffits
  • Adnewyddu neu wella lloriau
  • Newid cynllun i ddefnyddio gofod yn well

Hygyrchedd

  • Rampiau a mynedfeydd gwastad
  • Toiledau hygyrch
  • Lifftiau a lifftiau llwyfan
  • Dolenni clyw a dynodi llwybrau

Goleuadau

  • Systemau golau LED mewnol
  • Gwella goleuadau nodwedd
  • Goleuadau argyfwng

Cyfleusterau a Lles

  • Cyfleusterau ymolchi hanfodol
  • Ardaloedd lles staff (hanfodol yn unig)
  • Gwella cyfleustodau a gwasanaethau
  • Gwella systemau gwresogi

Strwythurol

  • Atgyweirio strwythurau mewnol
  • Addasu waliau sy’n cynnal pwysau
  • Tanategu (lle bo angen)
Pwysig — amod ar waith effeithlonrwydd ynni Nid yw gwaith er effeithlonrwydd ynni’n gymwys ond os yw’n rhan o becyn ehangach o waith sy’n cynnwys gwelliannau allanol. Ni roddir ystyriaeth i brosiectau effeithlonrwydd ynni’n unig

Mae’r cynllun Gwella Eiddo Canol y Dref yn gallu ariannu gwaith i wella effeithlonrwydd ynni eich eiddo os gwneir hynny ochr yn ochr â gwaith allanol sy’n gymwys. Gallai’r gwelliannau hynny gwtogi ar gostau cynnal eich adeilad a’i baratoi ar gyfer y dyfodol.

Inswleiddio

  • Inswleiddio waliau’n well
  • Inswleiddio toeau’n well
  • Inswleiddio lloriau

Ffenestri

  • Gosod ffenestri gwydr dwbl neu’u hadnewyddu
  • Ffenestri gwydr triphlyg
  • Ffenestri ategol

Gwresogi

  • Systemau gwresogi sy’n defnyddio ynni’n effeithlon
  • Pympiau gwres yr awyr
  • Rheolyddion gwresogi doeth

Ynni Adnewyddadwy a Goleuadau

  • Paneli solar (os cafwyd caniatâd cynllunio)
  • Systemau golau LED (mewnol ac allanol)
  • Awyru mecanyddol sy’n adfer gwres (MVHR)

Nid yw’r mathau canlynol o waith yn gymwys am grant Gwella Eiddo Canol y Dref. Os nad ydych yn siŵr a yw’r gwaith y bwriadwch ei wneud yn gymwys, cysylltwch â’r Tîm Adfywio cyn cychwyn arni.

Gwaith sydd eisoes wedi’i ddechrau neu ymrwymo iddo

  • Unrhyw waith sydd wedi’i ddechrau neu’i gwblhau cyn cymeradwyo’r grant
  • Archebion neu flaendaliadau a wnaed cyn cymeradwyo’r grant
  • Nid oes unrhyw arian ar gael ar gyfer ôl-daliadau ar unrhyw gyfrif

Math o Eiddo

  • Eiddo preswyl yn unig
  • Eiddo y tu hwnt i ffiniau’r wyth o ganol trefi dynodedig yn Sir y Fflint
  • Tir gwag neu adeiladu eiddo newydd

Math o Waith

  • Cynnal a chadw cyffredinol ac ail-addurno
  • Stoc, offer neu ddodrefn
  • Deunydd marchnata neu hyrwyddo
  • Ardrethi busnes neu dalu rhent
  • Costau staffio

Ffioedd Proffesiynol

  • NID yw’r grant yn talu am ffioedd penseiri, syrfewyr a rheolwyr prosiectau.
  • Gellir cyfrif y ffioedd hynny, fodd bynnag, yn eich cyfraniad cyfatebol o 30%

Lleoliad

Eiddo a saif y tu hwnt i ffiniau’r ardaloedd sy’n gymwys am grant Gwella Eiddo Canol y Dref:


Noder: Mae cyllid cyfyngedig ar gael hefyd ar gyfer eiddo sydd wedi’u lleoli hyd at 0.5 milltir o ffiniau canol trefi dynodedig. Cysylltwch â’r Tîm Adfywio os ydych yn meddwl bod eich eiddo yn yr ardal hon.

  Nodyn ynglŷn â ffioedd proffesiynol Ni ellir hawlio ffioedd proffesiynol ar gyfer penseiri, syrfewyr ac ati fel gwariant gyda’r grant, ond maent yn cyfrif at eich cyfraniad cyfatebol chi. Er enghraifft, os mai £30,000 yw cyfanswm cost eich prosiect (gan gynnwys £3,000 ar gyfer ffioedd penseiri), mae arnoch angen cyfrannu £9,000. Gellir cyfrif ffioedd y pensaer yn y £9,000 hwnnw.